Fel rhan o Grŵp Rhieni a rhwydwaith CASCADE rydym wedi cynnig y cyfle i aelodau gyfrannu at flogiau os hoffent wneud hynny. Bydd y rhain yn straeon, negeseuon neu flaenoriaethau ymchwil o’u safbwynt nhw. Gobeithiwn y bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd ym mlog CASCADE ac y bydd yn ffordd arall i ni roi llais i’r rhai sydd â phrofiad byw o ofal cymdeithasol plant. 

Nid llyfr cyffredin mo hwn, ond mae’n syndod faint o weithwyr proffesiynol sydd ddim yn gwybod am ei fodolaeth ac, ar ôl y blynyddoedd o waith y mae Dr Louise Roberts wedi ymrwymo iddo, credaf fod angen i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ddarllen y llyfr hwn. Mae yna ffeithiau anhygoel a straeon go iawn ac roeddwn i’n ddigon ffodus i helpu Dr Louise Roberts gyda’r llyfr. Ond, yr her fawr yw cael gweithwyr proffesiynol i’w ddarllen. Felly, yr hydref hwn wrth i’r nosweithiau dywyllu, credaf y byddai’n syniad da i chi ei godi a’i ddarllen. 

llun clawr llyfr Louise Roberts 'The Children of Looked After Children
Llyfr Louise Roberts ‘The Children of Looked After Children’ Ar gael yma

Fel rhywun sydd wedi gadael gofal, rwy’n aml yn teimlo bod pobl yn fwy drwgdybus ohonof fi. Mae’r pandemig wedi bod yn heriol ac yn anodd i fi a fy nheulu.  

Hoffwn ychwanegu yma nad yw fy mhlant ar y gofrestr amddiffyn plant bellach nac yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol nac unrhyw wasanaethau eraill. Maen nhw gartref gyda fi ac yn dod ‘mlaen yn wych.

Hoffwn rannu rhai enghreifftiau o’r ddrwgdybiaeth a’r stigma yma sy’n fy wynebu i dynnu sylw at fy mhrofiad byw innau a rhieni eraill sydd â phrofiad o ofal. 

Rwy’n gwneud yn siŵr bod fy merch wedi gwisgo ar gyfer y tywydd wrth fynd â’r mab i’r ysgol. Mae mamau rwy’n eu nabod yn gadael y plant yn eu pyjamas ac yn rhoi cot ar eu pennau yn y pram. Mae fy merched bob amser wedi gwisgo o’u corun i’w sawdl, oherwydd ar yr un diwrnod pan na fyddan nhw, bydd rhywun yn gweld y pyjamas ac yn meddwl ‘mod i ddim yn ymdopi. Ac, mewn gwirionedd, rwy’n credu ‘mod i’n gwneud gwaith da.                         

Roedd y pandemig yn golygu bod llawer mwy o gefnogaeth. Roedd ein hysgol yn cynnig pecynnau hylendid, pacedi glanhau a pharseli bwyd sych. Y farn gyffredin oedd bod hyn yn beth cadarnhaol ac yn help mawr, ond pam felly y byddai’r math hwn o gymorth wedi cael ei gysylltu â rhywun sy’n ei chael hi’n anodd cyn y pandemig? Rwy’n credu mai’r un peth cadarnhaol am y pandemig oedd bod mwy o gefnogaeth a llai o farnu i bobl sydd angen help gyda phethau sylfaenol. 

Dydw i ddim yn gyrru ac fel mam sengl heb deulu, ro’n i’n gorfod aros i fyny tan hanner nos yn aros i’r slotiau siopa ar-lein ddod ar gael, fel y gallen ni gael gafael ar yr hanfodion. Er enghraifft, weithiau byddwn i’n rhedeg allan pan roedd cyfyngiadau ar gadachau babanod. Roedd hi’n anodd gwneud dim ond un daith siopa y mis. A yw hyn yn fy ngwneud i’n fam ddrwg? Na, ond pe bawn i wedi dweud wrth unrhyw un ‘mod i wedi rhedeg allan o gadachau cyn y pandemig, byddwn i wedi wynebu beirniadaeth negyddol. Diolch byth, mae gennyf gymdogion da ac roedden nhw’n hollol wych.

Roeddwn hefyd yn ddiolchgar iawn i’r elusen Voices From Care Cymru.  Ar un achlysur roedd yn rhaid i fi hunanynysu, ac fe wnaeth eu staff ddod â bwyd a hanfodion i’m cartref. Hefyd, mae Byddin yr Iachawdwriaeth wedi bod yn wych. 

Felly, unwaith eto, datryswyd y sefyllfaoedd hyn gyda chymorth, nid beirniadaeth. Yn y pen draw, mae hyn yn golygu bod fy mhlant yn dal i fod gartref yn hapus.

Hoffwn i fwy o weithwyr proffesiynol ddarllen y llyfr hwn a deall y rhwystrau y mae mamau ifanc fel fi yn eu hwynebu. Mae’n destun pryder bod y gweithwyr proffesiynol hynny sy’n gweithio yn y maes hwn bob amser yn cael yr un sgyrsiau, mae angen i ni symud ymlaen. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi, a gobeithio eich bod chi’n deall ein bod ni i gyd yn bobl.    

Ysgrifennwyd gan: Jen, Grwp Rhieni CASCADE