Mae astudiaeth newydd i statws imiwneiddio plant yng Nghymru wedi dod i’r casgliad bod cyfraddau brechu plant dan gynllun gofal a chefnogaeth yn uwch ar y cyfan na chyfraddau’r boblogaeth gyffredinol a’u bod wedi’u himiwneiddio’n fwy prydlon.
Mae rhaglen imiwneiddio plant y DU yn sicrhau bod plant yn cael cynnig amddiffyniad yn erbyn haint difrifol. Fodd bynnag, mae’n hanfodol nodi anghydraddoldebau ymhlith y rhai sy’n cael eu brechu.
Roedd yr astudiaeth, a ariannwyd gan Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) Prifysgol Caerdydd, yn brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Llundain, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu ymchwilwyr yn defnyddio data o’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL) i archwilio statws imiwneiddio plant a oedd yn byw yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2021. Gwnaethon nhw gynnwys cofnodion o’r Cyfrifiad Plant Sy’n Derbyn Gofal a Chymorth (CRCS) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, sy’n cynnwys cofnodion brechu ar gyfer yr holl blant yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru ar gyfer gofal y GIG.
Edrychwyd ar nifer y brechiadau atgyfnerthu cyn ysgol a chynradd, yn ogystal ag ail ddosau o frechlynnau MMR, yn yr astudiaeth cysylltu data gyntaf i edrych ar nifer y brechiadau mewn plant dan wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Daeth yr astudiaeth i’r casgliad bod plant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yn llai tebygol o fod wedi methu brechlynnau na’r rheini yng ngrŵp cymharu’r boblogaeth, a’u bod yn fwy tebygol o fod wedi derbyn pob un o’r chwe brechlyn yn brydlon o’u cymharu â phlant yn y grŵp cymharu.
Daeth hefyd i’r casgliad bod fflagiau imiwneiddio honedig – sy’n dangos a ystyrir bod unigolion wedi derbyn eu brechiadau’n brydlon – dim ond yn fanwl gywir ar gyfer rhyw 70% o blant. Mae fflagiau imiwneiddio gwallus yn gallu arwain at fethu brechiadau, sy’n gadael plant yn agored i heintiau ataliadwy.
Meddai’r awdur arweiniol, Grace Bailey, o’r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe:
Mae ein hastudiaeth yn dangos bod plant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yng Nghymru’n fwy tebygol o fod wedi cael eu himiwneiddio’n brydlon na’r boblogaeth plant gyffredinol.
“Roedd brechiadau cynnar a gohiriedig yn gyffredin – gan ddangos bod angen mwy o gydlynu a chynllunio rhyngddisgyblaethol i wella deilliannau.
“Mae’r gwaith hwn yn darparu mewnwelediadau hanfodol sy’n gallu darparu sail ar gyfer ymyriadau wedi’u targedu a helpu i flaenoriaethu ymdrechion mewn ardaloedd lle y mae angen rhaglenni dal i fyny.
Meddai’r cydawdur, yr Athro Sally Holland, Prifysgol Caerdydd:
Mae ein darganfyddiadau’n awgrymu bod ymdrechion cydweithwyr ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi plant sydd wedi wynebu mwy o heriau na’r boblogaeth gyffredinol yn dwyn ffrwyth pan ddaw yn fater o imiwneiddio.
“Mae rhaglenni imiwneiddio yn ymyrraeth allweddol i wella iechyd y boblogaeth. Mae ein hymchwil yn gallu llywio a chyfrannu at ymdrechion parhaus i wella rhaglenni imiwneiddio ledled Cymru, gan sicrhau bod yr holl blant, waeth beth fo’u statws gofal cymdeithasol, yn derbyn amddiffyniad prydlon a chynhwysfawr yn erbyn heintiau difrifol.
Meddai’r Athro Helen Bedford, Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street Coleg Prifysgol Llundain:
Yn hanesyddol, mae nifer y rheini sydd wedi manteisio ar frechlynnau ymhlith grwpiau plant dan anfantais – yn enwedig y rheini y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanyn nhw – wedi bod yn is nag ymhlith plant eraill, gan eu gadael yn agored i heintiau a allai fod yn ddifrifol.
“Mae canlyniadau’r ymchwil hon felly’n galonogol iawn a gobeithio y gellir adeiladu ar hyn i wella iechyd plant sy’n derbyn gofal yn fwy eang.”