Cyn Ebrill 2016, cesglid data am weithgareddau a statws ymadawyr gofal ar eu pen-blwydd yn 19eg fel rhan o’r ffurflen flynyddol yn y Casgliad Canlyniadau (OC)*. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch a oedd yr awdurdod lleol wedi cadw mewn cysylltiad â’r person ifanc, eu haddysg, eu statws hyfforddiant neu gyflogaeth ac addasrwydd eu llety.
O fewn Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, rhaid cysylltu’r set ddata hon â’r cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal (LACW) cynradd i gael nodweddion y plant (wythnos geni, rhywedd, ALF).
Roedd y ffurflen Casgliad Canlyniadau yn gyfres o ffurflenni blynyddol a wnaed gan awdurdodau lleol mewn perthynas â phobl sy’n gadael gofal. Canolbwyntiai’r OC1 ar gymwysterau addysgol yn 16 oed a chanolbwyntiai’r OC3 ar eu hamgylchiadau ar eu pen-blwydd yn 19 oed.
Canolbwyntiai’r OC2 ar blant a oedd wedi bod yn derbyn gofal parhaus am 12 mis, gan gasglu gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol mewn perthynas â throseddu, gwiriadau hybu iechyd, imiwneiddio, gwiriadau deintyddol, asesiadau iechyd ac adnabod ac ymyrraeth problemau camddefnyddio sylweddau. Mae’r wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu fel rhan o’r ffurflen Gofal a Chymorth Plant sy’n Derbyn Gofal. Cyn 2016, roedd yn rhan o’r ffurflen Plant Mewn Angen.
Perchennog y Data | Llywodraeth Cymru |
Y data cynharaf | 1af Ebrill 2002 |
Y data diweddaraf | 31ain Mawrth 2016 |
Pa mor aml y bydd diweddariadau | Nid yw bellach yn cael ei ddiweddaru |
Oedi yn argaeledd y diweddariadau | Nid yw bellach yn cael ei ddiweddaru |
Meta-ddata
Catalog ADR y DU | https://datacatalogue.adruk.org/browser/dataset?id=5462644471927188424&origin=3 |
Porth Data Iechyd | https://web.www.healthdatagateway.org/dataset/85a369d9-58b3-49a9-94e1-9dc05de8ea49 |
Adnoddau Data | Allnatt, G., Lee, A., Scourfield, J., Elliott, M., Broadhurst, K., and Griffiths, L. (2022) “Data resource profile: children looked after administrative records in Wales”, International Journal of Population Data Science, 7(1). doi: 10.23889/ijpds.v7i1.1752. |
Mewnwelediad Data | Allnatt, G., Elliott, M., Cowley, L., Lee, A., North, L., Broadhurst, K., ac Griffiths, L. (2023) Eglurhad o’r Data: Setiau Data y Plant sy’n Derbyn Gofal. Ar gael yn: https://adrwales.org/wp-content/uploads/2023/06/Data-Explained-CLA-datasets_final.pdf |
Cyhoeddiadau defnyddiol ychwanegol | AMHERTHNASOL |
Gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol
Canllawiau Awdurdod Lleol:
AMHERTHNASOL
O 2016-17 ymlaen, nid yw canlyniadau ar gyfer pobl sy’n gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 19 oed yn cael eu cofnodi.
Gellir gweld data cyfun rhwng 2003 a 2016 ar wefan Stats Cymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Childrens-Services/Children-Looked-After.
Mae’r data a ddarperir yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn cynnwys 4,940 o gofnodion ar gyfer 4,890 o blant.