Prosiectau Ymchwil Presennol CASCADE
Gwerthusiad dulliau cymysg o eiriolaeth rhieni yng Nghymru
Eiriolaeth rhieni yng Nghymru: Gwerthusiad Dulliau Cymysg o’i Effeithiolrwydd wrth Gefnogi Rhieni Ar hyn o bryd Cymru sydd â’r gyfran uchaf o blant mewn gofal ymhlith gwledydd y DU, ac mae’n flaenoriaeth polisi gan Lywodraeth Cymru i ostwng nifer y plant mewn gofal. Mae’r potensial ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth rhieni (PA) i helpu i gyflawni’r… Read More
Anghydraddoldebau Lles Plant yng Nghymru: Ymarfer ac Atal
Mae’r astudiaeth yn archwilio’r berthynas rhwng tlodi ac ymarfer gwaith cymdeithasol, drwy archwilio sut mae gweithwyr cymdeithasol yn deall ac yn cydnabod tlodi fel rhan o’u hasesiadau a’u gwaith yn gwneud penderfyniadau gyda theuluoedd. Arwain Ymchwilio i’r berthynas rhwng tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol ac ymyriadau lles plant, fel dod yn blant sy’n ‘derbyn gofal’ neu… Read More
Cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n perthyn: gwerthusiad o wasanaeth Cadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd Barnardo’s/ Sir Fynwy
Gwerthusiad o’r gwasanaethau cefnogol a gynigir i deuluoedd yn Sir Fynwy gyda’r nod o gryfhau teuluoedd sydd o dan orchymyn gofal neu Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig (SGO) ar hyn o bryd. Arolwg Mae’r prosiect hwn yn werthusiad 12 mis o wasanaethau cefnogol a gynigir i deuluoedd yn Sir Fynwy. Mae gwasanaethau’n cael eu cynnig gan dîm… Read More
Cefnogi Rhieni mewn gofal ac wrth ei adael: #NegeseuoniRieniCorfforaethol
Cefnogi rhieni sydd â phrofiad o ofal Arolwg Nodau’r prosiect hwn yw herio stigma, gwahaniaethu a deilliannau gwael i rieni ifanc mewn gofal ac yn gadael gofal. Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried a hyrwyddo arfer da i rieni mewn gofal ac yn gadael gofal. Gweithgareddau a… Read More
CLASS Cymru: Llunio adnodd ar-lein ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Mae CASCADE yn cydweithio â CLASS Cymru a Sefydliad Rees i lunio gwefan a fydd yn helpu pobl a fu o dan ofal a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw i ddod o hyd i wybodaeth angenrheidiol am y brifysgol. Arolwg Mae deilliannau pobl ifanc a fu o dan ofal yng Nghymru a’r deyrnas ehangach yn… Read More
Cymorth i bobl ifanc dros 18 oed sy’n gadael gofal
Sut mae pobl ifanc mewn gofal yn cael cymorth i fyw gartref ar ôl troi’n 18 oed? Arolwg Adolygiad rhyngwladol o’r ddarpariaeth gofal ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed sy’n gadael gofal y wladwriaeth. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar y cynllun Pan fydda i’n Barod yng Nghymru a darpariaethau tebyg o fewn a’r tu… Read More
Datblygu Gwasanaeth Cymorth Adferol Arloesol i Deuluoedd Hen Filwyr ac arnynt Anhwylder Straen Wedi Trawma
Helpu teuluoedd hen filwyr sy’n dioddef Arwain Mae llawer o hen filwyr y deyrnas hon yn dioddef ag anhwylder straen ar ôl trawma. Er bod rhywfaint o gymorth a thriniaeth ar gael i hen filwyr, dim ond ychydig sydd ar gael i’w teuluoedd er gwaetha’r ffaith y bydd effeithiau teimladol ac ymddygiadol cryf problemau difrifol… Read More
Deall profiadau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru ym maes addysg uwch
Anelu at ddeall ymyriadau Sefydliadau Addysg Uwch (SAUau) yng Nghymru sy’n targedu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac asesu llwyddiant, neu fel arall, yr ymyriadau hyn er mwyn datblygu model o arferion gorau Arolwg Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru a’r DU yn profi canlyniadau gwaeth o ran ystod… Read More
