Funded by Health and Care Research Wales, this two-year project builds on the findings from the study, ‘County lines: a co-ordinated Welsh community response to child criminal exploitation’.

Trosolwg

Mae camfanteisio troseddol ar blant yn cyfeirio at blant a phobl ifanc sy’n cael eu gorfodi neu’u twyllo i mewn i weithgarwch troseddol er budd personol unigolyn, grŵp neu gang troseddol trefnedig (Canllaw Ymarfer Cymru Gyfan, 2019). Er y gellir camfanteisio ar unrhyw blentyn, mae plant ag anghenion heb eu diwallu a’r rhai sydd â hunan-barch a hyder isel mewn mwy o berygl (Radcliffe et al., 2020). Canfuwyd ffactorau risg ar lefelau unigol, rhyngbersonol, cymunedol a chymdeithasol (Maxwell a Wallace, 2021). Er gwaethaf ymdrechion parhaus i atal a dargyfeirio plant oddi wrth gamfanteisio, mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch effeithiolrwydd gwahanol lwybrau gwasanaeth ac ymyriadau ar gyfer gwella’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n cael eu hecsbloetio. Bydd y prosiect hwn yn rhoi mewnwelediad i lwybrau atgyfeirio, darpariaeth gwasanaeth, a’r ffordd orau o gefnogi plant y camfanteisir arnynt yn droseddol.

Gweithgareddau a Dulliau

Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2022 ac mae’n cynnwys dwy brif ffrwd waith:

FFRWD WAITH UN: Dadansoddiad ffeil achos

Bydd dadansoddiad o ffeiliau achos yn cael ei wneud mewn gwasanaethau plant a thimau troseddau ieuenctid o ddau awdurdod lleol. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i nodi pobl ifanc y camfanteisir arnynt yn droseddol ac archwilio eu hatgyfeiriad, llwybrau gwasanaeth a chanlyniadau. Bydd data yn cael ei gysylltu â setiau data gweinyddol a gedwir ym Manc Data SAIL, Prifysgol Abertawe. Yn benodol, mae’r setiau data hyn yn cynnwys addysg, iechyd, troseddu a gofal cymdeithasol i gynhyrchu cronolegau gwasanaeth manwl ar lefel unigol. Bydd cysylltu data yn galluogi adnabod pethau cyffredin a gwahaniaethau ar gyfer grŵp o bobl ifanc y camfanteisir arnynt yn droseddol mewn perthynas â’u nodweddion a’u llwybrau gwasanaeth.

FFRWD WAITH DAU: Astudiaethau achos

Gan dynnu ar ffrwd waith un, cynhyrchir astudiaethau achos i archwilio profiad byw pobl ifanc o atgyfeirio, ymgysylltu, effeithiolrwydd gwasanaethau a gwneud penderfyniadau proffesiynol. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i lywio’r cronolegau gwasanaeth lefel unigol ac i greu astudiaethau achos cyfansawdd y gellir eu defnyddio i archwilio:

  • Profiadau pobl ifanc a manteision canfyddedig ac anfanteision darpariaeth gwasanaeth gwahanol.
  • Prosesau gwneud penderfyniadau ymarferwyr, sut maent yn asesu gwybodaeth a beth sy’n dylanwadu ar y camau y maent yn eu cymryd.

Canfyddiadau

Dim canfyddiadau ar hyn o bryd


Person Arweiniol

Prif YmchwilyddNina Maxwell
Research Associate, CASCADEDorottya Cserzo

Academyddion ac Ymchwilwyr

Rheolwr Gwasanaeth Diogelu: Oedolion, Plant, Addysg, VAWDASV, Cyngor Dinas CasnewyddFinn Madell
Cydymaith Ymchwil, CASCADESophie Wood
Swyddog Ymchwil, SAIL Banc Data, Prifysgol AbertaweTing Wang
Ysgolion CysylltiedigN/A
Partneriaid cysylltiedigSAIL Banc Data
Prifysgol Abertawe – popdatasci.swan.ac.uk
ArianwyrYmchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cyhoeddiadau cysylltiedigN/A
Dolenni cysylltiedighttps://complexsafeguardingwales.org/
https://cascadewales.org/research/county-lines-a-co-ordinated-welsh-community-response-to-child-criminal-exploitation/
Dogfennau cysylltiedigN/A