Plant o dan ofal sydd wedi dod i gysylltiad â’r gyfraith yw rhai o aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas.

Mae gorgynrychiolaeth pobl ifanc â phrofiad o ofal a’r rhai o grwpiau hiliol ac ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol wedi cael eu hystyried fel rhan o adolygiadau dan arweiniad yr Arglwydd Laming (2016) a David Lammy AS (2017) yn y drefn honno. Fodd bynnag, mae bylchau sylweddol o hyd yn y sylfaen dystiolaeth, yn enwedig o ran y rhai sydd â phrofiad o’r systemau cyfiawnder ieuenctid a gofal. O ystyried y pwyslais ar hawliau plant yng Nghymru, mae’r gwaith ymchwil hwn yn ceisio nodi lle mae cyfleoedd i drawsnewid cyfleoedd mewn bywyd drwy ddarparu cymorth amlasiantaethol priodol ac amserol ar ‘adegau tyngedfennol’ wrth iddynt fod o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth troseddau ieuenctid.

Trosolwg

Mabwysiadwyd dull dulliau cymysg ar gyfer yr ymarfer dichonoldeb hwn a fydd yn cyfuno dulliau cyfranogol sy’n seiliedig ar y celfyddydau gyda phobl ifanc, gan ddefnyddio technegau cysylltu data a modelu mathemategol. Drwy ymgorffori lleisiau’r rhai sydd wedi dod i gysylltiad amrywiol â’r ddwy system yn y gwaith ymchwil, mae cyfle i roi cyd-destun i ganfyddiadau’r modelu. Yn hollbwysig, ac yn unol â mabwysiadu dull sy’n cefnogi hawliau plant, dewiswyd y dull dulliau cymysg i alluogi’r bobl ifanc i herio ein rhagdybiaethau fel oedolion ynglŷn â’r ffordd orau o’u cefnogi ar adegau anodd.

Gweithgareddau a dulliau

Drawing upon data collected as part of the risk assessment process used by the youth justice system across England and Wales, supplemented by routinely collected data from health, education aGan ddefnyddio data a gasglwyd fel rhan o’r broses asesu risg a ddefnyddir gan y system cyfiawnder ieuenctid ledled Cymru a Lloegr, wedi’i ategu gan ddata a gesglir yn rheolaidd gan wasanaethau iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, bydd y gwaith ymchwil yn defnyddio technegau ystadegol newydd i archwilio’r berthynas rhwng ystod o ffactorau risg ac amddiffynnol fel y’u gelwir er mwyn:

  • Deall sut mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio ac felly’n cynyddu neu’n lleihau’r tebygolrwydd o droseddu pellach ar gyfer gwahanol is-grwpiau ac o ganlyniad i ‘ddigwyddiadau’ (e.e. dychwelyd i’r llys; derbyn diagnosis ffurfiol ar gyfer problem iechyd meddwl; dechrau triniaeth ar gyfer problem camddefnyddio sylweddau; gorfod newid ysgol; symud cartref ac ati). Cyflawnir hyn drwy gysylltu â data gweinyddol a gedwir yng nghronfa ddata SAIL.
  • Yn benodol, yn achos plant sy’n derbyn gofal, bydd y prosiect yn ceisio archwilio lle y gall fod gwahaniaeth oherwydd statws cyfreithiol, y lleoliad lle y cânt eu lletya a’u hoedran mynediad i ofal.

Mae’r defnydd o fodelu hierarchaidd mewn fframwaith Bayesian i gynnal elfennau meintiol y gwaith ymchwil yn adeiladu ar y gwaith ymchwil ddoethurol a wnaed gan y prif ymchwilydd, gyda thechnegau’n cael eu dewis oherwydd (1) eu bod yn addas i ddadansoddi data cymhleth fel y data sy’n deillio o broses asesu risg y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a (2) gan nad ydynt wedi’u cyfyngu yn yr un modd â dulliau traddodiadol, mae mwy o gyfle i dorri’r garfan i segmentau. O ganlyniad, cymerwyd dull croestoriadol. Fel hyn, gellir gwella’r sylfaen dystiolaeth am y gwahanol grwpiau lleiafrifol ac felly cefnogi arfer mwy unigol.

Drwy fabwysiadu’r dull ecolegol o ymdrin ag elfennau ansoddol y gwaith ymchwil, mae’n caniatáu inni glywed barn cyfranogwyr yn briodol. Bydd eu barn ar fathau ac amseriad y cymorth/gwasanaethau a dderbynnir hefyd yn llywio’r cynllun dadansoddi ar gyfer yr elfen feintiol.

Nodau cyffredinol

The study will investigate the extent to which a combination of analysis of routine data and the life experiences of those who have experienced ‘double-system contact’ can inform the development Bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i’r graddau y gall cyfuniad o ddadansoddi data rheolaidd a phrofiadau bywyd y rhai sydd wedi profi ‘cysylltiad â’r system ddwbl’ lywio’r gwaith o ddatblygu dull amlasiantaethol strategol o gefnogi plant mewn gofal drwy’r system cyfiawnder ieuenctid, ac felly lleihau’r tebygolrwydd o droseddu pellach.

Amcanion

Mae pedwar amcan penodol, ac mae dau ohonynt yn fethodolegol eu natur:

  1. Identify ways in which to minimise the negative impNodi ffyrdd o leihau’r effaith negyddol y mae cysylltiad â’r system ddwbl yn ei chael ar gyfleoedd y grŵp agored i niwed hwn mewn bywyd. Rhagwelir y bydd manteision ehangach i’r dysgu hefyd o ran y modd y mae gwasanaethau’n darparu cymorth amserol i blant a phobl ifanc.
  2. Dangos tystiolaeth lle mae cyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio rhwng y system cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a gwasanaethau iechyd.
  3. Archwilio’r heriau methodolegol sy’n gysylltiedig â chysylltu data o’r gwasanaeth troseddau ieuenctid â data arall a gesglir fel mater o drefn cyn ceisio ymestyn y gwaith ymchwil drwy ddefnyddio setiau data cenedlaethol.
  4. Dangos manteision defnyddio dulliau Bayesian i wella ein dealltwriaeth o faterion cymdeithasol cymhleth a llywio polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Canfyddiadau

Mae hon yn astudiaeth barhaus.


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddDr. Helen Hodges



Staff Academaidd

YmchwilyddDr Anthony Charles – School of Social Sciences, Swansea University
YmchwilyddDr Kevin Fahey – School of Politics and International Relations, University of Nottingham
Cydymaith YmchwilDr Verity Bennett



Gwybodaeth Cysylltiedig

Partneriaid cysylltiedigSAIL Databank
CASCADE Voices
ArianwyrHealth and Care Research Wales