Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS) yn gweithio gyda Chaerffili ers mis Ebrill 2017 i ddarparu eiriolwyr i rieni. Yn 2020 dyfarnwyd cyllid i NYAS gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar draws Gwent. Rydym yn dymuno cynnal gwerthusiad manwl o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir inni o sut mae’r Rhaglen Eiriolaeth Rhieni (PAP) yn cefnogi rhieni a theuluoedd ledled Gwent a sut mae’n cael ei gweithredu mewn gwahanol awdurdodau lleol. Bydd hyn yn ychwanegiad pwysig at y sylfaen ymchwil hon gan mai ychydig o dystiolaeth a wnaed yn y Deyrnas Unedig ynghylch y pwnc hwn.
Arolwg
Nod y PAP yw cefnogi rhieni fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod wedi’u grymuso i chwarae rhan ystyrlon wrth wneud penderfyniadau ochr yn ochr â gofal cymdeithasol plant ac asiantaethau allweddol eraill. Nod arall i’r prosiect yw ceisio lleihau, yn ddiogel, nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal yn ardal Gwent. Dyma’r tro cyntaf i brosiect eiriolaeth rhieni sydd wedi’i ariannu’n iawn gan y Llywodraeth gael ei sefydlu yn y DU. O ganlyniad, mae’n hanfodol bod ymchwil gadarn yn cael ei gwneud i ddarganfod a yw’n effeithiol wrth rymuso rhieni a lleihau nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’r rhai mewn gofal, a hynny mewn ffordd ddiogel a phriodol. Ein nod yw deall sut mae PAP yn gweithredu ac yn effeithio ar allu rhieni i gymryd rhan yn ystyrlon wrth i benderfyniadau gael eu gwneud. Bydd rhieni’n chwarae rhan allweddol yn yr astudiaeth hon, o’r camau dylunio ar hyd i daith i’w chwblhau a’i lledaenu. Bydd yr astudiaeth yn edrych ar 5 ardal Awdurdod Lleol yng Ngwent ac yn ystyried effaith PAP yn yr Awdurdodau Lleol hyn.
Caiff yr ymchwil ei harwain gan y cwestiynau ymchwil canolog canlynol:
- Beth yw elfennau hanfodol y Prosiect Eiriolaeth Rhieni? Sut y gellir eu disgrifio mewn model rhesymeg?
- Ym mha ffyrdd ac o dan ba amgylchiadau y mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni yn cefnogi rhieni i chwarae rhan fwy ystyrlon wrth wneud penderfyniadau pan fydd pryderon ynghylch llesiant plant?
- Beth yw profiadau rhieni a gweithwyr proffesiynol o’r Prosiect Eiriolaeth Rhieni?
- Tra bod y Prosiect Eiriolaeth Rhieni yn rhedeg, a oes unrhyw ostyngiad yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a’r rhai sy’n cael eu derbyn i ofal yn yr ardaloedd lle mae’n gweithredu?
Gweithgareddau a Dulliau
Mae dyluniad yr ymchwil yn werthusiad realaidd dulliau cymysg sy’n dwyn data ansoddol a meintiol ynghyd i ateb y cwestiynau ymchwil. Mae dulliau realaidd yn edrych ar achosion a phatrymau deilliannau mewn perthynas â dylanwadau cyd-destunol. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys cyfuniad o arolygon, dadansoddi ffeiliau, arsylwi ymarfer a chyfweliadau un i un yn cynnwys rhieni a gweithwyr proffesiynol.
Canfyddiadau
Mae’r prosiect hwn ar y gweill. Rydym yn gweithio ar yr adroddiad terfynol ar hyn o bryd, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2023.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr Clive Diaz |
Staff Academaidd
Staff Academaidd | Dr Louise Roberts |
Staff Academaidd | Dr David Tobis |
Research Assistant | Lilly Evan |
Research Assistant | Sammi Fitz-Symonds |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Ysgol Cysylltiedig | Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol |
Partneriaid Cysylltiedig | Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, DECIpher, SAIL Databank ym Mhrifysgol Abertawe, Canolfan Treialon Ymchwil |