Yr ymchwil hon yw’r ymgais gyntaf i adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn am les plant lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yng Nghymru ac mae ymhlith y cyntaf yn y DU i astudio deilliannau iechyd ac addysg ar gyfer plant sy’n derbyn cymorth gwasanaethau cymdeithasol yn ôl ethnigrwydd a chrefydd, gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig.
Trosolwg
Gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig mewn gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd, bydd yr astudiaeth hon, am y tro cyntaf, yn cynhyrchu tystiolaeth feintiol y mae mawr ei hangen ar y profiad nad oes llawer o wybodaeth yn ei gylch o blant/teuluoedd lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol sy’n derbyn cymorth gwasanaethau cymdeithasol. Hyd yma, prin yw’r ymchwil yn y DU sy’n archwilio deilliannau addysgol a defnydd o’r gwasanaeth iechyd gan blant lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol, yn enwedig ar y boblogaeth ehangach o Blant Mewn Angen neu Blant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth. Bydd ein hastudiaeth yn taflu goleuni pwysig ar bolisi ac arfer yn y dyfodol o ran lles plant, nid yn unig yng Nghymru a’r DU ond hefyd yn rhyngwladol.
Gweithgareddau a Dulliau
Ein nod yw ateb y cwestiynau ymchwil canlynol gan ddefnyddio’r casgliad cynhwysfawr o ddata gweinyddol a osodwyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL):
- Beth yw patrymau a chyfraddau plant lleiafrifoedd ethnig/crefyddol sy’n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru, o’u cymharu â’u cyfoedion yn y poblogaethau mwyafrifol?
- A yw’r duedd o gyfraddau cynyddol o blant sy’n derbyn gofal dros amser yn adlewyrchu’r twf mewn poblogaethau lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod? A yw cyfradd y plant sy’n derbyn gofal yn cynyddu’n gyflymach ymhlith rhai cymunedau ethnig/crefyddol lleiafrifol o gymharu â thwf y boblogaeth?
- Mae tystiolaeth wedi dangos bod amddifadedd cymdeithasol ar lefel ardal yn esbonio tua hanner yr amrywiad lleol yng nghyfraddau plant sy’n derbyn gofal. I ba raddau y mae’r patrwm hwn yn wir am blant lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol?
- Sut mae cyrhaeddiad addysgol plant lleiafrifoedd ethnig/crefyddol sy’n derbyn gofal a chymorth yn cymharu â chyrhaeddiad addysgol eu cymheiriaid gwyn, a phlant yn y boblogaeth gyffredinol nad ydynt wedi derbyn darpariaeth lles plant?
- A yw’r patrwm defnydd o’r gwasanaeth iechyd gan blant lleiafrifoedd ethnig/crefyddol sy’n derbyn gofal a chymorth yn wahanol i batrwm eu cyfoedion gwyn, a phlant yn y boblogaeth gyffredinol nad ydynt wedi derbyn darpariaeth lles plant?
Canfyddiadau
Mae canfyddiadau yn sgil dadansoddiad cynnar yn cael eu crynhoi yma. Bydd canlyniadau pellach yn cael eu hychwanegu pan fyddant ar gael.
- Nid yw’r duedd yn lefel yr anghymesuredd ethnig yn adlewyrchiad syml o’r duedd yn y niferoedd absoliwt o blant yn y system lles plant yn ôl ethnigrwydd.
- Ymhlith plant mewn angen a phlant a oedd yn derbyn gofal a chymorth, plant o dreftadaeth gymysg oedd y rhai a orgynrychiolwyd fwyaf, a phlant Asiaidd oedd y rhai a dangynrychiolwyd fwyaf, a hynny’n gyson dros y deng mlynedd diwethaf, er gwaethaf rhai amrywiadau yn y lefel.
- Yn hytrach na thuedd amlwg o dyfu neu ddirywio dros y degawd diwethaf, mae lefel gyffredinol anghymesuredd ethnig yng Nghymru yn dangos cynnydd ymhlith plant mewn angen rhwng 2011-2016 ac yna gostyngiadau ymhlith plant yn derbyn gofal a chymorth rhwng 2017-2020.
Nid yw lefel a thuedd gyffredinol anghymesuredd ethnig yn unffurf ar draws grwpiau rhywedd ac oedran. Mae’r duedd yn lefel gyffredinol y gynrychiolaeth ar gyfer pob grŵp ethnig yn celu amrywiad sylweddol ymhlith yr is-grwpiau sy’n rhan ohonynt yn ôl nodweddion demograffig cymdeithasol.
Arall
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partner cydweithredol Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru (EYST) i sefydlu panel defnyddwyr gwasanaeth sy’n cynnwys teuluoedd lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol sydd â phrofiad o’r gwasanaethau cymdeithasol i lywio dyluniad ein hymchwil a sicrhau bod ein canfyddiadau o fudd i’r gymuned defnyddwyr.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Sin Yi Cheung |
Academyddion ac Ymchwilwyr
Staff Academaidd | Jonathan Scourfield |
Staff Academaidd | Lucy Jane Griffiths |
Staff Academaidd | Yongchao Jing |
Staff Academaidd | Grace Bailey |
Staff Academaidd | Elaine Speyer |
Gwybodaeth Gysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol |
Partneriaid cysylltiedig | Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid |
Cyllidwyr | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru |
Cyhoeddiadau cysylltiedig | Jing, Y. S.Y. Cheung, L. Griffiths, and J. Scourfield (2023) Trends in ethnic inequality in child welfare interventions in Wales, 2010–2021 International Journal of Population Data Science, 8 (2) |
Dolenni cysylltiedig | Amherthnasol |
Dogfennau cysylltiedig | Amherthnasol |