Gall rhagfarnau gwybyddol effeithio ar gywirdeb penderfyniadau gwaith cymdeithasol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddulliau a ddefnyddir yn helaeth ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer lliniaru effeithiau rhagfarnau gwybyddol yng ngwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd yn Lloegr.
Arolwg
Nod y prosiect hwn yw nodi a phrofi un ymyriad addawol i helpu i liniaru effeithiau rhagfarnau gwybyddol wrth wneud penderfyniadau gwaith cymdeithasol.
Mae gweithwyr cymdeithasol plant a theuluoedd yn gwneud penderfyniadau critigol am deuluoedd bob dydd. Bydd rhai o’r penderfyniadau hyn yn arwain at ganlyniadau gydol oes i’r teuluoedd dan sylw. Fel pob un ohonom, mae gweithwyr cymdeithasol yn profi ystod o ragfarnau gwybyddol ac mae’n debygol iawn bod rhagfarnau o’r fath yn dylanwadu ar eu penderfyniadau. Yn y prosiect hwn, rydym yn cynnal treial hapsamplu rheolyddedig o un ymyriad addawol i helpu i liniaru rhagfarn mewn gwaith cymdeithasol.
Gweithgareddau/Dulliau
Mae tri cham i’r prosiect hwn. Yn yr un cyntaf, rydym yn gofyn i weithwyr cymdeithasol, a gymerodd ran mewn astudiaeth flaenorol o benderfyniadau, gwblhau arolwg a’n helpu i ddeall pa ragfarnau gwybyddol sydd fwyaf cyffredin mewn gwaith cymdeithasol.
Yng ngham dau, byddwn yn treialu tri neu bedwar ymyriad addawol i helpu i liniaru’r rhagfarnau a nodwyd gan weithwyr cymdeithasol fel y rhai mwyaf cyffredin mewn gwaith cymdeithasol.
Yng ngham tri, byddwn yn dewis un o’r ymyriadau ac yn cynnal treial hapsamplu rheolyddedig i fesur ei effeithiolrwydd ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.
Canfyddiadau
Darllenwch yr adroddiad yma
Mae’r adroddiad ar gael yn yr saesneg yn unig.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | David Wilkins |
Staff Academaidd
Staff Academaidd | Melissa Meindl |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | Ysgol Y Gwyddorau Cymdeithasol |
Partneriaid Cysylltiedig | What Work’s for Children’s Social Care |
Cyllidwyr | Good Judgement and Social Work Decision-Making: A randomised controlled trial of brief interventions to improve forecasting |