Deall sut mae gweithredu polisi gofal cymdeithasol i blant yng Nghymru
Astudiaeth o weithredu’r canllawiau newydd ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant yng Nghymru Arolwg Diben canolog yr astudiaeth yw dod i ddeall sut mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol allweddol yn deall ac yn gweithredu’r canllawiau newydd am gam-fanteisio ar blant yn rhywiol gan Lywodraeth Cymru. Hyd yma nid oes unrhyw waith ymchwil wedi’i gynnal yng… Read More
Digwyddiad lledaenu gwybodaeth am adolygiad thematig CPR
Digwyddiad ExChange Arolwg Digwyddiad a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2020, wedi’i recordio ymlaen llaw, 502 o ymweliadau. Gweithgareddau a Dulliau Cyflwyno canfyddiadau astudiaeth amlddisgyblaethol yn dadansoddi 20 Adolygiad Ymarfer Plant a gynhaliwyd yng Nghymru. Canfyddiadau Amrywiaeth o ffactorau yn ymwneud â llais y plentyn, trawsnewidiadau a gweithio amlddisgyblaethol Person Arweiniol Prif Ymchwilydd Alyson Rees Staff… Read More
Dyfodol Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru
Mae’r astudiaeth hon yn asesu effaith gymdeithasol, economaidd, emosiynol a pherthynas y pandemig COVID-19 ar ofalwyr di-dâl, ac yn ystyried sut y gellir cefnogi gofalwyr o’r fath yn well trwy gydol amodau pandemig ac yn y dyfodol yng Nghymru. Arolwg Mae gofalwyr di-dâl yn darparu cefnogaeth a gofal hanfodol i aelodau teulu neu ffrindiau sy’n… Read More
Effaith ganfyddedig eiriolaeth rhieni cymheiriaid ar arfer amddiffyn plant: Gwerthusiad peilot
Nod Eiriolaeth Rhieni Cymheiriaid yw cefnogi rhieni sy’n ymwneud â’r broses amddiffyn plant, trwy gyngor ac eiriolaeth. Rhan o hyn yw eu helpu i chwarae rhan ystyrlon yn y broses o wneud penderfyniadau am eu plant. Bydd yr astudiaeth hon yn werthusiad peilot dull cymysg o ERhC ym maes amddiffyn plant, mewn un awdurdod lleol,… Read More
Effaith hyfforddiant staff ym maes Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo i weithwyr proffesiynol a theuluoedd
I ba raddau mae ymarferwyr sydd wedi cymhwyso mewn Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo yn ymgorffori’r sgiliau hyn yn eu hymarfer a sut mae plant a theuluoedd yn profi Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo? Arolwg Ymyriad yn seiliedig ar berthynas yw Canllawiau Rhyngweithio trwy Fideo a’i nod yw cynyddu sensitifrwydd gofalwyr i anghenion emosiynol eu plentyn. I… Read More
Family VOICE: Cynadledda grŵp teuluol i blant a theuluoedd
Family group conferencing for children and families: Evaluation of implementation, context and effectiveness Arolwg Cynhadledd Grŵp Teuluol (CGT) yw cyfarfod lle mae’r teulu ehangach yn trafod plant sydd angen eu cefnogi a’u diogelu ac yn penderfynu ar gynllun ar gyfer gofalu amdanyn nhw. Nod astudiaeth Family VOICE yw gwella dealltwriaeth o ansawdd ac effeithiolrwydd cynadleddau… Read More
Gadael yr uned cyfeirio disgyblion: Edrych ar bontio a chyrchfannau ôl-16 pobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru
Gwyddom fod llawer o bobl ifanc â phrofiad o ofal yn ystyried addysg yn anodd ac yn profi rhyw fath o waharddiad o’r ysgol. Yr hyn na wyddom lawer amdano yw’r hyn sy’n digwydd nesaf i’r bobl ifanc hyn yn 16 oed. Arolwg Am y tair blynedd nesaf, byddaf yn archwilio profiadau addysgol a llwybrau… Read More
Goruchwyliaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes amddiffyn plant yn Nwyrain Ewrop
studiaeth archwiliadol o’r oruchwyliaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant, mewn timau amlddisgyblaethol, mewn saith gwlad Ewropeaidd.
Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gwent: Defnyddio dull gweithredu a lywir gan drawma wrth weithio â Throseddwyr
Astudiaeth ymchwil weithredol yw hon sydd wedi’i theilwra i gefnogi’r Rhaglen Troseddwyr Cam-drin Domestig i’w newid i ganolbwyntio’n fwy ar effaith trawma. Rydym wedi cynnal adolygiad o ymchwil allweddol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma ac effeithiolrwydd rhaglenni troseddwyr. Bydd yr rhain yn cael eu rhoi i reolwyr ac ymarferwyr ar ffurf adroddiadau cryno a byddwn… Read More
Gwella Dealltwriaeth o Ymddygiadau Peryglus
Cysylltu data arolygon a data gweinyddol i wella’r ddealltwriaeth o fathau o ymddygiad peryglus a’r ffactorau amddiffyn posibl o ran plant sy’n derbyn gofal cymdeithasol: Astudiaeth dichonolrwydd. Bydd y prosiect hwn yn cynnig dealltwriaeth fwy cynnil a rhyngadrannol o amrywiaeth o ymddygiadau peryglus ymhlith pobl ifanc, gyda phwyslais arbennig ar blant sy’n derbyn gofal a… Read More
Gwerthusiad Incwm Sylfaenol Cymru
Bydd gwerthusiad pedair blynedd a gomisiynodd Lywodraeth Cymru o’r cynllun peilot incwm sylfaenol yn asesu canlyniadau ar gyfer oedolion ifanc sy’n derbyn incwm, costau a budd-daliadau’r cynllun. Bydd hefyd yn asesu sut mae’n gweithio’n ymarferol i’r rhai sy’n derbyn ac yn cyflwyno’r cynllun. Mae’r prosiect ymchwil hwn yn cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2022 a… Read More
Gwerthusiad o ‘Together a Chance’
Nod y prosiect yw lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal pan fydd mam yn mynd i’r carchar Arolwg Gwerthusiad o fod â gweithiwr cymdeithasol wedi’i leoli mewn dau garchar i fenywod yn cefnogi mamau – hynny yn (i) HMP Eastwood Park a (ii) HMP Send. Nod y prosiect yw cefnogi ymwneud mamau â’u plant,… Read More
Gwerthusiad o brosiect eiriolaeth rhieni Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru
Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS) yn gweithio gyda Chaerffili ers mis Ebrill 2017 i ddarparu eiriolwyr i rieni. Yn 2020 dyfarnwyd cyllid i NYAS gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar draws Gwent. Rydym yn dymuno cynnal gwerthusiad manwl o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir inni o sut mae’r Rhaglen… Read More
Gwerthusiad o gynllun peilot y Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru
Gwerthusiad realaidd a dulliau cymysg o’r Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol cyntaf yng Nghymru
Gwerthusiad o Pobl sy’n Cynnig Cymorth i Rieni (POPS)
Arolwg Pobl sy’n Cynnig Cymorth i Rieni (POPS) Mae’r prosiect hwn yn werthusiad o brosiect mentora cymheiriaid, sy’n cefnogi rhieni ag anawsterau cyffuriau ac alcohol, sy’n defnyddio gwasanaethau gwaith cymdeithasol. Bydd y gwerthusiad yn dechrau ym mis Hydref 2022. Mae cymeradwyaeth foesegol wedi’i rhoi. Ariennir gan Wasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cymru Gweithgareddau/Dulliau Bydd y prosiect yn… Read More
Gwerthusiad o Wasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Action for Children
Nod y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad, darpariaeth ac effaith rhaglen arloesol Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, sy’n ceisio cyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddu cyfundrefnol difrifol. Arwain Mae Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn cael mwy o effaith ar gymunedau’r DU nag unrhyw fygythiad cenedlaethol arall (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 2020). Amcangyfrifwyd bod… Read More
Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Arweiniad Rhyngweithio drwy Fideo
Comisiynodd Cyngor Cernyw werthusiad annibynnol o’i Wasanaeth Arweiniad Rhyngweithio drwy Fideo. Arolwg The aim of the evaluation was to determine whether the Video Interaction Guidance Service was achieving its objective of making a positive impact on children and families and to evaluate the factors that contribute to successful outcomes with a view to informing future… Read More
Gwerthuso cyfres Maethu Lles
Gwerthusiad o gyfres o ddosbarthiadau meistr amlddisgyblaethol i weithwyr proffesiynol yn y tîm yng nghyd-destun y plentyn. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnwys datblygu rôl yr arloeswr gofal maeth. Arolwg Mae’r prosiect bellach wedi cyrraedd hanner ffordd ac rydyn ni wedi cwblhau’r adroddiad interim. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol, yn enwedig gan fod yr… Read More
Gwreiddio dull gweithredu adferol mewn gwasanaeth arloesol sy’n darparu cefnogaeth ddwys i blant a theuluoedd a chanolfan gymunedol wedi’i chyd-gynhyrchu
Cyd-gynhyrchu’r CUBE Arolwg Gwasanaeth amlasiantaeth cymunedol yw’r CUBE sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd yn ardal un awdurdod lleol yng Nghymru. Mae CUBE yn darparu gwasanaeth cefnogaeth ddwys sydd wedi’i gyd-gynhyrchu ar sail tystiolaeth i deuluoedd yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac ar ei chyfer. Nodwyd natur y gwasanaethau a gynigir yn sgil ymgynghori… Read More
Hapdreialon Rheoledig o Rowndiau Schwartz i staff gofal cymdeithasol
Nod Rowndiau Schwartz yw gwella lles cymdeithasol ac emosiynol staff drwy eu galluogi i gyd-gyfarfod i adfyfyrio a rhannu straeon am eu profiadau
Hunluniau, Snapchat a Chadw’n Ddiogel: Sut mae plant sy’n derbyn gofal yn ymgysylltu ar-lein?
