Y nod yr astudiaeth hon yw deall profiadau rhanddeiliaid o ddarparu a derbyn darpariaeth iechyd meddwl a llesiant ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal (11-25 oed) mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru ac yn y sector addysg bellach (AB), a gwneud argymhellion i ddatblygu a gwneud y gorau o’r ddarpariaeth.
Trosolwg
Mae iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn flaenoriaeth ym meysydd iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol. Mae ysgolion yn lleoliadau allweddol ar gyfer cefnogi iechyd meddwl a lles, ond mae gwasanaethau cyfyngedig sy’n benodol i anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi derbyn gofal. Hyd yn hyn, ychydig o waith ymchwil sydd wedi’i wneud i ddeall sut y gall ysgolion gefnogi iechyd meddwl a lles y boblogaeth hon orau, a sut y gallent weithio gyda rhanddeiliaid ar draws systemau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o’r broses hon. Mae diffyg dealltwriaeth hefyd ynghylch sut y caiff y boblogaeth hon ei chefnogi ar adegau pontio allweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i addysg ôl-16.
Bydd yr astudiaeth yn ateb chwe chwestiwn ymchwil:
- Beth mae ysgolion uwchradd yn ei ddarparu ar hyn o bryd wrth gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant sydd wedi derbyn gofal?
- Sut mae iechyd meddwl a lles plant sydd wedi derbyn gofal yn cael eu cefnogi wrth iddynt drosglwyddo i leoliadau addysgol ôl-16?
- Sut mae ysgolion yn gweithio gyda gweithwyr gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg proffesiynol ehangach i gyflwyno darpariaeth?
- Beth yw’r rhwystrau a’r hwyluswyr allweddol i weithredu darpariaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal a sut mae ffactorau cyd-destunol yn pennu’r rhwystrau a’r hwyluswyr hyn?
- Sut mae plant, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn profi’r ddarpariaeth bresennol? Sut mae’r ddarpariaeth yn cael ei phrofi’n wahanol gan y rhai sydd â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig, y rhai sydd wedi derbyn gofal neu wedi’u mabwysiadu?
- Beth yw anghenion y ddarpariaeth bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer plant sydd wedi derbyn gofal? A oes canlyniadau blaenoriaeth y dylid eu mesur a’u monitro?
Gweithgareddau a Dulliau
Mae WiSC yn astudiaeth dull cymysg gyda phum pecyn gwaith rhyng-gysylltiedig.
ecyn Gwaith 1 – dadansoddiad eilaidd o setiau data’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i fapio pa mor gyffredin y mae darpariaethau iechyd meddwl a lles mewn ysgolion uwchradd.
Pecyn Gwaith 2 – cyfweliadau gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a staff mewn ysgolion uwchradd i archwilio profiadau cyflwyno a derbyn darpariaeth.
Pecyn Gwaith 3 – cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc a staff mewn dau goleg AB i archwilio profiadau pontio o’r ysgol uwchradd a sut mae’r ddarpariaeth yn y sector AB yn cael ei chyflwyno a’i derbyn.
Pecyn Gwaith 4 – cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag uwch reolwyr a gweithwyr cymdeithasol o dimau gwaith cymdeithasol Gwasanaethau Plant a Gofalwyr Maeth a nyrsys iechyd meddwl a rheolwyr o dimau CAMHS i archwilio profiadau o gyflwyno darpariaeth ar draws lleoliadau addysgol.
Bydd dull dadansoddol thematig yn cael ei gymhwyso ar draws y pedwar pecyn gwaith, gan ganolbwyntio ar benderfynyddion cyd-destunol darpariaethau iechyd meddwl mewn systemau addysg a gofal cymdeithasol.
Pecyn Gwaith 5 – integreiddio canfyddiadau ac argymhellion drafft i’w trafod mewn gweithdai rhanddeiliaid gyda phlant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau, cyn cwblhau argymhellion ar gyfer gwneud y gorau o’r ddarpariaeth.
Canfyddiadau
Dim Canfyddiadau ar hyn o bryd.
Gallwch gysylltu ag Astudiaeth WiSC drwy ebost
wisc@cardiff.ac.uk
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr Gillian Hewitt |
Prif Ymchwilydd | Dr Sarah MacDonald |
Academyddion ac Ymchwilwyr
Cydymaith Ymchwil | Dr Rebecca Anthony, DECIPHer |
Cymrawd Ymchwil | Dr Rachel Brown, DECIPHer |
Darllenydd | Dr Rhiannon Evans, DECIPHer |
Darlithydd | Dr Siôn Jones, School of Social Sciences |
Athro Gwaith Cymdeithasol a Chyd-gyfarwyddwr | Professor Alyson Rees, CASCADE |
Gwybodaeth gysylltiedig
Ysgolion Cysylltiedig | N/A |
Partneriaid cysylltiedig | DECIPHer canolfan ymchwil |
Arianwyr | Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru |
Cyhoeddiadau cysylltiedig | N/A |
Dolenni cysylltiedig | N/A |
Dogfennau cysylltiedig | N/A |