Family group conferencing for children and families: Evaluation of implementation, context and effectiveness

Arolwg

Cynhadledd Grŵp Teuluol (CGT) yw cyfarfod lle mae’r teulu ehangach yn trafod plant sydd angen eu cefnogi a’u diogelu ac yn penderfynu ar gynllun ar gyfer gofalu amdanyn nhw.  

Nod astudiaeth Family VOICE yw gwella dealltwriaeth o ansawdd ac effeithiolrwydd cynadleddau grŵp teuluol. Dyma’r cwestiynau ymchwil: 

  1. Pa mor eang mae Cynadleddau Grŵp Teuluol yn cael eu cynnig yng Nghymru a Lloegr a beth yw eu defnydd? 
  1. Beth mae teuluoedd ac ymarferwyr yn meddwl sy’n effeithio ar ba mor llwyddiannus yw CGTau? 
  1. Sut mae ansawdd CGTau a’r amrywiaeth o ran eu defnydd yn effeithio ar brofiad teuluoedd a beth sy’n digwydd i’r teulu dros y flwyddyn ganlynol? 
  1. Beth sy’n digwydd dros y ddwy flynedd ganlynol i deuluoedd sydd wedi cael CGT? Oes gwahaniaeth yn eu defnydd o wasanaethau, o’u cymharu â theuluoedd nad ydyn nhw wedi cymryd rhan mewn CGTau, a beth yw cost hyn? 

Gweithgareddau/Dulliau

Cynhelir yr astudiaeth am bedair blynedd o 1 Hydref 2021 

Mae Pecyn Gwaith 1 yn cynnwys gweithio gyda grŵp o deuluoedd â phrofiad o CGTau i ganfod y dull gorau o fesur ansawdd CGTau a pha ffactorau sy’n dylanwadu ar ba mor dda mae pethau’n gweithio. 

Mae Pecyn Gwaith 2 yn cynnwys gweithio gyda grŵp o brosiectau CGT yng Nghymru a Lloegr i gwblhau’r holiaduron a gynlluniwyd ym Mhecyn Gwaith 1. Byddwn yn cysylltu â’r aelodau teuluol hyn eto ymhen blwyddyn.  

Mae Pecyn Gwaith 3 yn cynnwys dilyn yr hyn sy’n digwydd i blant a’u prif ofalwyr yn y 2 flynedd yn dilyn y CGT, gan ddefnyddio data a gesglir yn rheolaidd o gofnodion gofal cymdeithasol ac iechyd (heb allu adnabod unrhyw unigolion pan fyddwn ni’n cynnal y dadansoddiad). Caiff yr wybodaeth hon ei chymharu â theuluoedd eraill sydd ag anawsterau tebyg nad ydyn nhw wedi cymryd rhan mewn CGT, am nad oedd hyn yn cael ei gynnig yn eu hawdurdod lleol.  

Family VOICE – Hysbysiad Preifatrwydd​​

Canfyddiadau

Mae hon yn astudiaeth barhaus, gyda rhai canfyddiadau i’w cyhoeddi eto.

Adroddiad ar arolwg o wasanaethau

Erthygl am arolwg o wasanaethau


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddJonathan Scourfield

Staff Academaidd

YmchwilyddKar-Man Au
YmchwilyddRhiannon Evans
YmchwilyddFiona Lugg-Widger
YmchwilyddPhillip Pallmann
YmchwilyddStavros Petrou
YmchwilyddMike Robling
YmchwilyddDavid Wilkins
YmchwilyddLois Liao
YmchwilyddLee Sobo-Allen
YmchwilyddTarirai Lincoln Mahachi

Gwybodaeth Cysylltiedig

Canolfannau Ymchwil Cysylltiedig DECIPHer a’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd; Nuffield Department of Primary Care Health Sciences ym Mhrifysgol Rhydychen 
Partneriaid Cysylltiedig Y Bont a Bwrdeistref Camden yn Llundain 
CyllidwyrNational Institute for Health Research