Mae llawer o wasanaethau arbenigol ar gael a all gynnig cefnogaeth i chi a’ch helpu i deimlo’n fwy hyderus. Gall y gweithwyr proffesiynol hyn eich helpu i oresgyn unrhyw heriau y byddwch chi’n eu hwynebu. Mae cwnsela, therapi, mentora a hyfforddi ymhlith y gwasanaethau a all eich helpu i gyflawni eich nodau a gwella’ch llesiant. Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw agwedd ar eich bywyd, peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth.
Voices from Care CYMRU
Diben Voices From Care Cymru yw gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi bod dan ofal, hyn drwy fod yn llais annibynnol ar gyfer y gymuned gofal.
Mae Voices From Care Cymru yn cynnig gwasanaeth Lles ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod dan ofal (sydd wedi bod neu sydd dan ofal yng Nghymru ar hyn o bryd).
Yn gyffredinol, cymorth unigol mae eu Tîm Lles yn ei roi, a hynny ar ystod eang o broblemau, materion a phryderon sy’n effeithio ar lawer o bobl ifanc sydd wedi bod dan ofal. Mae ganddyn nhw ddau weithiwr yn eu Tîm Lles, un yn seiliedig yng Ngogledd Cymru ac un yn Ne Cymru.
Mermaids
Mae Mermaids yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc traws, anneuaidd ac sy’n cwestiynu eu rhywedd, a’r bobl bwysig yn eu bywydau.
Mae Mermaids yn cynnig llinell gymorth a gwasanaeth gwe-sgwrs sy’n cefnogi pobl drawsryweddol hyd at 20 oed, yn ogystal â chynnig cymorth i rieni plant traws. Mae’r llinell gymorth a’r gwasanaeth gwe-sgwrsio yn cynnig cymorth emosiynol, porth i’r fforymau rhieni a phobl ifanc, yn ogystal ag adnoddau.
Mae’r llinell gymorth dan ofal staff hyfforddedig a gwirfoddolwyr a fydd yn ceisio ateb eich galwad neu sgwrs we rhwng 9am a 9pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
BEAT – anhwylder bwyta
Mae Beat yn gweithio i roi diwedd ar y boen a’r dioddefaint y mae anhwylderau bwyta yn eu hachosi.
Gallwch gysylltu â nhw ar eu llinell gymorth rhwng 3pm ac 8pm, 365 diwrnod y flwyddyn, neu ar-lein. Maen nhw’n gwrando ac yn ceisio’ch helpu chi i ddeall y salwch, gan roi cymorth ar gyfer cymryd camau cadarnhaol tuag at adferiad.
Maen nhw hefyd yn cefnogi teulu a ffrindiau, gan roi sgiliau a chyngor hanfodol iddyn nhw, fel y gallan nhw helpu eu hanwyliaid i wella gan ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain hefyd.