Nod CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd.

Rydym yn gwneud hyn drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd am ofal cymdeithasol i blant yn ogystal â rhannu gwybodaeth newydd a chyfredol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau.

Rydyn ni’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau i blant anghenus, amddiffyn plant, plant o dan ofal a mabwysiadu.

Image

Cyflwyno ein gwaith partneriaeth

Yn 2020 roedd CASCADE yn falch iawn o dderbyn cyllid seilwaith i ddatblygu ein partneriaeth â’r Canolfannau Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel Prifysgol Abertawe. Roedd y cyllid yn ein galluogi i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau ymchwil, ymgysylltu â’r sector gyda’n hymchwil a chynnwys plant, pobl ifanc a rhieni yn ein gwaith. 

Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn rhoi trosolwg o rai o’n prif gyflawniadau.

Ydych chi’n chwilio am Ledaenu o’r radd flaenaf ynghylch pwnc gofal cymdeithasol?

Mae ExChange Cymru’n dwyn ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

CARE

CARE (Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion)

CARE yn ganolfan newydd yn cael ei lansio yn gynnar 2024, gefnogi gan CASCADE, a yn dwyn ynghyd arbenigedd amlddisgyblaethol o bob rhan o’r Brifysgol, ac yn hybu cyfleoedd i gydweithio ag arbenigwyr mewn mannau eraill yn y DU, i ddatblygu ymchwil o’r radd flaenaf ym maes gofal cymdeithasol oedolion, wedi’i chefnogi gan gyllid ymchwil sylweddol ar lefel y DU.