Ariennir y prosiect ymchwil archwiliadol 18 mis hwn gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru. Ei nod yw creu pecyn cymorth ar gyfer ymateb gwasanaeth effeithiol i wella’r canlyniadau i blant sydd mewn perygl neu sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau.
Trosolwg
Mae llawer o’r hyn a wyddys am CCE yn ymwneud â llinellau cyffuriau, model o gyflenwi cyffuriau sydd wedi dod yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig. Mae llinellau cyffuriau yn gweithredu gan ddefnyddio rhif ffôn symudol pwrpasol i werthu cyffuriau o ddinasoedd mwy i ddefnyddwyr sy’n byw mewn trefi arfordirol, gwledig a threfi marchnad. Er nad yw pob llinell cyffuriau yn defnyddio plant, pan fydd plant yn cael eu targedu gall effeithio ar bob oedran ac ethnigrwydd. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at y sylfaen wybodaeth ynghylch natur a maint y broblem, pa ddulliau ac ymyriadau sydd fwyaf effeithiol a sut y gellir defnyddio dulliau diogelu cyd-destunol yn ymarferol o fewn cyd-destun Cymru.
Gweithgareddau a dulliau
Mae tri cham i’r prosiect:
Cam un: Cyfweliadau lled-strwythuredig gyda 21 o bobl ifanc, 15 o rieni a 56 o weithwyr proffesiynol o Heddlu Trafnidiaeth Prydain, gwasanaethau plant, addysg, iechyd, tai, gwasanaethau prawf, gwasanaethau troseddau ieuenctid, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru.
Cam dau: Dylunio’r pecyn cymorth yn seiliedig ar ganfyddiadau cam un ac mewn cydweithrediad â grŵp cynghori’r prosiect sy’n cynnwys pobl ifanc, rhieni a chynrychiolwyr o wasanaethau gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, yr heddlu, tai a gwasanaethau ieuenctid.
Cam tri: Gweithredu a mireinio’r pecyn cymorth.
Canfyddiadau
Daeth y canlynol i’r amlwg yn y prosiect:
Gall unrhyw blentyn ddioddef camfanteisio troseddol, beth bynnag fo’i oedran, rhyw neu ethnigrwydd.
• Gall mabwysiadu’r term llinellau sirol dynnu sylw oddi wrth blant sy’n cael eu hecsbloetio gan aelodau o’r teulu neu unigolion neu grwpiau lleol hyd yn oed lle’r oedd y grwpiau hyn yn mabwysiadu model a lefelau trais tebyg i grwpiau llinellau sirol.
• Thema gyson ar draws y canfyddiadau oedd i ba raddau roedd plant yn cael eu hecsbloetio oherwydd yr addewid o enillion ariannol a’r honiad bod gwneud arian drwy ddelio â chyffuriau yn ‘hawdd’. Roedd hyn yn lleihau eu canfyddiadau o ran y risgiau a’r peryglon sy’n rhan annatod o’u hymwneud â’r maes.
• Defnyddiodd yr ecsbloetwyr amrywiaeth o dechnegau i gaethiwo plant mewn perthynas lle cawsant eu hecsbloetio. Roedd y rhain yn cynnwys bod yn rhwym i ddyledion, naill ai lle mae’r grŵp llinellau sirol yn dwyn y pecyn oddi ar yr unigolyn ifanc neu lle’r oeddent yn annog plant i ddefnyddio canabis neu’n annog defnyddwyr canabis presennol i gronni symiau cynyddol o ddyled.
• Er bod rhieni wedi sylwi ar newidiadau yn agweddau, ymddygiadau a grwpiau cyfoedion eu plant, roedd diffyg gwybodaeth am gamfanteisio yn golygu nad oedd hyn yn aml yn cael ei nodi, ei ddeall nac yn cael sylw.
• Nid oedd plant a oedd yn cael eu hecsbloetio’n droseddol bob amser yn ymddangos fel dioddefwyr ystrydebol, a oedd yn eu gwneud yn fwy tebygol o gael eu hystyried fel rhai a oedd yn cydsynio â’u troseddoldeb. Gwaethygwyd hyn lle’r oedd plant yn amharod i ddatgelu eu bod yn cael eu hecsbloetio.
• Roedd gweithwyr proffesiynol yn unfrydol bod camfanteisio troseddol ar blant yn golygu bod angen ffyrdd newydd o weithio gan fod yr arfer diogelu presennol yn canolbwyntio ar gam-drin plant o dan 12 oed o fewn teuluoedd.
• Nodwyd sawl rhwystr mewn perthynas â gwasanaethau statudol ac ymgysylltu â phlant. Roedd y rhain yn cynnwys natur gyfyngedig amser darparu gwasanaethau, glynu wrth oriau swyddfa, trosiant staff ac absenoldebau, a oedd i gyd yn amharu ar gynorthwyo plant a datblygu cysylltiadau da.
• Bu ymdrech ar y cyd yng Nghymru i fynd i’r afael â chamfanteisio troseddol ar blant ac atal arferion o’r fath. Mae hyn wedi cynnwys canllawiau ymarfer ar gyfer Llywodraeth Cymru, sefydlu Uned Atal Trais Cymru a datblygiadau lleol – er enghraifft, cynnull cyfarfodydd amlasiantaethol.
• Mae angen dulliau gweithredu ac ymyriadau sy’n mynd i’r afael â ffactorau gwthio a thynnu, sy’n gwneud plant yn agored i gamfanteisio troseddol. Mae hyn yn cynnwys gwaith ataliol ar lefelau plant, teuluoedd, systemau a chymunedau.
Siarter Ieuenctid: cyd-gynhyrchwyd â Peer Action Collective yn Media Academcy Cymru. Mae’r Siarter Ieuenctid yn cynnwys pedwar datganiad ar bymtheg am sut mae pobl ifanc am i bobl broffesiynol ymgysylltu â nhw.
Adroddiad
Person Arweiniol
Prif Ymchwilydd | Nina Maxwell |