Nod y gwerthusiad dwy-flynedd hwn o’r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf yng Nghymru yw cefnogi’r gwaith o gyflwyno a datblygu Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru a galluogi gwerthusiad trylwyr ar raddfa fawr yn y dyfodol.

Trosolwg

Cafodd Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf y DU ei dreialu yn Llundain rhwng 2008 a 2011, ac ystyrir yn eang bod y model yn llwyddo i leihau nifer y plant mewn gofal drwy ailuno teuluoedd. O ganlyniad, mae nifer y Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn y DU wedi tyfu’n gyson, ac mae 16 o dimau wrthi’n gweithio mewn 24 o lysoedd ac yn gwasanaethu 37 o awdurdodau lleol.

Y Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol mwyaf newydd yn y DU, sef un Caerdydd a’r Fro, yw’r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf yng Nghymru. Drwy’r gwerthusiad hwn, rydym yn ceisio cefnogi’r gwaith o gyflwyno Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn effeithiol yng Nghymru, paratoi’r llwyfan ar gyfer gwerthusiad ar raddfa fwy, llenwi bylchau yn ein dealltwriaeth a diweddaru ein theori o sut mae Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn gweithio i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd. 

Gweithgareddau a dulliau

Dyma werthusiad realaidd a dulliau cymysg sy’n cynnwys tri cham, a fydd yn cael ei gynnal o fis Tachwedd 2021 tan fis Ionawr 2024.

Cam 1: Byddwn yn cyfweld â rhanddeiliaid proffesiynol wrth i’r cynllun peilot gael ei sefydlu er mwyn cael gwybod beth maent yn ei ddisgwyl ganddo a beth yw eu profiad o’i sefydlu, gan gynnwys nodi’r hyn sy’n rhwystro ac yn hwyluso’r gwaith o gyflwyno Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwn yn cynnal adolygiad o bolisïau ac ymchwil.

Cam 2: Byddwn yn cyfweld â theuluoedd a rhanddeiliaid proffesiynol, yn ogystal ag arsylwi gwrandawiadau llys, ar wahanol adegau yn ystod achosion. Bydd data ansoddol a geir yn ystod y cam hwn yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu, profi a mireinio fersiynau wedi’u diweddaru o theori rhaglen a ddatblygwyd yn flaenorol mewn cylchoedd iteraidd drwy ddefnyddio synthesis realaidd.

Cam 3: Byddwn yn cyfweld â’r un teuluoedd yng Ngham 2 eto (cyn belled ag y bo modd). Byddwn hefyd yn dadansoddi data meintiol a gesglir gan safle’r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol a phenderfynu’n derfynol ar theori ein rhaglen o sut mae Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn gweithio yng Nghymru.

Canfyddiadau

Canfyddiadau interim

Canfyddiadau llawn


Person Arweiniol  

Prif YmchwilyddDavid Westlake

Staff Academaidd

Cyd-YmchwilyddMelissa Meindl

Gwybodaeth Cysylltiedig

ArianwyrCentre for Justice Innovation, Welsh Government