Nod CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd.
Rydym yn gwneud hyn drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd am ofal cymdeithasol i blant yn ogystal â rhannu gwybodaeth newydd a chyfredol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau.
Rydyn ni’n ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd megis gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau i blant anghenus, amddiffyn plant, plant o dan ofal a mabwysiadu.


Prosiectau ymchwil cyfredol

Cyflwyno ein gwaith partneriaeth
Yn 2020 roedd CASCADE yn falch iawn o dderbyn cyllid seilwaith i ddatblygu ein partneriaeth â’r Canolfannau Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel Prifysgol Abertawe. Roedd y cyllid yn ein galluogi i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau ymchwil, ymgysylltu â’r sector gyda’n hymchwil a chynnwys plant, pobl ifanc a rhieni yn ein gwaith.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn rhoi trosolwg o rai o’n prif gyflawniadau.
Ydych chi’n chwilio am Ledaenu o’r radd flaenaf ynghylch pwnc gofal cymdeithasol?
Mae ExChange Cymru’n dwyn ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

