Helpu teuluoedd hen filwyr sy’n dioddef   

Arwain

Mae llawer o hen filwyr y deyrnas hon yn dioddef ag anhwylder straen ar ôl trawma. Er bod rhywfaint o gymorth a thriniaeth ar gael i hen filwyr, dim ond ychydig sydd ar gael i’w teuluoedd er gwaetha’r ffaith y bydd effeithiau teimladol ac ymddygiadol cryf problemau difrifol iechyd y meddwl yn ymwneud â nhw, hefyd. Mae’r tîm ymchwil yn cydweithio yng Nghymru ag elusen sy’n datblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd hen filwyr. Wrth wraidd y gwasanaeth mae defnyddio dull adferol sydd wedi’i gysylltu ers amser maith â meithrin cysylltiadau a lleddfu gwrthdaro.    

Arolwg

Mae effaith negyddol afiechyd y meddwl ar deuluoedd yn hysbys iawn. Er bod nifer uchel y problemau ynghylch iechyd y meddwl wedi’i gydnabod, yn arbennig anhwylder wedi trawma, does dim llawer o gymorth er lles eu teuluoedd trwy’r drefn bresennol. Mae TGP yn elusen yng Nghymru sy’n helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd ar yr ymylon ac yn agored i niwed. Mae TGP yn adnabyddus am ddefnyddio dull adferol, rhan o drefn cyfiawnder adferol sydd wedi’i seilio ar egwyddorion democrataidd sy’n gyffredin i bawb megis gonestrwydd, ymddiried, tegwch, cynhwysiant a chydweithredu. Mae dull adferol wedi’i ddefnyddio mewn amryw wasanaethau megis addysg a budd-daliadau ac mae arwyddion addawol bod cysylltiadau wedi gwella a bod problemau megis ymddygiad ymosodol a bwlio yn llai. Mae ymchwil ddiweddar i’r defnydd o ddull adferol mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd wedi datgelu arwyddion bod gwasanaethau’n fwy effeithiol a bod mwy o gyfathrebu a llai o wrthdaro mewn teuluoedd.  

Mae TGP am gynnig gwasanaeth cymorth i deuluoedd hen filwyr sy’n dioddef ag anhwylder straen wedi trawma. I wneud hynny, mae’n cydweithio â Hen Filwyr GIG Cymru, gwasanaeth sy’n rhoi cymorth i hen filwyr sy’n dioddef â’r anhwylder. Mae ‘Gwasanaeth y Dull Adferol i Deuluoedd Hen Filwyr’ am helpu hen filwyr a’u teuluoedd, ar y cyd â Hen Filwyr GIG Cymru, i wella cysylltiadau a grym yn y teulu er iechyd meddwl pob aelod, gan gynnwys yr hen filwr. Mae’r ymchwil hon yn gwerthuso’r prosiect dros dair blynedd cyntaf ei ddatblygu a’i weithredu er mwyn adnabod a thrafod yr hyn a allai ei hwyluso neu ei rwystro a chynnig y gwasanaeth gorau o ganlyniad.

Gweithgareddau/Dulliau

Mae’r ymchwil yn astudiaeth gymysg wedi’i llywio i raddau helaeth gan ddata ansoddol. Yn ystod yr astudiaeth, mae ymchwilwyr wedi bod yn siarad yn rheolaidd â budd-ddalwyr allweddol Gwasanaeth Hen Filwyr yr Awyrlu Brenhinol a Hen Filwyr GIG Cymru ers dechrau’r gwasanaeth. Maen nhw wedi bod yn siarad ag amrywiaeth o hen filwyr a’u teuluoedd hefyd: Hen filwyr a wrthododd y gwasanaeth, hen filwyr a theuluoedd sydd wedi’i ddefnyddio a hen filwyr a theuluoedd sydd wedi dioddef ag afiechyd y meddwl heb fod yn ymwybodol o wasanaeth yr Awyrlu Brenhinol. At hynny, mae’r ymchwilwyr wedi mesur natur grym a chysylltiadau teuluoedd cyn defnyddio gwasanaeth yr Awyrlu Brenhinol ac wedyn.  

Canfyddiadau

Mae’r astudiaeth wedi’i chroesawu. Mae rhai meini tramgwydd wedi’u nodi ac mae rhai ffyrdd o’u datrys wedi’u cymathu yn nhrefn y gwasanaeth. Bydd adroddiad cyflawn erbyn mis Rhagfyr 2020.   


Y Pobl sy’n cymryd rhan

Prif YmchwilyddDr Annie Williams
Staff AcademaiddDr Alyson Rees
Dr Jeremy Segrott
Hayley Reed

Gwybodaeth Cysylltiedig

Ygsgolion Cysylltiedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol; DECIPHer
Partneriaid Cysylltiedig TGP Cymru
Cyllidwyr Forces in Mind