Mae Barnardo’s yn bartner allweddol yn yr Uned Atal Trais (VPU) sydd newydd ei sefydlu yn Ne Cymru. Fel rhan o’u gwaith i bennu’r dulliau gorau o leihau nifer yr achosion o drais ymhlith pobl ifanc, maent wedi comisiynu ymarfer mapio a chydosod ac adolygiad llenyddiaeth i gyd-fynd â’u gweithgareddau cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio. 

Arweiniad

Cynhaliwyd adolygiad systematig o fapio a chydosod er mwyn i Barnardo’s asesu’r hyn sy’n hysbys yn y llenyddiaeth am yr arferion gorau ar gyfer atal trais ymhlith pobl ifanc. 

Arolwg

Nod yr adolygiad oedd ymgymryd â mapio ac edrych i’r dyfodol er mwyn nodi enghreifftiau o arferion da wrth atal trais. 

Gweithgareddau a Dulliau

Cynhaliwyd adolygiad systematig o fapio a chydosod rhwng Mawrth-Gorffennaf 2020. 

Chwiliwyd y cronfeydd data canlynol: Embase, Medline (gan gynnwys Medline In-Process ac Medline ePub), PsycINFO, Scopus a Social Policy and Practice. 

Chwiliwyd am lenyddiaeth lwyd, gan ddefnyddio termau allweddol, o’r adnoddau ar-lein canlynol: Barnardo’s, Swyddfa’r Comisiynydd Plant ar gyfer pedair cenedl y DU, Rhaglen Arloesi Gofal Cymdeithasol i Blant, Cymdeithas y Plant, Porth Gwybodaeth Lles Plant, GOV.UK, Sefydliad Ymyrraeth Gynnar, Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, NSPCC a’r Ganolfan Diogelu. 

Cyfyngwyd chwiliadau fesul blwyddyn, ar ôl 2013 ac i’r iaith Saesneg. 

Canfyddiadau

Nod mae’r adroddiad ar gael yn Saesneg yn unig.


Person Arweiniol

Person Arweiniol Nina Maxwell

Gwybodaeth Cysylltiedig

Partneriaid Cysylttiedig Barnado’s
Cyllidwyr Uned Atal Trais