Data gofal cymdeithasol plant yng Nghymru

Pan ddaw plant a phobl ifanc i sylw gwasanaethau cymdeithasol plant, mae awdurdodau lleol yn casglu swm mawr o wybodaeth am eu profiad o ofal cymdeithasol fel mater o drefn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r data hwn ar gael i ymchwilwyr. Yng Nghymru, gellir cyrchu’r data hwn fel data gweinyddol ar lefel unigol a dienw. Yna, gellir cysylltu hyn â setiau data eraill fel y gellir ateb amrywiaeth eang o gwestiynau ymchwil. Pan fydd y setiau data hyn yn cael eu cysylltu â setiau data eraill, maent yn brosiectau cysylltu data. Mae’r tudalennau canlynol yn crynhoi pa ddata sydd ar gael a sut i gael mynediad at y data.

Yn ogystal â mynediad at y data ar lefel unigol, mae data cyfun hefyd ar gael fel rhan o gyhoeddiad ystadegol neu fel tablau i awdurdod lleol a thablau lefel cenedlaethol ar wefan Stats Cymru. Yn ogystal, mae’r data hwn wedi cael ei grynhoi gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o’u Porth Data Gofal Cymdeithasol i Gymru ac mae’n ymddangos yng Nghatalog Data Gofal Cymdeithasol y DU sydd wedi cael ei gydymffurfio gan yr LSE a’r Ganolfan Polisi a Gwerthuso Gofal.

Beth yw data gweinyddol/arferol?

Mae’r term ‘data gweinyddol’ yn cyfeirio at wybodaeth am bobl neu weithgarwch sefydliadol, sy’n cael ei gasglu fel mater o drefn gan y llywodraeth, asiantaethau statudol neu asiantaethau eraill at ddibenion sefydliadol. Mae data gweinyddol sy’n cael ei gasglu neu ei gynhyrchu gan adrannau llywodraeth leol a chanolog, y llysoedd ac asiantaethau sector cyhoeddus eraill, fel arfer yn cael ei ddal ar lefel poblogaethau gwasanaeth cyfan, gan alluogi ymchwil ar gyflymder a graddfa, a fyddai’n anodd iawn ei gyflawni trwy ddulliau eraill.

Beth sy’n cael ei gasglu?

Yng Nghymru, mae dau gasgliad data blynyddol allweddol sy’n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a’u rhannu â Chronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw.

Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal (LACW)

Mae’r ffurflen hon yn cynnwys data episodau ar lefel unigol a data demograffig ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth.

I gael rhagor o wybodaeth am y set ddata hon, is-setiau o ddata a’r meta-ddata sydd ar gael, cliciwch ar y dolenni isod:

Plant Mewn Angen (CINW) / Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (CRCS)

Mae’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth, a’i ragflaenydd y Cyfrifiad Plant Mewn Angen, yn cynrychioli cipolwg ar y rhai sy’n derbyn gofal a chymorth gan eu hawdurdod lleol sydd wedi cael achos agored am 3 mis cyn 31ain Mawrth. Mae hwn yn gasgliad ehangach na’r Plant sy’n Derbyn Gofal, ac mae hefyd yn cynnwys y rhai ar y gofrestr amddiffyn plant ac eraill nad ydynt ar y gofrestr nac yn derbyn gofal, ond sydd yn derbyn gofal a chymorth.

I gael rhagor o wybodaeth am y setiau data hyn a’r meta-ddata sydd ar gael, cliciwch ar y ddolen isod:

Sut ydw i’n cael mynediad at y data?

Mae dau lwybr ar gyfer cyrchu’r data dienw lefel unigol. Bydd y llwybr sy’n cael ei ffafrio yn dibynnu a oes modd ateb y cwestiwn ymchwil gan ddefnyddio data’r gwasanaethau cymdeithasol yn unig – ac os felly dylid gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru yn y lle cyntaf, ynteu a fydd angen cysylltu â setiau data eraill – ac os felly dylid cyfeirio ceisiadau at Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, cliciwch ar y dolenni priodol.

Pan fydd y setiau data hyn yn cael eu cyrchu trwy Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, yna gellir eu cysylltu â data eraill am blant Cymru a’u teuluoedd a gedwir yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Mae setiau data yn cynnwys data cyfiawnder teuluol gan Cafcass Cymru a’r llysoedd; addysg; iechyd a chyfiawnder troseddol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystod o setiau data a gedwir yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ar gael yma.

Sut alla i gael gwybod am yr ymchwil sydd eisoes yn bodoli?

Mae nifer o brosiectau cysylltu data, dan arweiniad ymchwilwyr sy’n rhan o’r CASCADE – Partneriaeth Abertawe sydd naill ai wedi’u cwblhau neu sydd ar y gweill. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Wrth i’r defnydd o setiau data gwasanaethau cymdeithasol gynyddu, rydyn ni’n rhagweld y bydd ymchwilwyr eraill yn cyhoeddi eu canfyddiadau. Gellir gweld rhestr o gyhoeddiadau perthnasol yma.

Os ydych chi’n ymwybodol o brosiectau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyfleoedd Ariannu

Ar hyn o bryd mae nifer o gyllidwyr yn ariannu prosiectau cysylltu data lle mae pwyslais ar fynd i’r afael â bylchau yn y sylfaen dystiolaeth o amgylch gofal cymdeithasol plant. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae meini prawf cymhwysedd a lefelau cyllid yn amrywio, felly byddem yn annog ymchwilwyr i wirio’r manylion yn ofalus. Yn yr un modd, yn dibynnu ar ffocws yr ymchwil, efallai y bydd cyfleoedd ariannu eraill sy’n werth eu harchwilio.

Cenhadaeth CASCADE yw gwella llesiant, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd ynghylch maes gofal cymdeithasol plant yn ogystal â thrwy rannu gwybodaeth newydd a chyfredol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau.