Croeso i Cascade
Nod CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd.
Rydyn ni’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau i blant anghenus, amddiffyn plant, plant o dan ofal a mabwysiadu.
Ein gwaith
- Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol
- Sicrhau bod ein hymchwil ar gael i bawb; gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau.
- Datblygu adnoddau i gynnal gwaith ymchwil ynglŷn â gofal cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr gan ddechrau ar lefel is-raddedig a pharhau yn hwyrach yn eu gyrfa.
- Ymgysylltu ag amrywiaeth o gydweithredwyr ym maes ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.
Ein dull gweithredu
- Yr unig ganolfan o’i math yng Nghymru – yn hyrwyddo tystiolaeth, gwella canlyniadau
- Ystod amrywiol o ddulliau ymchwil – Ethnograffeg, cyfweliadau a grwpiau ffocws, setiau data carfanau ac arferol, lled-arbrofion, treialon ac adolygiadau a reolir ar hap (cyflym, systematig a realaidd)
- Cysylltiadau cryf â pholisïau ac arferion – Rhieni a phlant, gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr, y llywodraeth (Cymru a’r DU) a’r trydydd sector
- Cyllid grant gan amrywiaeth o ffynonellau – cynghorau ymchwil, y llywodraeth a’r drydydd sector