Yn ystod 2024, mae CASCADE yn falch iawn o fod yn dathlu degawd o effaith drawsnewidiol ar ofal cymdeithasol plant. Mae ein taith ddeng mlynedd yn llawn astudiaethau arloesol a chyfraniadau sylweddol at bolisi ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol plant.
Dros y blynyddoedd hyn, mae CASCADE wedi ymchwilio i nifer o feysydd ymchwil, gan ddylanwadu’n fawr ar sut mae gofal yn cael ei weinyddu a pholisïau’n cael eu llunio. Mae ein pen-blwydd yn 10 oed nid yn unig yn garreg filltir ond yn dyst i’r ymgais diflino am ragoriaeth a’r newidiadau diriaethol yr ydym wedi’u gwneud ym mywydau plant a’r dirwedd gofal cymdeithasol ehangach.
I nodi’r flwyddyn bwysig hon, rydym yn cynnal cynhadledd Gyfnewid sy’n ailymweld â’n hymchwil yn y gorffennol trwy weminarau, cyfres o bodlediadau sy’n archwilio i wahanol bynciau sydd o bwys i ni a dyfodol gofal cymdeithasol plant, a chymaint mwy. Bydd hyn oll yn digwydd yn y cyfnod cyn 23 Mai a’r digwyddiad Dathlu 10 Mlynedd.
Digwyddiad Carreg Filltir 23/05/24
Mae pen-blwydd swyddogol CASCADE ar 23 Mai. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn dathlu CASCADE gyda digwyddiad partneriaeth yn cynnwys archwiliadau o’n hymchwil yn y gorffennol a’r presennol, siaradwyr gwadd, perfformiadau, ac edrych yn ôl ar bopeth y mae CASCADE wedi’i gyflawni.
Sylwch fod y digwyddiad hwn trwy wahoddiad yn unig, ond bydd recordiadau fideo a lluniau o’r digwyddiad yn cael eu cyhoeddi yma ar ôl y digwyddiad.
Exchange Wales
Cyfres Cynadleddau Dathlu – Gwanwyn 2024
CASCADE: 10 Mlynedd o Ddylanwadu ar Bolisi ac Ymarfer
Mae 2024 yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu CASCADE, sef y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant. Dyma gartref ExChange Wales ac un o’r canolfannau ymchwil mwyaf o’i math yn y DU.
Yn ystod degawd cyntaf CASCADE, rydym wedi cynnal a bod yn rhan o nifer o astudiaethau ym maes gofal cymdeithasol plant. Er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed, ein nod yw ail-edrych ar rai o’r astudiaethau hynny, gan ystyried yr effaith y maent wedi’i chael ar bolisi ac ymarfer.
Bydd pump o bynciau yn cael eu cyflwyno yn rhan o’r gyfres hon o gynadleddau, a fydd ar ffurf gweminarau byw ac yn cael eu cynnal ochr yn ochr â chyfres o bodlediadau gan CASCADE. Ymhlith y gweminarau mae: ‘Effaith yr ymchwil ar Blant sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg (LACE)’ dan arweiniad yr Athro Dawn Mannay, ‘Gwaith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar hawliau’ dan arweiniad yr Athro Donald Forrester (lansiad llyfr), ‘Camfanteisio’n Droseddol ar Blant’ dan arweiniad Dr Nina Maxwell, ‘Gwella arfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant’
Gweminarau
Galluogi siarad ac ailfynegi negeseuon: Gweithio’n greadigol ac yn gydweithredol er mwyn creu effaith gan ddefnyddio hanesion plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Yr Athro Dawn Mannay
Bydd Dawn yn cyflwyno ar effaith ymchwil Plant sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg (LACE), un o raglenni ymchwil mwyaf adnabyddus a mwyaf llwyddiannus CASCADE o’r 10 mlynedd diwethaf.
‘’Dyw e byth yn mynd i weithio iddo fe, mae e eisiau marw’’. Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.
Dr Nina Maxwell
Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru.
Bydd y sesiwn yn ystyried sut y gwnaeth y tîm ymchwil ymgysylltu â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod yr ymchwil yn ychwanegu gwerth at arfer presennol.
22/04/24
Ar-lein
12:00 – 13:00
Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant
Yr Athro Jonathan Scourfield
Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy’n canolbwyntio’n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol).
Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno’r broblem ac yn disgrifio’r hyfforddiant sy’n seiliedig ar ymchwil a’r datblygiad sefydliadol sydd wedi’u cynllunio i wella’r sefyllfa.
15/04/24
Ar-lein
12:00 – 12:45
O argymhelliad mewn darn o ymchwil i gamau gan y Llywodraeth: Storfa Ddiogelu Cymru
Yr Athro Amanda Robinson
Mae ein hymchwil wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ailwampio ei gweithdrefnau adolygu diogelu ar gyfer y digwyddiadau a’r marwolaethau mwyaf difrifol yng Nghymru oherwydd trais domestig, salwch meddwl, arfau ymosodol a’r digwyddiadau hynny sy’n cynnwys oedolion a phlant agored i niwed sy’n wynebu risg.
Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod yr ymchwil, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a pha mor unigryw yw WSR fel adnodd ar gyfer ymarferwyr ac ymchwilwyr. Mae ganddo’r potensial i effeithio’n sylweddol ar bolisi ac arfer proffesiynol yng Nghymru.
29/04/24
Ar-lein
13:00 – 14:00
LANSIAD LLYFR – The Enlightened Social Worker: An Introduction to Rights Focused Practice
Yr Athro Donald Forrester
Yn y gweminar hwn, mae Donald Forrester yn cyflwyno ei lyfr newydd, sy’n ystyried hawliau dynol yn ymarfer gwaith cymdeithasol canolog.
Er bod damcaniaeth gwaith cymdeithasol yn tueddu i roi pwyslais ar helpu unigolion a herio anghyfiawnder cymdeithasol, mae heriau a gwrthdaro’n nodweddu realiti ymarfer. Mae llyfr Donald Forrester yn cynnig cysyniad newydd o waith cymdeithasol sy’n egluro natur y gwrthdaro hwn ac yn symud y tu hwnt iddo, gyda gweledigaeth ysbrydoledig ac ymarferol o beth yw gwaith cymdeithasol a beth y dylai fod.
Sgyrsiau CASCADE – Cyfres arbennig i ddathlu 10 mlynedd
Yn CASCADE, rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein cyfres newydd o bodlediadau sy’n ymchwilio’n fanwl i wahanol themâu a phynciau sy’n bwysig i ni. Ymunwch â ni i archwilio’r pynciau gyda’n gilydd.
Beth yw pwynt ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol plant?
Sally Holland a Donald Forrester
Pam mae newid gofal cymdeithasol plant mor anodd?
Donald Forrester, Clive Diaz a Lorna Stabler
Pam ydyn ni’n cymryd plant plant mewn gofal oddi arnyn nhw?
Jen a Sally Holland
Sut gallwn ni wybod ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth?
Donald Forrester, Sally Holland a David Westlake
Dull Iechyd y Cyhoedd o Fynd i’r Afael â Niwed ac Anghydraddoldebau
Sally Holland,
Martin Elliott a Nell Warner
Lemn Sissay OBE reflections on care – ExChange Wales – ExChange Wales: Social care training & resource
- Lemn Sissay OBE reflections on care – ExChange Wales
- The Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (VAWDASV) Network – ExChange Wales
- Survivors’ stories: Survivors of domestic abuse in conversation – ExChange Wales
- Building and developing strengths-based approaches in adult services – ExChange Wales
- 'In My Skin' writer, Kayleigh Llewellyn – ExChange Wales