Cyn mis Ebrill 2016, cesglid data am gymwysterau addysgol y rhai sy’n gadael gofal os oeddent yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwedd y gofal, fel rhan o’r ffurflen Casglu Canlyniadau (OC). Mae hyn yn cynnwys nifer y TGAU a gafwyd, wedi’u dosbarthu i ystodau A-G ac A-C, nifer y cymwysterau GNVQs a nifer y cymwysterau addysgol neu alwedigaethol eraill.

I’r plant hynny na chawsai unrhyw gymwysterau, rhoddir rheswm dros hyn, gan egluro sefyllfaoedd lle mae plentyn yn sefyll o leiaf un arholiad ond nad oedd yn ennill cymhwyster, lle nad yw plentyn yn sefyll unrhyw arholiadau oherwydd salwch neu anabledd, a lle nad yw plentyn yn sefyll unrhyw arholiadau am reswm arall h.y. nid oherwydd salwch neu anabledd.

O fewn Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, rhaid cysylltu’r set ddata hon â’r cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal (LACW) cynradd i gael nodweddion y plant (wythnos geni, rhywedd, ALF).

Roedd y ffurflen Casgliad Canlyniadau yn gyfres o ffurflenni blynyddol a wnaed gan awdurdodau lleol mewn perthynas â phobl sy’n gadael gofal. Canolbwyntiai’r OC1 ar gymwysterau addysgol yn 16 oed a chanolbwyntiai’r OC3 ar eu hamgylchiadau ar eu pen-blwydd yn 19 oed.

Canolbwyntiai’r OC2 ar blant a oedd wedi bod yn derbyn gofal parhaus am 12 mis, gan gasglu gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol mewn perthynas â throseddu, gwiriadau hybu iechyd, imiwneiddio, gwiriadau deintyddol, asesiadau iechyd ac adnabod ac ymyrraeth problemau camddefnyddio sylweddau. Mae’r wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu fel rhan o’r ffurflen Gofal a Chymorth Plant sy’n Derbyn Gofal. Cyn 2016, roedd yn rhan o’r ffurflen Plant Mewn Angen.

Perchennog y DataLlywodraeth Cymru
Y data cynharaf1af Ebrill 2002
Y data diweddaraf31ain Mawrth 2016 
Pa mor aml y bydd diweddariadauNid yw bellach yn cael ei ddiweddaru
Oedi yn argaeledd y diweddariadauNid yw bellach yn cael ei ddiweddaru

Meta-ddata

Catalog ADR y DUhttps://datacatalogue.adruk.org/browser/dataset?id=5462644471927188424&origin=3
Porth Data Iechydhttps://web.www.healthdatagateway.org/dataset/365b9657-e1a8-4b2f-8942-a39eea7d1a79  
Adnoddau DataAllnatt, G., Lee, A., Scourfield, J., Elliott, M., Broadhurst, K., ac Griffiths, L., (2022) “Data resource profile: children looked after administrative records in Wales”, International Journal of Population Data Science, 7(1). doi: 10.23889/ijpds.v7i1.1752.
Mewnwelediad DataAllnatt, G., Elliott, M., Cowley, L., Lee, A., North, L., Broadhurst, K., ac Griffiths, L. (2023) Eglurhad o’r Data: Setiau Data y Plant sy’n Derbyn Gofal. Ar gael yn: https://adrwales.org/wp-content/uploads/2023/06/Data-Explained-CLA-datasets_final.pdf
Cyhoeddiadau defnyddiol ychwanegolMae rhywfaint o wybodaeth yn ymwneud â chanlyniadau addysgol i blant sy’n derbyn gofal a chymorth, gan gynnwys plant sy’n derbyn gofal sydd ar gael yn ôl oedran / cyfnod addysg lle mae’r plentyn wedi cael ei addysgu mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, nid yw data ar gael ar gyfer 2020 a 2021 oherwydd (1) newidiadau yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru a (2) yr aflonyddwch a achoswyd gan bandemig Covid-19. Gellir dod o hyd i’r data hwn yma: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Childrens-Services/children-receiving-care-and-support/educationalattainmentofchildrenreceivingcareandsupport-by-measure-year

Gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol

Canllawiau Awdurdod Lleol:

AMHERTHNASOL

O 2016-17 ymlaen, nid yw’r canlyniadau addysgol ar gyfer ymadawyr gofal bellach yn cael eu cofnodi. Fodd bynnag, mae’n bosibl adfer gwybodaeth trwy gysylltu â set ddata’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), gan ddefnyddio’r ALF neu’r IRN o’r casgliad Plant sy’n Derbyn Gofal (LACW) cynradd yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Mae hyn yn golygu bod modd cael gafael ar nifer y TGAU a gafwyd gan unigolyn a’r graddau a gafwyd ganddynt ym mhob pwnc gael eu sicrhau.

Mae data cyfun rhwng 2003 a 2016 ar gael ar wefan Stats Cymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Childrens-Services/Children-Looked-After/Educational-Qualifications-of-Care-Leavers

Mae’r data a ddarperir yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn cynnwys tua 7,150 o gofnodion ar gyfer 7,080 o blant.