Mae academyddion o dair prifysgol yng Nghymru wedi derbyn arian sbarduno yn ddiweddar i gynnal prosiect rhyngddisgyblaethol a ddaeth yn sgîl trafodaethau a gafodd eu cynnal yn ystod Crwsibl Cymru 2023. Bydd Dr Rob Smith (Prifysgol De Cymru), Dr Edith England (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd), a Dr Phil Smith (Prifysgol Caerdydd) yn cynnal ymchwil gyda myfyrwyr o’r Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) yng Nghymru.

Trosolwg

Mae UCDau yn cynnig darpariaeth addysgol amgen i fyfyrwyr sydd ddim yn gallu mynychu ysgolion prif ffrwd. Yn nodweddiadol, mae gan fyfyrwyr mewn UCDau ystod o ffactorau risg, gan gynnwys lefelau uchel o dlodi, profiad o ofal cymdeithasol, ac anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol, ac iechyd meddwl eraill. Mae hyn yn peri iddyn nhw wynebu risg uwch o ddioddef effeithiau andwyol, er enghraifft unigrwydd a digartrefedd, mynd i’r carchar, camddefnyddio sylweddau, ac iechyd corfforol a meddyliol gwael yn y tymor hir. Yn yr un modd, doedd 50% o’r rheiny a adawodd UCD ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn 2020, a hynny pan oedden nhw’n 16 oed (Wilcock, 2020).

Mae gwella deilliannau i bobl ifanc yn brif flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru, megis mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a cheisio atal a lleihau profiadau andwyol yn ystod plentyndod. Ymysg pobl ifanc sydd eisoes wedi profi allgáu cymdeithasol yn enwedig, mae cerddoriaeth wedi bod yn ffordd effeithiol iawn o ddelio â hynny, gan roi fforwm cymdeithasol iddyn nhw allu datblygu eu hymgysylltiad ag addysg a’i gynnal, ynghyd â chynnal hunan-barch cadarnhaol (Knapp a Silva, 2019). Serch hynny, ar hyn o bryd, cyfyng iawn yw’r ymchwil gyfredol ar y potensial ataliol sydd gan addysg gerddoriaeth i’w chynnig.

Gweithgareddau a Dulliau

Bydd y prosiect Cerddoriaeth er Newid Cymdeithasol yn defnyddio dulliau ansoddol a meintiol i ymchwilio i’r effaith y mae creu cerddoriaeth greadigol yn ei chael ar bobl ifanc sy’n wynebu risg uchel o ddioddef allgáu cymdeithasol. Wrth weithio gydag 8 disgybl (15-16 oed) a phedwar aelod o staff o un UCD yng Nghymru, bydd y prosiect hwn yn trin a thrafod sut y gall cymryd rhan mewn cerddoriaeth greadigol wella ffactorau amddiffynnol i bobl ifanc sy’n wynebu’r risg o gael eu hallgáu’n gymdeithasol. Yn y bôn, ymyriad cerddoriaeth cynhwysol yw’r prosiect hwn, lle bydd disgyblion a staff UCD yn cymryd rhan mewn tri gweithdy, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau creu cerddoriaeth greadigol.

Bydd gofyn i ddisgyblion gwblhau prawf seicometrig (graddfa Warwick-Caeredin) cyn ac ar ôl y gweithdai, er mwyn asesu’r newidiadau yn eu lles a’u hymdeimlad o berthyn. Wrth arsylwi, caiff yr amodau sy’n gwella ymgysylltiad pobl ifanc â chreu cerddoriaeth eu nodi. Yn ogystal â hynny, bydd grwpiau ffocws yn cael eu cynnal cyn ac ar ôl y gweithdai i gael gwell ddealltwriaeth o brofiadau’r bobl ifanc a’u barn ynghylch y gweithdai cerddoriaeth.

Nod y prosiect hwn yw sefydlu fframwaithprawf cysyniad at ddibenion cynnal gweithgareddau creu cerddoriaeth dilynol, gan hwyluso’r posibilrwydd o dreialu’r ymyriad hwn ar raddfa fwy yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn sefydlu undod y dull hwn at ddibenion gwella ymgysylltiad y disgyblion UCD yn gyffredinol.

Canfyddiadau

Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn cael eu rhannu’n eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys mewn digwyddiad a gaiff ei gynnal ar ddiwedd y prosiect.


Academyddion ac Ymchwilwyr

Uwch DdarlithyddDr Rob Smith, Prifysgol De Cymru
Uwch ddarlithydd mewn Polisi ac YmarferDr Edith England, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Cydymaith Ymchwil, CASCADEDr Phil Smith, Prifysgol Caerdydd
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigN/A
ArianwyrN/A
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedigN/A
Dogfennau cysylltiedigN/A