Mae gweithwyr cymdeithasol yn treulio cryn dipyn o’u hamser yn siarad – â rhieni, â phlant, â gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â gweithwyr a rheolwyr cymdeithasol eraill. Fodd bynnag, gan fod llawer o’r sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn breifat, anaml y maen nhw’n cael sylw mewn gwaith ymchwil, er mor bwysig ydyn nhw.

Ers dros deng mlynedd, mae ymchwilwyr o CASCADE wedi bod yn rhan o gyfres o brosiectau sy’n ceisio deall sut mae gweithwyr cymdeithasol yn siarad â rhieni a phobl ifanc, pa sgiliau cyfathrebu maen nhw’n eu defnyddio, sut gellir cefnogi’r sgiliau hyn trwy hyfforddiant a goruchwyliaeth, a pha wahaniaeth maen nhw’n ei wneud i deuluoedd.


Yn yr adran hon o’r wefan, rydym wedi paratoi crynodebau o’r holl brosiectau ymchwil hyn a chopi o’r llawlyfr codio sgiliau a baratowyd gennym.