“Mae gan ymchwilwyr cymheiriaid ddealltwriaeth ddofn a phersonol o’r gymuned gymdeithasol neu ddaearyddol sy’n cael ei hastudio. Gallant gynorthwyo gyda dylunio ymchwil, helpu i ddatblygu offer ymchwil, casglu a dadansoddi data, a helpu i ysgrifennu a lledaenu canfyddiadau.”

Sefydliad Young 2022

Roedd fy mhrofiad byw yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol a’r system amddiffyn plant.

Rwy’n un o’r aelodau a sefydlodd y Bwrdd Cynghori Teuluoedd (grŵp FAB), yn Camden yn 2014 a deuthum yn gydlynydd y grŵp FAB yn ddiweddar, yn aelod lleyg o Bartneriaeth Diogelu Plant Camden, ac yn Eiriolwr hyfforddedig dros Rieni ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Plant. Rwyf hefyd yn Ymgyrchydd dros Berthnasoedd ac yn hyrwyddo Cynadleddau Grwpiau Teuluol, Eiriolaeth dros Rieni, Cyfranogiad Rhieni, ac yn defnyddio fy mhrofiad trwy berthnasoedd a gweithio ar y cyd ag eraill i gyflawni newid cymdeithasol.

Dechreuodd fy siwrnai pan ofynnodd Tim Fisher, fy rheolwr ym Mwrdeistref Camden yn Llundain, i mi a oedd gennyf ddiddordeb mewn bod yn gyd-ymchwilydd ar gyfer prosiect ynghylch Cynadleddau Grŵp Teuluol.

Y prosiect: Caiff Family VOICE, ei arwain gan yr Athro Jonathan Scourfield o CASCADE, Prifysgol Caerdydd.

Roeddwn wrth fy modd ac yn gyffrous am y cynnig oherwydd, i mi, mae’n beth mor ystyrlon cael defnyddio fy mhrofiad yn rhan o’r prosiect arwyddocaol hwn a fydd yn siapio dyfodol Cynadleddau Grŵp Teuluol. Rwy’n angerddol am hyn ac mae’n agos iawn at fy nghalon.  Mae’n beth mawr.

Ond ar yr un pryd, roeddwn i’n nerfus iawn ac yn cwestiynu a oedd gen i’r sgiliau ar gyfer y swydd.  Ond roedd y llawenydd roeddwn i’n ei deimlo wrth feddwl am y cyfle cyffrous hwn yn fwy arwyddocaol na fy mhryderon, felly derbyniais y cynnig ac ymunais â CASCADE yn gyd-ymchwilydd.

Mae’r Athro Jonathan yn gyfeillgar ac yn ofalgar. Mae’n gwybod bod hyn i gyd yn newydd i mi ac yn aml mae’n gwirio sut rydw i’n teimlo, a ydw i’n gyfforddus gyda fy nhasgau, neu a ydw i angen unrhyw gefnogaeth.  Fe wnaeth fy rheolwr llinell, Sophie, fy helpu i ymsefydlu yn y rôl newydd a rhoddodd gyngor i mi ar lawer o bethau. Hefyd, mae criw CASCADE i gyd yn garedig a chymwynasgar iawn, sy’n gwneud i mi deimlo bod croeso i mi yma, a fy mod yn rhan o’r sefydliad hwn.

Ers i mi ymuno â’r tîm, rwyf wedi bod yn rhan o gais y prosiect, gan ddilyn cyrsiau i wella fy sgiliau mewn ymchwil ansoddol, ymuno â chyfarfodydd rheolaidd gyda’r tîm i drafod y prosiect, a chynllunio ar gyfer y gweithdai.

Mae gan Family VOICE bedwar gweithdy mewn dau safle, sef Gogledd Cymru, a Camden.  Fi sy’n gyfrifol am drefnu’r gweithdy yn Camden.  Roedd llawer o baratoi ar gyfer y gweithdy, megis astudio’r model rhesymeg, dylunio cwestiynau, cysylltu â rhanddeiliaid, hwyluso, ysgrifennu a gwaith gweinyddol arall.

Fe wnes i fwynhau ac rwyf wedi dysgu llawer o’r broses, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cyflwyno’r gweithdy cyntaf yn llwyddiannus ym mis Mehefin.

Hyd yn hyn, rwyf wrth fy modd â’r profiad hwn o fod yn gyd-ymchwilydd yn y Brifysgol.  Mae gweithio gyda thîm ymchwil wedi dyfnhau fy niddordeb mewn ymchwil ansoddol ac wedi gwella fy sgiliau ar gyfer gwaith arall.  Ehangodd fy rhwydwaith hefyd, ac rwyf wedi cyfarfod ag ymchwilwyr eraill sydd eisiau cymorth ar brosiectau eraill. 

Ond yr hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw’r cyfle i gymryd rhan, i ddefnyddio fy mhrofiadau poenus er daioni ac i helpu i lunio dyfodol gwaith cymdeithasol, sy’n hanfodol i gyd-ymchwilydd yn fy marn i.

Kar Man