Polisi blaenllaw sy’n ceisio lleihau anghydraddoldeb iechyd ac addysgol yn y blynyddoedd cynnar a thu hwnt yw Sure Start (Gogledd Iwerddon). Am fwy na dau ddegawd, mae Sure Start wedi cefnogi teuluoedd â phlant 0 i 4 oed sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Trosolwg

Mae cael eich geni mewn tlodi yn gysylltiedig ag anfanteision addysgol ac iechyd o fabandod hyd at oed oedolyn ac yn achosi cryn gostau i’r pwrs cyhoeddus. Mae gan ymyraethau yn y blynyddoedd cynnar — fel Sure Start– botensial aruthrol i fynd i’r afael ag achosion anghydraddoldeb addysgol ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Fodd bynnag, mae bob amser wedi bod yn heriol profi effaith yr ymyraethau hyn yn gadarn. Mae ein prosiect yn manteisio ar arbrawf naturiol a ddigwyddodd pan ehangodd yr Adran Addysg Sure Start i feysydd newydd rhwng 2006 – 2010, 2013 – 2017 a 2021.

Gan ddefnyddio data gweinyddol ar bob plentyn sydd a anwyd yng Ngogledd Iwerddon, nod ein hymchwil yw mesur effaith Sure Start ar:

  • Iechyd mamau a phlant yn ystod 60 mis cyntaf bywyd
  • Defnyddio gwasanaethau a dod o hyd i’r hyn sy’n oedi datblygiad plant
  • Ymddygiad cynnar wrth fagu plant

mae tadau a gofalwyr eraill hefyd yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen – mae pob aelod o’r teulu yn berthnasol. Y broblem yw’r data gan ei bod yn anodd dod o hyd i’r tadau ac yn amhosibl astudio rhai eraill

Gweithgareddau a Dulliau

Bydd ein tîm yn :

  • Mesur effaith Sure Start ar y teuluoedd gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig i greu carfan eni sy’n cynnwys miloedd o fabanod.     
  • Mynd i’r afael â bwlch tystiolaeth sylweddol ynghylch Sure Start a’i fanteision.

Lledaenu ein canfyddiadau y tu allan i’r byd academaidd er mwyn gwella’r broses o wneud penderfyniadau yng ngweddill y DU. Ein nod yw siarad yn uniongyrchol â theuluoedd ac ymarferwyr Sure Start, gan gydnabod eu harbenigedd amhrisiadwy, yn ogystal â sefydliadau trydydd sector fel Biwro Cenedlaethol y Plant.    

Canfyddiadau

Mae’r ymchwil hon ar y gweill


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr Meng Le Zhang

Academyddion ac Ymchwilwyr

Cymrawd YmchwilDr Gareth Griffiths

Uwch Gymrawd YmchwilDr Martin Elliot

AthroYr Athro Sally Holland
Ysgolion CysylltiedigSOCSI
Partneriaid cysylltiedigN/A
ArianwyrUKRI.
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedighttps://www.ukri.org/news/9-7-million-to-tackle-regional-disparities-across-the-uk/
https://github.com/MengLeZhang/sure-start-historical-website
Dogfennau cysylltiedigN/A