Nod yr astudiaeth hon yw deall profiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal, cynghorwyr personol a rhanddeiliaid eraill, mewn perthynas â’r cymorth sy’n cael ei dderbyn a’i roi gan dimau o gynghorwyr personol yn ystod y broses gadael gofal. Bydd yr astudiaeth yn gweithio ar y cyd â’r unigolion sy’n cymryd rhan drwy gymysgedd o ddulliau ymchwil gyfranogol a dulliau ymchwil wedi’i chyd-gynhyrchu i helpu i ddatblygu: canllawiau ymarfer, ymchwil yn y dyfodol sy’n gysylltiedig ag ymarfer cynghorwyr personol, gwelliannau mewn canlyniadau i bobl sy’n gadael gofal.
Trosolwg
Bob blwyddyn mae nifer sylweddol o bobl ifanc yn gadael y system ofal yng Nghymru. Mae’r bobl ifanc hyn yn wynebu heriau sylweddol yn ystod y cyfnod pontio hwn sy’n ymwneud â thai, addysg, cyflogaeth, iechyd a lles. Hefyd, nid oes ganddyn nhw’r rhwydweithiau cymorth sydd gan eu cyfoedion fel arfer. Felly, mae’r cymorth y maen nhw’n ei gael yn ystod y cyfnod hwn yn dylanwadu mewn ffordd hollbwysig ar eu lles yn y dyfodol.
Yng Nghymru mae’n ofynnol i dimau gadael gofal neilltuo cynghorwr personol i bob person ifanc sy’n gadael gofal, i’w gefnogi yn ystod y cyfnod pontio hwn. Er gwaethaf pwysigrwydd y rôl hon, nid oes llawer o ddealltwriaeth ynghylch gweithgareddau cynghorwyr personol, ac ychydig rydyn ni’n ei wybod am sut y caiff y rôl ei gweld a’i phrofi.
Bydd yr astudiaeth yn gofyn:
- Beth y gallwn ni ei ddysgu o’r dull cyd-gynhyrchu i lywio ymchwil ystyrlon yn y dyfodol gyda chyd-ymchwilwyr?
- Beth yw dealltwriaethau a phrofiadau pobl ifanc o rôl cynghorwr personol, a beth y dylai cynghorwr personol ei wneud yn eu barn nhw?
- Beth yw dealltwriaeth a phrofiadau gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol eraill o ymarfer cynghorwyr personol, a beth sy’n galluogi ac yn rhwystro ymarfer da yn eu barn nhw?
Gweithgareddau a Dulliau
Cwmpasu a mapio: Drwy syntheseiddio llenyddiaeth bresennol a chynnal gweithdai cyfranogol gyda chynrychiolwyr o dimau o gynghorwyr personol a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru, byddwn ni’n creu darlun manwl o ymarfer cyfredol cynghorwyr personol yng Nghymru, a’r hyn sy’n galluogi ac yn rhwystro ymarfer da.
Gwaith manwl: Byddwn ni’n cynnal astudiaethau achos archwiliadol mewn dau awdurdod lleol i gael mwy o syniad o’r drefn ddyddiol a rôl cynghorwyr personol. Bydd amrywiaeth o ddulliau casglu data yn cael eu defnyddio gan gynnwys cyfweliadau gyda chynghorwyr personol, ymarfer mapio gweledol o arferion dyddiol a phrosesau, sylwadau ar ymarfer, a chyfweliadau dan arweiniad cyd-ymchwilwyr â phobl sy’n gadael gofal.
Gwaith cyd-gynhyrchu: Bydd pump o bobl sy’n gadael gofal yng Nghymru yn cael eu recriwtio ar y sail eu bod yn gyd-ymchwilwyr. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant ymchwil byddan nhw’n ymchwilwyr sy’n cael eu talu ar y prosiect, gan helpu i gynllunio a chyflawnir prosiect, a lledaenu canfyddiadau’r ymchwil. Trwy ddyddiaduron myfyriol, cynlluniau datblygu personol a sesiynau cymorth rheolaidd, byddwn ni’n cael cipolwg gwerthfawr ar ddefnyddio proses gyd-gynhyrchu gyda’r rhai sy’n gadael gofal, er mwyn helpu i lywio gwaith o’r natur hon yn y dyfodol.
Canfyddiadau
Mae’r ymchwil yn mynd rhagddi
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr Phil Smith |
Prif Gyd-ymchwilydd | Dr Louise Roberts |
Academyddion ac Ymchwilwyr
Cyd-ymchwilydd | Samantha Fitz-Symonds |
Gwybodaeth gysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | N/A |
Partneriaid cysylltiedig | N/A |
Arianwyr | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru |
Cyhoeddiadau cysylltiedig | N/A |
Dolenni cysylltiedig | N/A |
Dogfennau cysylltiedig | N/A |