Mae’r datganiad canlynol yn esbonio sut mae gwefan CASCADE (www.cascade.org) yn bodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Ynghylch y datganiad hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Hydref 2021. Cafodd ei ddiweddaru ar 27 Hydref 2021. 

Caiff y dudalen hon ei diweddaru wrth i welliannau pellach i hygyrchedd y wefan gael eu gwneud. 

Pa mor hygyrch mae’r wefan hon 

Gellir defnyddio’r wefan hon â darllenydd sgrîn, ac mae iddi’r nodweddion hygyrchedd canlynol: 

  • y gallu i neidio i gynnwys pob tudalen 
  • y gallu i’w llywio â bysellfwrdd neu orchmynion llais 
  • y gallu i chwyddo mewn neu allan 
  • dyluniad sy’n defnyddio cyferbyniad lliw uchel 
  • dyluniad sy’n addasu i wahanol ddyfeisiau a meintiau sgrîn 
  • dyluniad lle nad y defnydd o liw yw’r unig ffordd o amlygu rhywbeth 
  • y gallu i stopio cynnwys sy’n symud 
  • dyluniad neu gynnwys nad yw’n defnyddio delweddau o destun 
  • tudalennau sy’n amlygu’r rhan ohoni a ddewiswyd 
  • meysydd â labeli hygyrch wrth lenwi ffurflenni 
  • tudalennau sydd wedi’u strwythuro â HTML cywir ac ystyrlon 

Pan fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar y wefan hon, byddwn yn gwneud y canlynol: 

  • strwythuro cynnwys yn dda 
  • defnyddio iaith syml (ac eithrio ar gyfer cynnwys academaidd neu wyddonol lle nad oes dewis arall o eiriau ar gael) 
  • defnyddio brawddegau byr 
  • esbonio acronymau 
  • gwneud yn siŵr bod dogfennau PDF neu ddogfennau eraill yn hygyrch 
  • sicrhau bod testun dolen yn glir 

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai agweddau ar y wefan hon yn gwbl hygyrch, ac rydym yn parhau i weithio i’w datrys: 

  • efallai na fydd rhywfaint o’r cynnwys mewn iaith syml neu frawddegau byr 
  • mae modd drysu rhwng dolenni llywio a dolenni eraill ar y dudalen 
  • efallai y bydd dolenni dyblyg mewn rhestrau cynnwys 
  • nid oes modd gweld tablau HTML eang ar sgriniau bach 
  • nid yw cyfran fawr o ddogfennau PDF a dogfennau eraill yn gwbl hygyrch wrth ddefnyddio darllenydd sgrîn 
  • efallai na fydd is-deitlau neu drawsgrifiadau ar gael wrth wylio fideos neu wrando ar sain 
  • efallai na fydd gan bob delwedd destun amgen 

Beth i’w wneud os na fydd rhannau o’r wefan hon yn hygyrch i chi 

Os bydd angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol (dogfen PDF hygyrch, testun mawr, testun hawdd ei deall, recordiad sain neu ddeunydd Braille), ebostiwch cascade@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb iddo ymhen pum diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd wrth ddefnyddio’r wefan hon 

Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â thîm digidol a gwefan CASCADE. 

Gweithdrefn orfodi 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chefnogaeth ynghylch Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan 

Mae CASCADE yn ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 ar Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau, oherwydd y rhesymau isod. 

Cynnwys anhygyrch 

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol. 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd 

Nid yw agweddau penodol ar y wefan hon yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.1 ar WCAG, fel a ddangosir yn y tabl isod. Wrth i’r wefan hon gydymffurfio fwyfwy gydag amser, caiff y tabl hwn ei ddiweddaru. 

Dogfennau 

Nid yw rhai o’r dogfennau ar www.cascadewales.org sydd wedi’u cyhoeddi yn cydymffurfio. 

Llwyth anghymesur 

Ar hyn o bryd, nid oes problemau hygyrchedd ar www.cascadewales.org yr ydym yn eu hystyried yn llwyth anghymesur i’w datrys. 

Cynnwys nad yw’n dod o dan y rheoliadau hygyrchedd 

Dogfennau PDF hŷn a rhai eraill 

Mae dogfennau a gyhoeddwyd cyn 27 Hydref 2018 nad ydynt yn hanfodol i’n gwasanaethau, wedi’u heithrio o’r rheoliadau. 

Sain a fideo 

Mae ffrydiau fideo byw fel gweminarau a phodlediadau wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.  

Cynnwys ac archifau 

Mae unrhyw gynnwys a gyhoeddir cyn Medi 2018 wedi’i eithrio o’r rheoliadau. 
 
Sut rydym wedi profi’r wefan  

Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi’n flynyddol ag offeryn o’r enw SiteImprove. Mae’r offeryn hwn yn adrodd am broblemau hygyrchedd, ac rydym yn mynd i’r afael â’r rhain yn nhrefn yr effaith fwyaf.