Mae data gweinyddol a gesglir ac a gynhelir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gaffael gan Gronfa Ddata Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) sy’n diogelu preifatrwydd. Mae’r Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE), a gynhelir gan yr Ysgol Feddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnwys toreth o ddata gweinyddol dienw am boblogaeth Cymru (Ford et al., 2009; Lyons et al., 2009; Jones et al., 2016). 

Nid yw Cronfa Data Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) yn derbyn nac yn trin data adnabyddadwy. Mae data dienw ar gael at ddibenion ymchwil gwirioneddol dim ond lle mae potensial i elwa. Neilltuir Maes Cysylltu Dienw (ALF) i unigolion yn y data ac mae hyn yn golygu y gellir cysylltu data sy’n ymwneud ag unigolyn penodol gyda’i gilydd o wahanol setiau data. Er enghraifft, gellir cysylltu cofnodion gofal cymdeithasol plant â chofnodion iechyd, addysg a chyfiawnder teuluol.  Yn ogystal ag ALFs, gall Cronfa Ddata Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) hefyd ddarparu Maes Cysylltu Dienw Preswyl (RALF). Mae’r codau anhysbys hyn yn nodi mannau preswylio ac yn cael eu datblygu o bwy sydd wedi’i gofrestru gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad yn ôl eu cofnodion meddygon teulu. Trwy ddefnyddio RALFs gallwch wneud ymchwil sy’n edrych ar aelwydydd cyfan.

Mae’r holl ddata o fewn porth Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) yn cael eu trin yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 ac maent yn cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. 

Er y gellir gwneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru i ddefnyddio micro-data heb ei gyhoeddi sy’n ymwneud ag un set ddata, mae Cronfa Ddata Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) yn caniatáu cysylltu â setiau data eraill i roi darlun cyfannol o brofiadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal a chymorth a’u llwybrau ymlaen.

Mae’r holl gynigion i ddefnyddio’r data hyn yn destun adolygiad a chymeradwyaeth gan Banel Adolygiad Llywodraethu’r Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel. Ar ôl rhoi mynediad, bydd modd mynd drwy system hafan ddiogel a mynediad o bell sy’n diogelu preifatrwydd, y cyfeirir ato fel Porth Cysylltiad Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL).

Dylai unrhyw un sy’n dymuno cael mynediad at ddata ddilyn canllawiau’r broses ymgeisio sydd ar gael yma.