Deall sut mae plant sy’n derbyn gofal yn ymgysylltu ar-lein ac yn profi ffurfiau cymdeithasol a digidol o gyfryngau. Arolwg Y nod cyffredinol yw deall sut mae plant sy’n derbyn gofal yn ymgysylltu ar-lein a’u profiad o gyfryngau cymdeithasol a digidol. Gweithgareddau/Dulliau Astudiaeth dulliau cymysg yw hon a fydd yn gyntaf yn cynnwys dadansoddi data… Read More
I bobl ifanc gan bobl ifanc
Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau prosiect a gynhaliwyd gynt i gyd-ddylunio ac adeiladu hyb adnoddau sy’n cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl a lles, gan gynnwys dolenni i wasanaethau o’r fath, i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru. Trosolwg Mae iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd mewn… Read More
Llinellau cyffuriau: ymateb cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru i gamfanteisio ar blant yn droseddol
Ariennir y prosiect ymchwil archwiliadol 18 mis hwn gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru. Ei nod yw creu pecyn cymorth ar gyfer ymateb gwasanaeth effeithiol i wella’r canlyniadau i blant sydd mewn perygl neu sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau. Trosolwg Mae llawer o’r hyn a wyddys am CCE yn ymwneud â llinellau cyffuriau, model o gyflenwi… Read More
Lliniaru rhagfarnau gwybyddol mewn gwaith cymdeithasol: treial hapsamplu rheolyddedig
Gall rhagfarnau gwybyddol effeithio ar gywirdeb penderfyniadau gwaith cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddulliau a ddefnyddir yn helaeth ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer lliniaru effeithiau rhagfarnau gwybyddol yng ngwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd yn Lloegr. Arolwg Nod y prosiect hwn yw nodi a phrofi un ymyriad addawol i helpu… Read More
Nadroedd ac Ysgolion: Datblygu teclyn hyfforddi i’w ddefnyddio yn y system cyfiawnder ieuenctid
Nod y prosiect 15 mis hwn yw datblygu prototeip o declyn hyfforddi sy’n cynrychioli taith person ifanc trwy’r system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys yr heriau amrywiol y gallant eu hwynebu. Arolwg Mae deall y ffordd orau o gefnogi pobl ifanc unigol wrth iddynt symud ymlaen trwy’r system cyfiawnder ieuenctid yn dibynnu ar yr ymarferydd yn… Read More
Nodi arfer da wrth atal trais ymhlith pobl ifanc: ymarfer mapio a chydosod
Mae Barnardo’s yn bartner allweddol yn yr Uned Atal Trais (VPU) sydd newydd ei sefydlu yn Ne Cymru. Fel rhan o’u gwaith i bennu’r dulliau gorau o leihau nifer yr achosion o drais ymhlith pobl ifanc, maent wedi comisiynu ymarfer mapio a chydosod ac adolygiad llenyddiaeth i gyd-fynd â’u gweithgareddau cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio. Arweiniad Cynhaliwyd adolygiad… Read More
Plant mewn cartrefi lle mae camddefnyddio cyffuriau, trais neu broblemau iechyd y meddwl: Pwy sydd mewn perygl o fod o dan ofal?
