Gofal gan berthynas yw’r ffordd fwyaf cyffredin y gofelir am blant os na all eu rhieni ofalu amdanyn nhw. Mae llu o enghreifftiau o hyn yn rhai o’n straeon mwyaf poblogaidd. Roedd Spiderman yn cael gofal gan berthynas – cafodd ei fagu gan ei Fodryb May a’i Ewythr Ben. Mae Lilo yn cael ei magu gan ei chwaer Nani yn Lilo a Stitch. Mae’r Dywysoges Hir ei Chwsg (Sleeping Beauty) yn cael ei magu gan ei thylwyth teg i’w chadw’n ddiogel.
Mae pob un o’r enghreifftiau hyn, a llawer mwy, yn bodoli gan fod gofal gan berthynas yn rhan gyffredin o fywyd teuluol, yn enwedig ar adegau anodd. Mae gofal gan berthynas yn llawer mwy cyffredin na gofal maeth neu fabwysiadu, ond rydym yn gwybod llai am y teuluoedd hyn.
Er enghraifft, nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd faint o blant sy’n cael gofal gan berthynas yn y DU, na chyda phwy maen nhw’n byw. Mae cyfrifiadau yn rhoi amcangyfrif da inni. Amcangyfrifodd y cyfrifiad diweddaraf fod 141,000 o blant (1.1% o boblogaeth plant) yn cael gofal gan berthynas yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru yn benodol, amcangyfrifwyd bod trefniant gofal gan berthynas ar waith mewn 1.9% o’r aelwydydd sydd â phlant, o’i gymharu ag 1.5% o aelwydydd yn Lloegr. Fodd bynnag, mae ambell gafeat. Dim ond cipolwg y mae’r Cyfrifiad yn ei roi mewn gwirionedd, ac nid yw’n cynnwys pob teulu lle rhoddir gofal gan berthynas. Er enghraifft, roedd mamau bedydd y Dywysoges Hir ei Chwsg yn ffrindiau i’r teulu, felly ni fydden nhw wedi cael eu hystyried yn ofalwyr sy’n berthynas yng Nghyfrifiad 2021. Ar ben hynny, dim ond aelwydydd â phum person neu lai a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad. Roedd yn eithrio teuluoedd mawr ac mae’n bosibl y gallai llawer o frodyr a chwiorydd hŷn sy’n gofalu am blant fod wedi’u cuddio (gweler PhD Dr Lorna Stabler ar y pwnc hwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar).
Ni allwn fod yn gwbl siŵr ychwaith beth sy’n gwneud gofal gan berthynas yn brofiad positif i blant a’u gofalwyr, a pha gymorth ychwanegol allai helpu’r teuluoedd hyn i gyflawni deilliannau positif. Mae rhai o’r plant sy’n cael gofal gan berthynas yn cael mewnbwn gan weithwyr cymdeithasol os ydyn nhw’n cael eu hystyried yn ‘blant sydd o dan ofal’. Mae hyn yn wir hefyd yn achos rhai plant sydd â gorchymyn cyfreithiol o’r enw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO). Ond hyd yn oed i’r plant hyn, ychydig a wyddwn am yr hyn sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw mewn gwirionedd, a sut y dylai gwasanaethau ddiwallu eu hanghenion.
Yma yn CASCADE, rydym yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau hyn. Er enghraifft, mae ein prosiect a ariennir gan Sefydliad Nuffield, dan arweiniad Dr Lorna Stabler, yn canolbwyntio ar orchmynion SGO yng Nghymru. Mae’r prosiect yn defnyddio Banc Data SAIL i’n helpu i ddeall faint o blant yng Nghymru sydd â gorchymyn SGO, beth yw eu nodweddion, a phwy yw eu gofalwyr. Mae’r prosiect yn gweithio gyda’r Uned Asesu Niwroddatblygiad hefyd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd. Ei nod yw deall rhagor am gryfderau ac anghenion plant 4 – 7 oed sy’n cael gofal gan berthynas a pha gymorth y gallai fod ei hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau mynd i’r ysgol.
Ond ar gyfer pob cwestiwn yr ydym yn ei ateb, mae angen inni fynd i’r afael â llawer mwy o hyd. Rydym yn angerddol am wneud yn siŵr bod plant sy’n cael gofal gan berthynas yn cael eu cydnabod a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
I gyd-fynd â’r Wythnos Gofal gan Berthynas, rydym yn eich gwahodd i gysylltu a dweud wrthym am eich blaenoriaethau ar gyfer gwneud ymchwil am ofal gan berthynas – ydych chi’n credu bod cwestiwn y mae gwir angen ateb ar ei gyfer? Ydych chi’n ystyried gwneud PhD am faes gofal gan berthynas? Ydych chi’n gwybod am brosiect gwirioneddol ddiddorol sy’n gweithio gyda gofalwyr sy’n berthynas y mae angen ei werthuso? A gawsoch chi ofal gan berthynas yn ystod eich plentyndod, neu ydych chi’n berthynas sy’n rhoi gofal ar hyn o bryd ac am ddylanwadu ar ymchwil yn y dyfodol?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Cysylltwch â Lorna drwy ebostio StablerL@caerdydd.ac.uk