• Adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi yn arholi yr effaith Rhestr Wirio

    Pa gwestiwn sydd dan sylw yn yr astudiaeth hon? Archwiliodd ein hastudiaeth effaith ymyrraeth rhestr wirio ar alluoedd gweithwyr cymdeithasol i ragweld (pa mor dda y gallent ragweld tebygolrwydd gwahanol ddigwyddiadau a chanlyniadau) a rhagfarn cadarnhau (i ba raddau yr oedd ymatebwyr yn ceisio gwybodaeth i gadarnhau, yn hytrach herio, eu barn gyfredol) . Gallwch weld copi… Read More

  • Adolygiad CASCADE yn hysbysu Dispatches ar Channel 4

    Heddiw, am 10pm ar Channel 4, bydd adolygiad o ymchwil gan Julie Doughty, Nina Maxwell, a Tom Slater o Brifysgol Caerdydd yn cael ei drafod ar Dispatches ar Channel 4. Bydd y rhaglen yn ystyried system y llysoedd teulu ac yn datgelu sut y gall llysoedd orchymyn i’r heddlu symud plant nad ydyn nhw mewn… Read More

  • Adroddiadau newydd yn archwilio ac yn adolygu arferion ym maes atal trais ieuenctid

    Mae CASCADE yn falch iawn o fod wedi cael eu comisiynu gan Uned Atal Trais Cymru i gynnal dau adolygiad o dystiolaeth: mapio’r ffactorau risg a’r ymyriadau ar gyfer atal trais ymhlith pobl ifanc, a rhoi dulliau cyd-gynhyrchu ar waith mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu dulliau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth ar… Read More

  • Croeso i Dr Heather Taussig

    Mae Dr Heather Taussig, ymchwilydd o’r Unol Daleithiau ym maes gofal cymdeithasol i blant, wedi ymuno â CASCADE am 4 mis ar gymrodoriaeth Fulbright. Mae Dr Taussig yn Athro yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Graddedigion Prifysgol Denver ac yn athro atodol yng Nghanolfan Kempe ar gyfer Atal a Thrin Cam-drin ac Esgeuluso Plant. Mae Taussig yn bwriadu cynnal ymchwil ar y… Read More

  • Gwobr erthygl orau i ymchwilydd CASCADE

    Mae Dr Martin Elliott, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil CASCADE wedi ennill gwobr genedlaethol flaenllaw am yr erthygl orauyn y British Journal of Social Work yn 2020. Dyfernir Gwobr Kay McDougall Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) am ehangder ysgolheictod, soffistigedigrwydd theori, trylwyredd ymchwil, perthnasedd i ymarfer ac apêl ryngwladol. Mae papur Martin yn edrych ar anghydraddoldebau… Read More

  • Cyhoeddiad Llyfr Esgeuluso Plant

    Mae Dr Alyson Rees ynghyd ag academydd o’r Ysgol Gwaith Cymdeithasol ac academydd o Brifysgol Bryste, Dr Victoria Sharley wedi’u comisiynu gan Coram BAAF i ysgrifennu llyfr ar esgeuluso plant ar gyfer ymarferwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan gynnwys gofalwyr maeth. Bydd y llyfr yn helpu i lywio ymarfer ym maes gofal cymdeithasol. Disgwylir y caiff y… Read More

  • Adolygiad o Adolygiadau Ymarfer Oedolion

    Comisiynwyd Prifysgol Caerdydd gan y Bwrdd Diogelu Cenedlaethol yng Nghymru ym mis Tachwedd 2020 i gynnal dadansoddiad amlddisgyblaethol o Adolygiadau Ymarfer Oedolion a gynhaliwyd rhwng 2014 a 2020. Mae academyddion o dair disgyblaeth wahanol yn rhan o’r astudiaeth – Gwaith Cymdeithasol (gan gynnwys profiad o ymarfer), darllen y Gyfraith a Throseddeg a chodio triphlyg Adolygiadau… Read More

  • Meithrin Lles

     Ym mis Chwefror 2021 comisiynwyd Prifysgol Caerdydd i werthuso cyflwyniad rhaglen Meithrin Lles y Rhwydwaith Maethu ar draws Cymru. Gwerthusodd Prifysgol Caerdydd raglen beilot gychwynnol mewn Awdurdod Lleol yn ne Cymru yn 2017-2019. Nod y rhaglen Meithrin Lles yw gwella canlyniadau plant sy’n derbyn gofal ac mae’n cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr a gyflwynir i… Read More

  • Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE

    Mae CASCADE wedi ymrwymo i gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw yn ei ymchwil. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn ehangu ein gwaith o gynnwys y cyhoedd yn sylweddol, un o nodau allweddol cyllid seilwaith diweddar Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Yn ogystal â’n grŵp cynghori o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil pobl ifanc â… Read More

  • Cyhoeddi Prosiectau Ymchwil Newydd

    5 prosiect ymchwil newydd wedi’u dyfarnu i ymchwilwyr CASCADE, yn ymwneud ag ystod o bynciau.  Gwerthusiad o Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Action for Children Mae rhaglen arloesol sy’n ceisio tywys pobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddau cyfundrefnol difrifol wedi’i dyfarnu i Dr Nina Maxwell yn CASCADE, Prifysgol Caerdydd gan Action for… Read More