Beth sy’n digwydd i raddedigion rhaglenni llwybr cyflym gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd wedyn. Ydyn nhw’n aros? Beth yw eu hamodau gwaith? Ydyn nhw’n cael eu dyrchafu?
Arolwg
Diben y prosiect hwn yw canlyn graddedigion dwy o raglenni llwybr cyflym Lloegr ym maes gwaith cymdeithasol i blant a theuluoedd – Step Up to Social Work a Frontline – i asesu faint sydd mewn gwaith cymdeithasol o hyd a sut mae’u gyrfaoedd yn datblygu.
Mae Adran Addysg San Steffan wedi ariannu’r astudiaeth hon (hyd fis Mawrth 2021) i bwyso a mesur deilliannau tymor hwy carfanau 1-5 Frontline a charfanau 4/5 Step Up.
Roedd y cwestiynau ymchwil fel a ganlyn:
- Ble mae graddedigion llwybr cyflym rhaglen Step Up neu Frontline yn gweithio a sut mae’u gyrfaoedd wedi datblygu?
- Faint o bob carfan sydd ym maes gwaith cymdeithasol o hyd?
- Ydy graddedigion carlam sy’n dechrau ym maes gwaith cymdeithasol yn symud ymlaen i swyddi goruchwylio neu arwain ac, os felly, pa mor gyflym?
- Beth yw cynlluniau a dyheadau gyrfaol tymor hwy y graddedigion carlam?
- Pa waith sydd gan yr ymgeiswyr carlam sy’n gadael y rhaglenni cyn eu cwblhau, y rhai sy’n cwblhau’r rhaglenni ond heb ddechrau gwaith cymdeithasol a’r rhai sy’n dechrau gweithio yn y maes ond heb barhau ynddo? Beth yw eu rhesymau dros adael?
- Pa ffactorau gwthio/tynnu sy’n effeithio ar faint o raddedigion carlam fydd yn aros ym maes gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd?
- Ydy’r math o lwybrau gyrfa sydd wedi’u datblygu yn yr astudiaethau blaenorol o raglen Step Up yn berthnasol i raddedigion rhaglen Frontline a beth mae’n ei gyfleu am oruchwylio a rheoli’r gweithlu?
Pa strategaethau ymdopi y mae graddedigion carlam yn eu defnyddio? Sut y gallai’r rhain effeithio ar reoli gweithluoedd yn y dyfodol?
Gweithgareddau/Dulliau
Rydyn ni wedi cynnal arolygon blynyddol ac wedi holi is-grŵp o ymatebwyr i’r arolwg, yn ogystal â rhai cyflogwyr. Rydyn ni wedi gwirio a yw’r rhai sydd heb ymateb wedi’u cofrestru’n weithwyr cymdeithasol proffesiynol yn Lloegr.
Canfyddiadau
Sylwad Cyfrinachol
*Nod mae’r Hysbydiad Preifatrwydd dim ond ar gael yn Saesneg.
Person Arweiniol
Prof Ymchwilydd | Jonathan Scourfield |
Staff Academaidd
Ymchwilydd | Nina Maxwell |
Ymchwilydd | Nell Warner |
Ymchwilydd | Roger Smith |
Ymchwilydd | John Carpenter |
Ymchwilydd | Evgenia Stepanova |
Ymchwilydd | Chloe O’Donnell |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Ygsolion Cysylltiedig | Department of Sociology, Prifysgol Durham |
Partneriaid Cysylltiedig | Department for Education |