Fe wnaeth y prosiect hwn edrych ar anghenion plant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar. Roedd yn cynnwys cyfweliadau gyda rhieni yn y carchar, eu partneriaid yn y gymuned, a staff addysg, gyda’r nod o greu model o arfer da.
Yn benodol, roedd y prosiect yn adolygu’r prosiect Parth Ysgol presennol yng Ngharchar Ei Fawrhydi y Parc, yn ogystal â chasglu gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael i blant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar.
Trosolwg
Mae’r astudiaeth hon yn brosiect blwyddyn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r tîm ymchwil yn cael ei arwain gan Nancy Loucks o Families Outside (Yr Alban) ac mae’r tîm yn cynnwys yr Athro Alyson Rees o CASCADE, Dr Ben Raikes (Prifysgol Huddersfield), Sarah Beresford, Polly Wright a chydymaith ymchwil.
Gweithgareddau a dulliau
Mae prosiect ASPIRE wedi dod i ben erbyn hyn. Yn ogystal ag ymweld â Charchar y Parc, aethon ni hefyd i ymweld â charchar Caerdydd ac arsylwi ei ddigwyddiad Invisible Walls cyntaf. Aethon ni ati i gynnal cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol a’r rhai â phrofiad personol; cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori bwrdd crwn ym Mhrifysgol Caerdydd gyda rhanddeiliaid mawr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y Comisiynydd Plant. Buon ni’n cysylltu â’n grŵp llywio drwy gydol y broses.
Cymeradwywyd yr adroddiad terfynol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025 ac mae wedi cael ymateb gwych. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod yn rhaid i unrhyw gynllun cymorth fod wedi’i seilio’n bennaf ar anghenion plant, nid ar y rhiant yn y carchar, ac ni ddylai ymwneud ag unrhyw gynllun gael ei ddefnyddio yn gymhelliant ar gyfer ymddygiad da gan garchar. Mae’n hanfodol bod gwasanaeth cyfartal i blant, ni waeth a yw eu mam neu eu tad yn y carchar (nid oes carchar i fenywod yng Nghymru), ymhle yng Nghymru y maen nhw’n byw, p’un a ydyn nhw’n mynd i’r ysgol ai peidio, ac os ydyn nhw’n dal i ddymuno cael cysylltiad â’u rhiant sydd wedi’i garcharu.
Mae yna nifer o ddarparwyr gwasanaethau a phrosiectau yn gweithredu ledled Cymru a chanfyddir bod y rhain yn cystadlu â’i gilydd, yn aml oherwydd natur y broses gomisiynu. Mae llawer o gontractau darparwyr yn rhai tymor byr, ac mae hyn yn arwain at drosiant personél, colli arbenigedd a diffyg atgyfnerthu dysgu. Mae angen cysondeb o ran hyfforddiant a negeseuon ar draws yr holl brosiectau a darparwyr.
Mae angen canolfan genedlaethol hygyrch o wybodaeth ac adnoddau (y bydd angen ei hariannu) ar gyfer cefnogi plant sydd â rhiant yn y carchar, gan gynnwys asesu effaith ar blant. Dylai cymorth a gwybodaeth fod ar gael yn gyflym i blant er mwyn helpu i wella effaith uniongyrchol a dinistriol cael rhiant yn cael ei ddedfrydu i garchar.
Canfyddiadau
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru isod:
Gallwch chi hefyd wylio gweminar ExChange Wales gan y tîm ymchwil.
Person Arweiniol
| Prif Ymchwilydd | Nancy Loucks |
| Prif Ymchwilydd | Alyson Rees |
Gwybodaeth gysylltiedig
| Ysgolion Cysylltiedig | N/A |
| Partneriaid cysylltiedig | N/A |
| Arianwyr | Llywodraeth Cymru |
| Cyhoeddiadau cysylltiedig | N/A |
| Dolenni cysylltiedig | N/A |
| Dogfennau cysylltiedig | N/A |
