Astudiaeth ymchwil weithredol yw hon sydd wedi’i theilwra i gefnogi’r Rhaglen Troseddwyr Cam-drin Domestig i’w newid i ganolbwyntio’n fwy ar effaith trawma. Rydym wedi cynnal adolygiad o ymchwil allweddol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma ac effeithiolrwydd rhaglenni troseddwyr. Bydd yr rhain yn cael eu rhoi i reolwyr ac ymarferwyr ar ffurf adroddiadau cryno a byddwn hefyd yn cyflwyno cyfres o weminarau i helpu i ymgorffori’r dysgu. Rydym hefyd yn adolygu’r deunydd a ddefnyddir yn eu rhaglen cyflawnwyr 26 wythnos fel y gallwn weithio gyda nhw i’w newid i ganolbwyntio’n fwy ar effaith trawma.
Arolwg
Mae Rhaglen Troseddwr Cam-drin Domestig Barnardo (DAPP) yn dilyn model Duluth i fynd i’r afael â thrais domestig. Fodd bynnag, mae’r prosiect yn cydnabod bod llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi profi rhyw fath o drawma ar ryw adeg yn eu bywydau. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â hyn trwy newid y rhaglen fel ei bod yn canolbwyntio’n fwy ar effaith trawma. Mae Barnardo’s yn gyffredinol bellach yn canolbwyntio ar fod yn fwy ymwybodol o drawma felly mae’r gwaith hwn yn gyson â’r dull newydd hwnnw.
Gweithareddau/Dulliau
Mae’r tîm wedi datblygu dealltwriaeth o’r rhaglen trwy adolygu’r gwaith papur a chynnal chyfweliadau anffurfiol gyda chydlynwyr a chyflwynwyr y rhaglenni. Ar yr un pryd, mae’r tîm wedi adolygu’r llenyddiaeth bresennol ar ddulliau sy’n seiliedig ar drawma ac yn cyd-gyflwyno gweithdai gyda’r tîm DAPP ar sut y gellir datblygu’r gwasanaethau ymhellach i fod yn fwy ymwybodol o drawma. Wrth i’r rhaglen ddatblygu, rydym yn gobeithio gwrando ar recordiadau o sesiynau grŵp a hefyd cynnal cyfweliadau pellach gydag ymarferwyr a’r teuluoedd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.
Canfyddiadau
Bydd yr astudiaeth hon yn bennaf yn helpu i ddatblygu damcaniaethau ynghylch sut i weithio gyda cham-drin domestig a thystiolaeth ynghylch a all dulliau sy’n cael eu llywio gan drawma fod yn ddefnyddiol.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Prof. Donald Forrester |
Staff Academaidd
Ymchwilydd | Catrin Wallace |
Ymchwilydd | Dr. Clive Diaz |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Partneriaid Cysylltiedig | Barnado’s Cymru |