Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau prosiect a gynhaliwyd gynt i gyd-ddylunio ac adeiladu hyb adnoddau sy’n cynnig gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl a lles, gan gynnwys dolenni i wasanaethau o’r fath, i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ledled Cymru.
Trosolwg
Mae iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd mewn gofal ac sy’n gadael gofal yn aml yn waeth nag iechyd meddwl a lles y boblogaeth ehangach, ac ni all y bobl ifanc hynny gael gafael ar gymorth priodol neu amserol. Ers pandemig COVID-19, mae nifer o wasanaethau wedi cael eu darparu o bell. Mae’n bwysig gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar-lein newydd hyn yn hygyrch ac yn berthnasol i’w hanghenion a’u dewisiadau.
Gweithgareddau a Dulliau
Byddwn yn:
- creu rhestr o wasanaethau iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar y cyd â phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc o’r fath
- cyd-greu a phrofi cynnwys ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
rhoi adborth ar sail gwybodaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i wasanaethau iechyd meddwl a lles - dylunio hyb adnoddau syml sy’n hawdd ei ddefnyddio ac sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer y cynnwys hwn
rhannu’r hyb adnoddau gyda phobl ifanc, gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau, gan gynnwys sefydliadau, ymarferwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Canfyddiadau
Mae’r prosiect hwn ar y gweill.
Dewch draw i Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol
Person arweiniol
Prif Ymchwilydd | Lorna Stabler |
Staff academaidd
Rheolwr Ymgysylltu | Rachael Vaughan |
Cynorthwy-ydd Ymchwil | Aimee Cummings |
Gwybodaeth gysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | SOCSI |
Partneriaid cysylltiedig | Voices from Care Cymru The Fostering Network TRIUMPH Network |
Arianwyr | Cardiff University Innovation for All funding |
Cyhoeddiadau cysylltiedig | N/A |
Dolenni cysylltiedig | Festival of Social Sciences event |
Dogfennau cysylltiedig | N/A |