Cyd-gynhyrchu’r CUBE
Arolwg
Gwasanaeth amlasiantaeth cymunedol yw’r CUBE sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd yn ardal un awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae CUBE yn darparu gwasanaeth cefnogaeth ddwys sydd wedi’i gyd-gynhyrchu ar sail tystiolaeth i deuluoedd yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac ar ei chyfer. Nodwyd natur y gwasanaethau a gynigir yn sgil ymgynghori helaeth gyda’r gymuned a nododd yr hyn yr oeddent eisiau ei dderbyn:
• Lle i helpu teuluoedd mewn angen neu sydd wedi’u heffeithio gan unigedd neu unigrwydd
• Lle sy’n darparu cefnogaeth o dan yr un to, yn hytrach na bod aelodau teuluoedd yn defnyddio gwahanol wasanaethau
• Gweithgareddau sy’n cael eu darparu ar gyfer aelodau o’r gymuned o bob oed yn ystod y dydd a chyda’r nos
• Lle sy’n cynnig cefnogaeth / gwybodaeth neu goffi’n unig, a hynny y tu hwnt i oriau gwaith
• Lle i bawb deimlo’n rhan o rywbeth.
Er mwyn cwrdd â’r meini prawf hyn yn y ffordd orau, daeth CUBE â gwasanaethau ynghyd ar gyfer teuluoedd yr oedd camddefnydd o sylweddau, trais domestig, problemau iechyd meddwl a / neu brofedigaeth yn effeithio arnynt. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi’i gwreiddio mewn hyb amlasiantaethol yn y gymuned sy’n cynnwys y gwasanaethau craidd hyn ynghyd â gwasanaethau cefnogol pellach sy’n ymestyn y tu hwnt i gwnsela, cyfryngu teuluol a chefnogaeth ar gyngor dyled,
addysg oedolion; therapi celf; coginio; coetsio bywyd; rhianta.
Er mai at ddefnydd y teuluoedd sy’n cael eu hatgyfeirio y mae’r gwasanaethau hyn, maent yno hefyd ar gyfer y gymuned ehangach. Er mwyn hwyluso hyn, mae CUBE wedi’i ddatblygu’n ganolfan ac adnodd cymunedol sy’n cynnig cyfleusterau fel caffi cymunedol, digwyddiadau chwaraeon, desgiau poeth, ‘siediau dynion’, cyfleuster ‘galw heibio’ dydd a nos a rhwydweithiau rhwng cymheiriaid o ddydd i ddydd.
Yn unol ag ethos CUBE o gyd-gynhyrchu, mae’r datblygwyr wedi mabwysiadu dull adferol ar gyfer yr holl staff, asiantaethau partner a chleientiaid ac ystyrir bod hyn wrth wraidd gweithredu llwyddiannus. Yn ystod y prosiect hwn, mae ymchwilwyr sydd â gwybodaeth ddofn o Ddull Adferol a Chyd-gynhyrchu yn bwriadu gweithio gyda CUBE i sicrhau bod dulliau cyd-gynhyrchiol ac adferol yn llunio’r gwasanaethau a’r ganolfan yn ôl y bwriad. Bydd y tîm ymchwil hefyd yn helpu CUBE i nodi a gweithredu mesurau deilliannau priodol.
Diweddariad: Mae’r gofynion cyfredol o ran cadw pellter cymdeithasol yn golygu bod y cynlluniau hyn wedi’u haddasu am y tro a’u cyflwyno ar-lein ac yn yr awyr agored, ond y bwriad yw i gynifer o’r gweithgareddau â phosibl gael eu cyflwyno’n unol â’r bwriad gwreiddiol pan ddaw hyn yn bosibl o fewn rheoliadau COVID-19. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda chyfyngiadau COVID-19 ar waith, mae CUBE yn cynnig rhaglenni cefnogaeth trwy grwpiau rhithwir a chyfarfod wyneb yn wyneb pan fo hynny’n bosibl.
Gweithgareddau a Dulliau
Mae CUBE yn fenter newydd ac i lawer, bydd Dull Cyd-gynhyrchiol Adferol yn ethos a phroses newydd.
Er bod pawb sy’n gweithio yn y ganolfan neu gyda’r ganolfan wedi dilyn cwrs hyfforddi Dull Adferol, nid yw’n hysbys sut olwg sydd ar hyn yn weithredol o ran cyflwyno a derbyn gwasanaeth, rhyngweithio bob dydd ac ethos CUBE. Yng ngoleuni hyn mae gan y prosiect nifer o nodau craidd:
• Cefnogi CUBE yn eu dehongliad o ddull adferol a throi hyn yn fodel gwasanaeth
• Helpu CUBE i weithredu a chyflwyno gwasanaethau yn unol â’r model adferol a ddatblygwyd
• Cefnogi CUBE i ddatblygu a gweithredu’r model gyda ffocws ar gyd-gynhyrchu / llesiant
• Archwilio graddau cyfranogiad y gymuned yn natblygiad a gweithrediad CUBE
• Archwilio derbynioldeb y gwasanaeth i’r gymuned ac a yw’n cael ei ystyried yn wasanaeth sy’n cael ei ddatblygu a’i redeg gyda’r gymuned
• Gweithio gyda CUBE i ystyried, dewis a gweithredu mesurau gwerthuso i ganiatáu gwerthuso’r gwasanaeth yn fewnol
• Darparu tystiolaeth ac arweiniad ynghylch y model gwasanaeth a gymhwysir yn CUBE i ddarganfod ei gryfderau a’i heriau ar gyfer ei weithredu’n ehangach yng Nghymru a thu hwnt
I gyflawni hyn, bydd ymchwilwyr yn gweithio’n agos gyda CUBE. Yn ystod secondiadau bydd ymchwilwyr yn rhannu dysgu trwy gyfnewid gwybodaeth i gefnogi gweithredu dull cyd-gynhyrchiol trosfwaol CUBE yn llwyddiannus gan ddefnyddio fframwaith adferol. Bydd hefyd yn cynhyrchu data newydd ynghylch sefydlu, am y tro cyntaf, cefnogaeth amlasiantaeth adferol ddwys, sydd wedi’i chyd-gynhyrchu yn y gymuned i blant a theuluoedd yng Nghymru.
Dulliau
Cyflawnir nodau ac amcanion y prosiect trwy:
• Drafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag aelodau staff a grwpiau sy’n darparu gwasanaethau CUBE
• Trafodaethau wedi’u cynllunio a rhai ad hoc gydag ystod o gleientiaid o’r gymuned gyda ffocws ar brofiadau a safbwyntiau am gefnogaeth CUBE.
Sylwadau am weithrediad CUBE a chyfranogiad yng ngweithgareddau a thasgau’r ganolfan. Os nad yw hyn yn bosibl oherwydd COVID a pholisi CUBE, bydd ymchwilwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau CUBE yn rhithwir.Bydd y gwaith hwn yn cynhyrchu model diwygiedig o CUBE sydd wedi’i gyd-gynhyrchu a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio yn y sefydliad. Bydd y model hwn yn sail i weithgareddau gwerthuso yn y dyfodol drwy law’r ymchwilwyr gyda’r nod o asesu effeithiolrwydd gwasanaethau.
Canfyddiadau
Ar ddod.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr Annie Williams |
Staff Academaidd
Staff Academaidd | Dr Hannah Bayfield |
Staff Academaidd | Dr Jen Lyttleton-Smith |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Partneriaid Cysylltiedig | CUBE stakeholder a’r gymuned mae nhw’n gwasanaethu |
Cyllidwyr | ESRC/CUBE Lottery Fund |