Mae’r astudiaeth yn amlygu anghydraddoldebau rhwng menywod a dynion o ran eu siawns o gael eu plant i gael eu rhoi mewn gofal

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata presennol a gasglwyd gan wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yng Nghymru i edrych ar yr aelwydydd yr oedd plant yn byw ynddynt cyn iddynt fynd i ofal. Yna cymharwyd yr aelwydydd hynny â gweddill yr aelwydydd yng Nghymru lle nad oedd yr un plentyn yn mynd i ofal.  Roedd yn canolbwyntio’n… Read More

Archwilio gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar-lein yn ystod y ‘cyfnodau clo’

Mae dau bapur newydd wedi’u cyhoeddi sy’n archwilio’r ymyriadau a gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar-lein i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn ystod y pandemig, ac mae i hyn oblygiadau yn ein byd ôl-COVID-19. Yn ystod pandemig COVID-19, daeth llawer o wasanaethau iechyd meddwl a lles yn wasanaethau ar-lein yn gyflym… Read More

Grŵp Cynghori ar Ymchwil a Pholisi Gofalwyr sy’n Berthnasau   

Mae CASCADE wedi ymrwymo i gynnwys llais profiad byw ar draws ei waith ymchwil. Mae tîm Cynnwys y Cyhoedd ( https://cascadewales.org/engagement/public-involvement/) yn CASCADE bob amser yn chwilio am ffyrdd o gynnwys ystod ehangach o leisiau. Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r bartneriaeth newydd gyffrous hon ag AFKA Cymru ( https://afkacymru.org.uk/ ) a Kinship Cymru ( https://kinship.org.uk/ )… Read More

Mae astudiaeth yn darganfod bod plant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yng Nghymru’n fwy tebygol o fod wedi’u himiwneiddio

Mae astudiaeth newydd i statws imiwneiddio plant yng Nghymru wedi dod i’r casgliad bod cyfraddau brechu plant dan gynllun gofal a chefnogaeth yn uwch ar y cyfan na chyfraddau’r boblogaeth gyffredinol a’u bod wedi’u himiwneiddio’n fwy prydlon.Mae rhaglen imiwneiddio plant y DU yn sicrhau bod plant yn cael cynnig amddiffyniad yn erbyn haint difrifol. Fodd… Read More

Hyfforddiant Dulliau Ymchwil

Yn CASCADE mae gennym ymrwymiad i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o wasanaethau cymdeithasol plant yn ein hymchwil. Credwn fod hyn yn rhan hanfodol o gynhyrchu ymchwil berthnasol ac effeithiol. Fodd bynnag, gall fod yn anodd i oedolion a phobl ifanc gyfrannu a deall yr hyn a wnawn mewn ymchwil. Mae pontio’r bwlch hwnnw… Read More

Première ffilm: Perthnasoedd niweidiol a throsedd 

Dydd Mawrth11eg o Orffennaf ymwelodd pump o bobl ifanc ysbrydoledig â SPARK i rannu première eu dwy ffilm a gydgynhyrchwyd yn archwilio effaith Camfanteisio’n Droseddol ar Blant. CASCADE oedd yn cynnal y digwyddiad ac roedd grŵp bach o westeion gwadd o amrywiaeth o sefydliadau cysylltiedig yn bresennol. Ymhlith y partneriaid roedd: Uned Atal Trais, Heddlu De Cymru,… Read More

ECSWR 2023 – Taith Milan

Er bod yr haf yn agosáu, mae atgofion y Pasg yn dal yn fyw yn fy meddwl. Ym mis Ebrill, es i ECSWR (Y Gynhadledd Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Gwaith Cymdeithasol) yn 2023 ym Milan gyda grŵp o ymchwilwyr o CASCADE, gan gynnwys Donald, Jonathan, Alyson, Clive, Sophie, Melissa, a finnau. Fe wnaethom ni i gyd gymryd rhan yn y gynhadledd. Fe wnaeth Donald… Read More

Blog Cyfranogiad Mai 23

Ein Bwrdd Cynnwys yw bwrdd llywodraethu profiad byw strategol CASCADE. Prif swyddogaeth y byrddau yw ein dal yn atebol, darparu craffu, nodi meysydd i’w gwella, a chryfhau ein perthynas â’n rhanddeiliaid cyhoeddus, proffesiynol ac ariannol. Sefydlwyd y bwrdd yn wreiddiol i ddarparu llywodraethu strategol ar gyfer ein ‘Tîm Cynnwys y Cyhoedd’ yn unig, ond rydym… Read More

Polisi Dylanwadu ar Rieni 

Yn flaenorol, roedd rhiant o’n grŵp hefyd wedi rhoi tystiolaeth gyda Dr Louise Roberts ar eu taith fel rhiant â phrofiad o ofal mewn cyfarfod adolygu’r Pwyllgor Deisebau.   Felly, ddydd Mercher 12 Gorffennaf, gwahoddwyd pawb a oedd wedi cyfrannu at yr adolygiadau i fynd i’r ddadl lawn ar gyfer yr adroddiadau yn adeilad y Senedd… Read More