Astudiaeth archwiliadol o’r oruchwyliaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, mewn timau amlddisgyblaethol, mewn saith gwlad Ewropeaidd.

Arolwg

Archwilio profiadau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, o, a’u safbwyntiau ynghylch goruchwyliaeth wnaeth yr astudiaeth hon; gweithwyr proffesiynol yw’r rhain sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, mewn timau sy’n amlddisgyblaethol o ran amddiffyn plant, mewn saith gwlad Ewropeaidd (Albania, Bwlgaria, Croatia, Kosovo, Moldofa, Rwmania, a Serbia).

Nodau’r astudiaeth oedd archwilio’r gwahanol ddealltwriaethau, profiadau, a heriau sy’n gysylltiedig â goruchwyliaeth, o safbwyntiau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, ac sy’n ymwneud â gwaith achos amlddisgyblaethol gyda phlant a theuluoedd. Yr amcanion penodol oedd:

  • Creu ciplun o’r oruchwyliaeth a gynhelir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, mewn timau amlddisgyblaethol ar draws y rhanbarth.
  • Archwilio goruchwyliaeth o ran sut brofiadau sydd gan weithwyr proffesiynol ym maes amddiffyn plant, ohoni, eu hagweddau ati, a’u hymddygiad o ran yr oruchwyliaeth honno.
  • Nodi ffactorau allweddol sy’n rhwystro ac yn hyrwyddo arferion goruchwylio mewn cyd-destunau lle ceir timau amlddisgyblaethol.
  • Creu dadansoddiad cymharol yn y rhanbarth.
  • Nodi arferion da.
  • Creu argymhellion ar gyfer cryfhau goruchwyliaeth ar draws y rhanbarth ac mewn gwledydd penodol.

Gweithgareddau/Dulliau

Defnyddiwyd arolwg, cyfweliadau â hysbyswyr allweddol, dadansoddiadau o ddogfennau ac astudiaeth dull Q.

Canfyddiadau

Cydnabyddir pwysigrwydd goruchwyliaeth yn eang ar draws y rhanbarth, o leiaf gan y rhai sydd â phrofiad a gwybodaeth o oruchwyliaeth. Mae goruchwylwyr a’r rhai a oruchwylir fel ei gilydd yn gadarnhaol iawn ynghylch manteision goruchwyliaeth i dimau amlddisgyblaethol, i weithwyr unigol ac i blant a theuluoedd. Mae consensws cryf ynghylch yr angen am oruchwyliaeth sy’n cefnogi datblygu ac sy’n rhoi cefnogaeth emosiynol. Mae goruchwyliaeth yn gweithio orau pan mae’n digwydd ar wahân i unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r ffordd y rheolir y gwaith, a phan fydd yn digwydd yn rheolaidd ac yn gyson.

Fe wnaethom hefyd nodi ambell i farn wahanol ynghylch beth yw goruchwyliaeth, sut y dylai weithio a phwy sy’n cael y budd mwyaf ohoni. Dywedodd rhai ymatebwyr y dylai goruchwyliaeth fod o fudd i’r plentyn yn y pen draw, ac y dylai ganolbwyntio ar sicrhau gwaith achos o ansawdd. Dywedodd eraill y dylai goruchwyliaeth fod o fudd i’r gweithiwr yn y pen draw, ac y dylai ganolbwyntio’n fwy ar fod yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac o ran datblygiad. Roedd gwahaniaethau o’r fath yn gynnil ac ni ddylent amharu ar y consensws ynghylch pwysigrwydd goruchwyliaeth, a’r angen am gefnogaeth emosiynol a datblygiad proffesiynol. Nodwyd enghreifftiau o arfer da ar draws y rhanbarth, ac yn fwyaf nodedig yng Nghroatia a Rwmania.

Fodd bynnag, bu i rai o’r bobl fu’n ymateb i’r astudiaeth leisio pryderon sylweddol hefyd ynghylch diffyg goruchwyliaeth mewn llawer o leoedd. O ystyried cymhlethdod gwaith amddiffyn plant, mae hyn yn golygu bod gweithwyr yn cael eu gadael heb ddigon o gefnogaeth, gan arwain at wasanaeth ar gyfer teuluoedd nad yw cystal ac y dylai fod o ran ansawdd, a bod gweithwyr wedi gor-ymlâdd. Lleisiwyd pryderon hefyd am y cymorth sydd ar gael i oruchwylwyr, diffyg dealltwriaeth o ran goruchwyliaeth o fewn y system amddiffyn plant, ac am natur tymor byr y cyllid. Mewn rhai gwledydd, lleisiwyd pryderon ynghylch diffyg fframwaith cyfreithiol sydd wedi’i ddatblygu’n llawn, ar gyfer cynnal goruchwyliaeth.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDavid Wilkins
Ysgol CysylltiedigN/A
Partneriaid CysylltiedigCynhyrchwyd yr ymchwil gan ddilyn fframwaith y prosiect
Child Protection Hub project.

wedi’i gefnogi gan:
Austrian Development Agency, Oak Foundation,
Terre des hommes.

Nid yw’r ymchwil, o reidrwydd, yn adlewyrchu barn
y rhoddwyr.

Roedd y Tîm Ymchwil yn cynnwys:
Irina Adascalitei, Ines Rezo Bagarić, Milena Marinova,
Irina Opincaru, Olivia Pirtac-Goaga, Marija Nijemcevic Popovski,
Xheni Shehaj and Izela Tahsini,

gyda chymorth technegol tîm ChildHub:
Marta Bene, Alketa Lasku, and Judit Nemeth-Almasi.
CyllidwyrThe Austrian Development Agency, Oak Foundation,
Terre des hommes.
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedighttps://childhub.org/en/child-protection-online-library/supervision-child-protection-professionals-multidisciplinary-teams
Dogfennau Cysylltiedighttps://childhub.org/sites/default/files/library/attachments/Regionalis_2021_04_20.pdf