Mae gennym gymuned PhD/Doethuriaeth Broffesiynol fawr, fywiog yn CASCADE. Mae ein myfyrwyr PhD yn astudio ystod eang o bynciau amrywiol ar draws gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol i oedolion, camfanteisio a materion yn ymwneud â chyfiawnder troseddol.  Rhestrir y myfyrwyr a’u pynciau isod. Mae’r myfyrwyr doethurol yn cael cyfarfodydd rheolaidd a hwylusir gan Bridget Handley (myfyriwr PhD). Gall myfyrwyr doethurol CASCADE ymuno â’u cyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gall myfyrwyr CASCADE ddefnyddio’r desgiau a’r cyfrifiaduron yn ein gofod swyddfa yn Sbarc. Mae’r ardal olau, cynllun agored yn Sbarc yn gadael i fyfyrwyr PhD CASCADE ddefnyddio desgiau a chyfrifiaduron, treulio amser gyda’i gilydd, dod i adnabod ei gilydd, rhannu profiadau, traws-beillio eu syniadau a chael budd o gyd-gefnogaeth. Gall myfyrwyr doethurol hefyd ddefnyddio caffi hyfryd Llaeth a Siwgr ar gyfer sgyrsiau a chyfarfodydd anffurfiol.  Mae llawer o oruchwylwyr doethurol CASCADE hefyd yn gweithio yn y ganolfan. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i astudio am PhD cysylltwch â Martin Elliott (ElliottMC1@caerdydd.ac.uk) sy’n gyfrifol am y rhaglen Llwybr i PhD. Anelir y rhaglen at y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau (naill ai gwasanaethau oedolion neu blant a theuluoedd) sy’n ystyried ymgymryd â doethuriaeth neu ddoethuriaeth broffesiynol, ac mae’n cynnig cefnogaeth i fynd â’ch syniadau ymchwil a’u datblygu’n gais ar gyfer astudiaeth ddoethurol.

Myfyrwyr Doethurol/PhD presennol


MyfyriwrPwnc
Bridget Handley Syrthio rhwng y bylchau? Dadansoddiad astudiaeth achos o weithio mewn partneriaeth i gefnogi iechyd meddwl plant mewn gofal.
Dawn Hutchinson Rôl y model ‘Hunan Faethu’ wrth gefnogi sefydlogrwydd lleoliad maeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: Dadansoddiad Ffenomenolegol Deongliadol o brofiadau gofalwyr maeth.
Louisa Roberts Symud: Deall trosglwyddo pobl ifanc ag anghenion gofal cymdeithasol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i wasanaethau i oedolion.
Rebecca Jones Mentora ar gyfer plant mewn gofal: y cysyniad o rôl, gwerth, a chanlyniadau’r rhaglen Ymwelydd Annibynnol.
Zoe BezeczkyBeth yw effaith protocolau ar y cyd rhwng yr heddlu a chartrefi preswyl plant yng Nghymru?
Charlotte WaitsBeth yw arweinyddiaeth dda mewn gwasanaethau amddiffyn plant?
Rachel Parker Deall rôl ysgolion o ran ymddygiad hunan-niweidiol disgyblion: Datblygu atal ac ymyrryd ar lefel system
Charlotte WhittakerDatblygu damcaniaeth o Gyfweld Ysgogol ar gyfer gwaith cymdeithasol statudol gyda phlant a theuluoedd: Sut gellir defnyddio cyfweld ysgogol i gefnogi sgyrsiau effeithiol am risg?
Lorna StablerBeth yw profiadau bywyd brodyr a chwiorydd o roi gofal i berthnasau? Nodi llwybrau at wella canlyniadau gofal gan berthnasau
Zoe Wrigley Dadansoddiad o Atgyfeiriadau a Chanlyniadau i Bobl Ifanc sydd mewn Perygl o CSE
Rhiannon Maniatt Rheoli Trawma Ail Law: Cymariaethau rhwng Gweithwyr Proffesiynol sy’n Oroeswyr a Gweithwyr Proffesiynol nad ydynt yn Oroeswyr mewn Cyd-destun Cam-drin Domestig
Angela EndicottAnghydraddoldebau Lles Plant ym Mhedair Gwlad y DU
Rebecca Messenger Diwylliannau magu plant
Simon JohnsYmchwilio i effaith sesiynau ymyrraeth lles rheolaidd mewn ysgolion uwchradd ar iechyd meddwl disgyblion a’r canlyniad dysgu a gyflawnir.
Catherine Phillips Rôl normau rhywedd yn nealltwriaeth plant o orfodaeth a rheolaeth mewn perthnasoedd: cyd-gynhyrchu ymyrraeth addysgol aml-asiantaethol i blant (7-11 oed)
Lee Sobo-Allen Amddiffyn Plant, Plant a’u Tadau Dibreswyl: Astudiaeth o ddisgwyliadau a chymhellion tadau dibreswyl sy’n ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol
Rosie MooreDysgu Gwersi: Llywio gwaith i atal hunanladdiad drwy ddadansoddiad dogfennol o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion
Sylvia HoylandCefnogi menywod sydd mewn perygl o ailadrodd beichiogrwydd ac achosion gofal rheolaidd: Astudiaeth dulliau cymysg o’r gwasanaethau Myfyrio yng Nghymru
Laura Mayhew ManistreBeth sy’n gweithio i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc sy’n gadael gofal cyhoeddus yng Nghymru?
Monica ThomasMamau absennol: Profiadau goddrychol carcharorion du Prydeinig wrth gynnal perthynas ac ymlyniad â’u plant, a’r effeithiau canfyddedig ar ymatal rhag troseddau yn y dyfodol.
Sarah CavillCymharu Cydbwysedd Galwedigaethol Mamau Gydag a Heb Iselder Ôl-enedigol a Dylanwad Cefnogaeth Gymdeithasol a Chyfalaf Cymdeithasol
Richeldis Yhap Trafod Adferiad: Profiadau ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth o lwybrau gofal iechyd meddwl yng Nghymru
Gemma AllnattBeth sy’n cyfrannu at lwyddiant pobl ifanc sy’n Derbyn Gofal mewn Addysg Uwch?
Annemarie NewburyCryfhau ymatebion teuluol i blant sydd wedi dioddef cam-fanteisio troseddol
Andrea Cooper (nee Murray) Gofalwyr Anffurfiol a Gwaith Cymdeithasol wedi’i Wreiddio mewn Gofal: Gwella Mynediad i Gartrefi Preswyl a Nyrsio
Aimee Cummings
Samantha Fitz-SymondsTuag at Alluedd Cyfle i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal: Cymhariaeth o Fodelau Ymarfer yng Nghymru, Lloegr a Sgandinafia. (cyd-oruchwylir gyda Julie Doughty, LAWPOL)
Femi David arweinyddiaeth mewn gwasanaethau plant
Elizabeth BrierleyRhag-Achosion, Achosion Gofal Rheolaidd a Gwaith Cymdeithasol gyda Phlant a Theuluoedd: Astudiaeth achos ansoddol o sut y cyflawnir gwaith cymdeithasol gyda phlant a theuluoedd sy’n ddarostyngedig i gam rhag-achosion yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, mewn Awdurdod Lleol yn Lloegr.
Lauren DoyleArchwiliad o brofiadau a chyfranogiad plant mewn achosion llys teulu preifat
Imran MohammedArchwiliad o rôl yr Addysgwr Practis yng Nghymru
Richeldis Yhap 
Ali Davies
Sarah Farragher
David Walkerhyfforddiant wedi’i lywio gan drawma i ofalwyr maeth
Elizabeth Brierley

