Mae’r ail adroddiad blynyddol o werthusiad a arweinir gan CASCADE o beilot Incwm Sylfaenol Cymru i’r rhai sy’n gadael gofal bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’n cynnwys data newydd ar farn a phrofiadau pobl ifanc yn ystod misoedd cyntaf y peilot. Mae hefyd yn adrodd ar sut y gweithredodd Llywodraeth Cymru y peilot yn y flwyddyn gyntaf.

Gallwch hefyd ddarganfod mwy am werthusiad Incwm Sylfaenol Cymru ar dudalen y prosiect.