Astudiaeth sy’n ystyried sut y gallai ffactorau risg yn y cartref, yn arbennig y camddefnydd o sylweddau, trais domestig a salwch meddwl, beri i awdurdod lleol dderbyn plant i’w ofal. Arolwg Mae nifer y plant sydd o dan ofal awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn cynyddu ers canol y 1990au, ac mae’r niferoedd ymhlith y… Read More
Plant o dan ofal yn y system cyfiawnder ieuenctid: Astudiaeth ddichonoldeb dulliau cymysg
Plant o dan ofal sydd wedi dod i gysylltiad â’r gyfraith yw rhai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas. Mae gorgynrychiolaeth pobl ifanc â phrofiad o ofal a’r rhai o grwpiau hiliol ac ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol wedi cael eu hystyried fel rhan o adolygiadau dan arweiniad yr Arglwydd Laming (2016)… Read More
Pobl Ifanc yn Gadael Gofal, Ymarferwyr a Phandemig y Coronafeirws (COVID 19): Profiadau, Cefnogaeth, a Gwersi ar gyfer y Dyfodol
Archwiliad o ddarpariaeth cymorth a phrofiadau o adael gofal yn ystod pandemig y coronafeirws. Arolwg Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio profiadau ymadawyr gofal o gyfyngiadau yn ystod y cyfnod clo, a orfodwyd o ganlyniad i COVID-19. Ffocws yr ymchwil oedd gweld a oedd y cyfnod clo wedi effeithio ar iechyd a lles, ynghyd â… Read More
Profiadau a chanlyniadau pobl ifanc o Loegr a atgyfeiriwyd at lety diogel
Archwiliodd y prosiect hwn gefndiroedd pobl ifanc o Loegr a atgyfeiriwyd at lety diogel am resymau lles rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2018, a’u canlyniadau yn y flwyddyn ar ôl cael eu hatgyfeirio. Arolwg Mae atgyfeirio pobl ifanc at lety diogel am resymau lles yn gam gweithredu ddifrifol a wneir gan awdurdodau lleol… Read More
Rhaglenni llwybr cyflym gwaith cymdeithasol: olrhain cadw a dilyniant
Beth sy’n digwydd i raddedigion rhaglenni llwybr cyflym gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd wedyn. Ydyn nhw’n aros? Beth yw eu hamodau gwaith? Ydyn nhw’n cael eu dyrchafu? Arolwg Diben y prosiect hwn yw canlyn graddedigion dwy o raglenni llwybr cyflym Lloegr ym maes gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd – Step Up to Social Work a Frontline… Read More
Siarad am Newidiadau: Arfer gorau wrth gyd-gynhyrchu deilliannau lles gyda phlant sy’n derbyn gofal yng Nghymru
Gwelwyd yn gyson bod deilliannau Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal (LACYP) yng Nghymru a ledled y DU yn peri pryder Arwain Mae plant sy’n derbyn gofal yn cyflawni llai yn academaidd, yn fwy tebygol o gael problemau iechyd ac yn cael eu gorgynrychioli’n sylweddol mewn grwpiau sy’n nodi pryderon difrifol, fel pobl yn… Read More
Sut gallwn ni wella profiadau a chanlyniadau plant awtistig sydd mewn gofal? Astudiaeth dulliau cymysg o anghenion, gwasanaethau ac arfer da
Sut gallwn ni helpu plant awtistig a’r rhai mewn gofal sydd â lefelau uchel o nodweddion awtistig i gael y cymorth mae arnynt ei angen i gyflawni’r canlyniadau gorau? Bydd y Gymrodoriaeth hon yn ymchwilio i hyn drwy edrych ar batrymau diagnosis, nodweddion awtistig, a chanlyniadau i blant mewn gofal. Bydd hefyd yn casglu gwybodaeth… Read More
Wellbeing in Schools and Colleges – the WiSC Study
The aim of this study is to understand stakeholder experiences of delivering and receiving mental health and wellbeing provision for care-experienced children and young people (aged 11-25) in secondary schools in Wales and in the further education (FE) sector, and to make recommendations to develop and optimise provision. Overview The mental health and well-being of… Read More
Y camau nesaf ar gyfer astudiaeth Bywydau Gofalu o sbectrwm y gofalwyr ifanc
Cymrodoriaeth blwyddyn i ledaenu a chynyddu effeithiau astudiaeth PhD, Caring Lives, a ymchwiliodd i sut mae effeithiau gofalu yn amrywio i blant gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau gofalu a theuluol. Trosolwg Astudiaeth PhD o sbectrwm y gofalwyr ifanc oedd Caring Lives, gan gynnwys gofalwyr ifanc â chyfrifoldebau sylweddol, ond hefyd y rhai â llai o… Read More
Ysgoloriaeth PhD Syrthio Drwy’r Bylchau
PhD Arolwg Astudiaeth PhD sy’n cael ei chynnal gan Bridget Handley ynghylch profiadau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, o lywio gwasanaethau iechyd meddwl. Nod yr astudiaeth yw archwilio’r bylchau yn narpariaeth y gwasanaethau, gweithio amlasiantaethol, asesu’r hyn sy’n gweithio’n dda, a nodi meysydd i’w gwella. Gweithgareddau a Dulliau Astudiaeth ansoddol yw… Read More