Yn amlach na dim, ni roir digon o bwys ar y gweithlu gofal plant preswyl, ac fe’i ystyrir yn un dros dro ac isel eu medr,
er yr holl waith y mae’n ei wneud gyda phlant sydd, gan amlaf, wedi dioddef trawma sylweddol, ac sy’n cael eu rhoi mewn cartrefi plant pan fetho popeth arall.

Trosolwg

Mae cofrestru a rheoleiddio staff o’r fath yn gallu cael effaith, nid yn unig ar y rheiny sydd wedi cofrestru, ond hefyd ar fywydau’r rhai sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Fodd bynnag, nid oes ymchwil ddigonol sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn sylfaenol: a ydy’r dyheadau hyn yn cael eu gwireddu. Mae datganoli hefyd wedi gweld gwahaniaeth sylweddol rhwng gwahanol wladwriaethau’r DU o ran y fframweithiau rheoleiddio sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol plant. Mae effaith y gwahaniaethau hyn o hyd yn faes sydd heb ddigon o ymchwil i mewn iddo.

Y nod yw ymchwilio i effaith gofrestru ar y gweithlu gofal plant preswyl. Dyma’r amcanion:

Datblygu theori rhaglen ar gyfer cofrestru a rheoleiddio gweithwyr gofal plant preswyl, a chaiff elfennau ohoni yna eu trin a’u trafod drwy ymdrin â meysydd eraill yn yr astudiaeth hon.

Darparu dadansoddiad o sut y mae’r broses gofrestru a rheoleiddio yn cael ei phrofi a’i deall gan aelodau’r gweithlu gofal plant preswyl a’r ddealltwriaeth sydd ganddynt o’i heffaith ar eu harferion a’u hunan-ddatblygiad; safon y gofal sy’n cael ei darparu; a chanlyniadau i bobl ifanc.

Cyfrannu at wybodaeth newydd a chynhyrchu cipolygon empirig at ddibenion deall effaith y fframweithiau rheoleiddio a llywio datblygiadau polisi rheoleiddio yn y dyfodol yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt.

Mynd ati i ystyried ymarferoldeb o ddatblygu cynllun ymchwil hydredol posibl yn y dyfodol, ac i ymchwilio i’r effeithiau rheoleiddio yn y tymor hir ar y gweithlu a chanlyniadau i bobl ifanc.

Gweithgareddau a Dulliau

Mae hwn yn werthusiad aml-ddull, sy’n cynnwys y pecynnau gwaith canlynol:

Cynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau ag ystod eang o randdeiliaid i ddatblygu model rhesymeg a theori rhaglen o ran cofrestru, ac fe gaiff elfennau ohonynt eu rhoi ar brawf mewn pecynnau gwaith dilynol.

Creu arolwg ar-lein ar gyfer staff cofrestredig mewn cartrefi preswyl plant yng Nghymru a Lloegr sy’n ystyried
sut y maent yn deall ac yn profi’r broses o gofrestru a rheoleiddio staff.

Cyfweliadau lled-strwythuredig a gynhelir ar draws dau gyfnod gwahanol gyda gweithwyr (n=50) sy’n dechrau eu gyrfa mewn gweithlu gofal plant preswyl
yng Nghymru a Lloegr, ac a fydd yn ystyried eu profiadau o’r broses ymsefydlu yn y swydd a pha mor barod ydynt ar ei chyfer.

Creu astudiaeth ddichonoldeb er mwyn datblygu cynllun astudiaeth a fyddai’n caniatáu ystyried yr effaith rheoleiddio yn y tymor hir, gan gynnwys ar ganlyniadau i blant a phobl ifanc

Canfyddiadau

Mae’r prosiect hwn yn mynd rhagddo.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddMartin Elliott

Academyddion ac Ymchwilwyr

Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol, Coleg y Brenin, LlundainDr Mary Baginsky
CASCADE, Prifysgol CaerdyddYr Athro Alyson Rees
Ganolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol CaerdyddYr Athro Mike Robling
Ganolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol CaerdyddDr Rebecca Playle
CASCADE, Prifysgol CaerdyddDr Cindy Corliss
Cymrawd Ymchwil, Coleg y Brenin LlundainDr Carl Purcell
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigN/A
ArianwyrY Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedigN/A
Dogfennau cysylltiedigN/A