Past Doctoral/PhD Students


MyfyriwrBlwyddynPwnc
Ed Janes 2021Pobl sy’n Gofalu: Beth sydd ei angen ar bobl ifanc sy’n gofalu am aelodau o’r teulu i ffynnu? Ymchwiliad empirig.
Lucy Sheehan2021Trwsio Newid – Astudiaeth Ethnograffig o’r Plentyn
Alison Prowle2021‘Diolch am holi am fy stori’: Archwilio profiadau rhieni a orfodwyd i fudo a darpariaeth gwasanaethau cymorth yng Nghymru
Catherine Turney2021Sut mae plant yn rhagweld, profi a rheoli pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd?
Frances Lewis2021Gwerthuso uned gwaith cymdeithasol systemig fel ffordd o ddarparu gwasanaethau i blant a theuluoedd
James Matthew Thomas Snook2021Archwiliad o Newidiadau mewn Hunaniaethau Proffesiynol Athrawon Gyrfa Gynnar ar draws Rhaglen Ymchwiliad i Athrawon Ôl-raddedig
Lucy Catherine Treby2021Beth yw’r berthynas rhwng goruchwylio ac ymarfer mewn gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd? Dadansoddiad o 12 astudiaeth achos
Kate Marston2020Archwilio’r berthynas rhwng diwylliannau digidol, goddrychau rhywiol/rhywedd a mynegiant hunaniaeth rywiol/ rhywedd pobl ifanc y DU
Alexandra Vickery2019Dioddef mewn Tawelwch; Dynion ac Ymdopi â Phroblemau Iechyd Meddwl
Louise Folkes2019(Ail)ddychmygu Cyfunol Symudedd Cymdeithasol: Dirnadaeth o Naratifau (an)symudedd Seiliedig ar Le, Dosbarthedig a Rhywedd
Hayat Benkorichi Graoui2019Canfyddiadau athrawon o ddeinameg yr ystafell ddosbarth aml-ethnig
June Eunice Taitt2019Ydyn ni yna eto? Archwilio Cyfranogiad gan Ddefnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr a Modelau/Dulliau Gweithredu a Ddefnyddir mewn Rhaglenni Gradd Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru
Clive Philip Diaz2019Astudiaeth o gyfranogiad plant a phobl ifanc yn eu Hadolygiadau Plant mewn Gofal
Marion Russell2019Her a Chymhlethdod: Gweithredu  Rôl Prif Weithiwr Cymdeithasol Plant a Theuluoedd yn Lloegr
Janet Elizabeth Stephens2019Rhaglen llwybr at radd – astudiaeth o addysg oedolion
Wahida Kent2018Y plant anweledig: Plant a phobl ifanc Du a Lleiafrifoedd Ethnig sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd
Victoria Sharley2018Adnabod ac ymateb i achosion o esgeuluso plant mewn Ysgolion yng Nghymru
Daniel Richard Burrows2018Adnabod ac ymateb i achosion o esgeuluso plant mewn Ysgolion yng Nghymru
Martin Kinsey Price2018Digon yw Digon: Sut mae Gweithwyr Cymdeithasol yn Llunio Barn wrth Ymyrryd i Ddiogelu Plant sydd wedi’u Hesgeuluso
Lucy Treby
Abubakari Yakubu
Janet Elizabeth
Emma Chivers
Rob Lomax
Kathryn Johnstone
Tilly Greenwell
Lauren Doyle
Catherine Turney
Ali Davies
Rebecca Esther Burden
Vincent Dambudzo