Mae Gwerthusiad Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ar gael nawr. Cliciwch isod i’w weld
Nod y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad, darpariaeth ac effaith rhaglen arloesol Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, sy’n ceisio cyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o fywyd o droseddu cyfundrefnol difrifol.
Mae Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yn cael mwy o effaith ar gymunedau’r DU nag unrhyw fygythiad cenedlaethol arall (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 2020). Amcangyfrifwyd bod 350,000 o unigolion a 4,772 o grwpiau troseddu cyfundrefnol ledled y DU ar hyn o bryd (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 2020). Y gost flynyddol i economi’r DU yw dros £37 biliwn y flwyddyn, gyda Throseddu Difrifol a Chyfundrefnol yn tyfu’n gyflym ac yn dod yn gynyddol gymhleth wrth i dechnolegau gael eu defnyddio i gyfathrebu a chuddio gweithgareddau troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae’r cynnig hwn yn tynnu ar y diffiniad cyffredin rhyngwladol gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Troseddau Cyfundrefnol Trawswladol a’r Undeb Ewropeaidd,
Grŵp o dri unigolyn neu fwy sy’n bodoli dros gyfnod o amser ac sy’n gweithredu ar y cyd gyda’r nod o gyflawni troseddau er budd ariannol neu faterol (Europol, dim dyddiad)
Mae’r troseddau hyn yn cynnwys troseddau caffael, seiberdroseddu, masnachu cyffuriau a phobl, arfau, gwyngalchu arian yn ogystal â cham-fanteisio troseddol ar blant. Prin yw’r dystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch cyfranogiad plant a phobl ifanc.
Arolwg
Mae’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol wedi bod yn rhedeg yn Glasgow ers 2013 ac fe’i cyflwynwyd mewn pedwar safle arall ledled y DU yn 2019. Anelir y gwasanaeth at bobl ifanc 11 i 18 oed y mae gwasanaethau statudol yn eu hadnabod fel ‘pobl sy’n rheolaidd yn peidio ag ymgysylltu’ a lle bu ymdrechion aflwyddiannus blaenorol i’w troi oddi wrth droseddu. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio dull cyfannol wrth weithio gyda phobl ifanc sydd yn aml ag anghenion cymhleth a lefelau uchel o risg.
Mae’r prosiect yn cynnig gwasanaeth pwrpasol, gan nodi’r sbardunau unigol a’r rhesymau pam fod pobl ifanc yn troseddu gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i wneud newid cadarnhaol. Cefnogir hyn gyda thair elfen graidd o ddarpariaeth gwasanaeth. Yn gyntaf, darparu gwaith achos dwys fel cefnogaeth un i un, mentora cyfoedion a dulliau’n seiliedig ar dystiolaeth. I gefnogi hyn datblygir gwaith amlasiantaethol â’r nod o sicrhau newid ar lefel system drwy rannu gwybodaeth, meithrin gallu a datblygu ymatebion effeithiol i bobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau difrifol, neu sydd ar fin gwneud hynny. Yn ail, ymyrraeth ac atal cynnar yn y gymuned gyda rhwydwaith ehangach y person ifanc i atal a/neu symud brodyr a chwiorydd, cyfoedion a chymdeithion i ffwrdd o droseddu. Yn drydydd, mae’r prosiect yn cynnig dull teulu cyfan o weithio gydag aelodau o’r teulu a’u grymuso i gefnogi taith y person ifanc at lwybrau mwy cadarnhaol.
Gweithgareddau a Dulliau
Nod y gwerthusiad yw archwilio gweithrediad, darpariaeth ac effaith y gwasanaeth ar draws pedwar safle yn y DU ar symud plant a phobl ifanc i ffwrdd o droseddu ar sail (1) ddadansoddi data gwasanaeth, (2) arolwg ar-lein (3) cyfweliadau lled-strwythuredig, (4) dadansoddi ffeiliau achos, a (5) dadansoddi data gweinyddol yr heddlu. Yn ogystal, mae’r gwerthusiad yn archwilio meysydd thematig adnabod, meithrin gallu, gweithio amlasiantaethol, ac ymyriadau wedi’u targedu.
Canfyddiadau
Bu i ganfyddiadau interim yn seiliedig ar ddadansoddiad meintiol o ddata gwasanaethau, a dadansoddiad ansoddol o gyfweliadau lled-strwythuredig gydag ymarferwyr, mentoriaid cymheiriaid a phartneriaid prosiect, ddangos hyn:
• Bu i’r rhan fwyaf o atgyfeiriadau gael eu gwneud gan yr heddlu neu’r gwasanaethau ar gyfer plant. Fodd bynnag, roedd rhai pobl ifanc nad oedd y gwasanaethau yn ymwybodol ohonynt cyn y cyfnod dan sylw.
• Roedd ychydig o dan hanner y bobl ifanc mewn rhyw fath o addysg, gan gynnwys ysgol brif ffrwd, coleg, unedau cyfeirio disgyblion neu ddarpariaeth arall.
• Ar gyfartaledd, roedd dwy asiantaeth yn gweithio gyda phobl ifanc yn ogystal â’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCEIS).
• Adroddodd partneriaid y prosiect fod SOCEIS yn ychwanegiad gwerthfawr at y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau.
• Er gwaethaf yr heriau tybiedig ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc, barnwyd bod SOCEIS yn llwyddo i ymgysylltu â’r rhan fwyaf o bobl ifanc. Cefnogwyd hyn trwy gynnwys staff â phrofiad bywyd o droseddu pan yn ifanc (‘mentoriaid sy’n deall y profiad’).
• Un o gryfderau allweddol SOCEIS oedd ei staff hynod fedrus a oedd yn gweithio’n arbennig o effeithiol gyda phobl ifanc.
• Cafodd yr ymgysylltu â SOCEIS ei wella gan faint o amser yr oedd staff yn gallu ei dreulio gyda phobl ifanc. Hwyluswyd hyn gan lwythi bach o achosion a gwaith achos penagored.
• Drwy edrych ar bobl ifanc o bersbectif diogelu, yn hytrach na throseddu, rhoddwyd rhaglen gymorth i bobl ifanc gyda’r nod o fynd i’r afael â’u hanghenion sylfaenol yn hytrach na chanolbwyntio ar eu hymddygiad o ran troseddu
• Llwyddodd y SOCEIS i ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn amharod i weithio gydag ymarferwyr neu’r rhai nad oeddent yn ystyried eu bod mewn perygl ac angen cymorth.
• Cafwyd arwyddion cynnar bod SOCEIS wedi llwyddo i gefnogi pobl ifanc i ganfod eu ffordd i ffwrdd oddi wrth droseddu difrifol a chyfundrefnol, i gyfeiriad addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Dr Nina Maxwell |
Staff Academaidd
Staff Academaidd | Jonathan Ablitt |
Staff Academaidd | Zoe Bezeczky |
Cyswllt Ymchwil | Dr Verity Bennett |
Cynorthwyydd Ymchwil | Megan Nightingale |
Gwybodaeth Cysylltiedig
Cyllidwyr | Action for Children |
Dogfennau Cysylltiedig | Adolygiad CCE |