Yn Cascade, mae ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a theuluoedd yn ein sbarduno ymlaen. Rydym yn gwybod bod angen i ni weithio’n agos gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl eraill sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau er mwyn i’n hymchwil gael yr effaith fwyaf a gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt.

Image

Rydym wedi bod yn ffodus dros lawer o flynyddoedd i allu gweithio gyda llawer o oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy ein grŵp ‘Lleisiau Cascade’. Maent wedi ein helpu drwy.

Nawr, gyda chefnogaeth cyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (dolen i blog Donald?), rydym yn cynllunio ehangu ein gwaith gyda phobl sydd a phrofiad o wasanaethau’n sylweddol. Byddwn yn gwneud hyn drwy sefydlu rhwydwaith o rieni a gofalwyr, er mwyn deall eu blaenoriaethau ar gyfer y sector, ac fel y gallan nhw ein cynorthwyo’n uniongyrchol wrth ymgymryd â phrosiectau ymchwil (er enghraifft, drwy helpu i lunio cwestiynau ymchwil, dyluniad astudiaethau, a chasglu a dadansoddi’r data).

Ar ben hynny, rydym am weithio’n agosach gyda gweithwyr cymdeithasol. Er mwyn cyflawni’r nod hwn, rydym yn datblygu gwaith ExChange ymhellach (dolen i’r wefan) a hefyd yn gweithio i greu rhwydwaith o hyrwyddwyr dros ddefnyddio tystiolaeth o fewn awdurdodau lleol Cymru.

Bwrdd Cynnwys CASCADE

Er mwyn ein helpu i gynnwys mwy o bobl, rydym wedi creu bwrdd strategol o arbenigwyr ar sail profiad i gefnogi CASCADE i ddatblygu ei ymdrechion i gynnwys pobl. Bydd y bwrdd yn adolygu ac yn monitro ein cynnydd yn ogystal â chynnig syniadau ar draws y ganolfan yn unol â safonau cynnwys y cyhoedd.

Mae’r aelodau’n cynnwys y rhai sydd â phrofiad o ofal, mabwysiadu, digartrefedd, maethu ac amddiffyn plant fel rhiant.

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan cysylltwch â Cascade