Mae Grŵp Cynghori ar Ymchwil i Rieni CASCADE yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd i ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol. Eleni, cawson nhw gyfle i gydweithio â chyfarwyddwr y rhaglen Prifysgol Caerdydd, yr Athro David Wilkins, i ddatblygu sesiwn i fyfyrwyr y Cwrs Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.

Y nod oedd rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar brofiad bywyd rhieni sy’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol. Ceisiodd y sesiwn ddatblygu eu hymarfer proffesiynol yn y dyfodol, a hynny trwy feithrin eu hempathi.

Yr Athro David Wilkins

I ddechrau, fe wnaeth yr Athro Wilkins a’r grŵp drafod sut i gefnogi’r cwrs, gan sicrhau lles y rhieni oedd yn cymryd rhan ar yr un pryd. Fe wnaethon ni setlo ar gyfuniad o gyflwyniadau ar ffurf darlithoedd ac amser mewn grwpiau bach yn ystyried rhai senarios sy’n seiliedig ar ymarfer.

Bu bron i Storm Bert chwalu ein cynlluniau, ond fe wnaeth y rhai oedd yn gallu teithio i Gaerdydd ymuno â ni wyneb yn wyneb, wrth i’r lleill ymuno ar-lein. Yn ystod y ddarlith, eglurodd ein rhieni sut cafodd y grŵp ei ffurfio, y gwaith maen nhw’n ei wneud ac fe wnaethon nhw nodi themâu allweddol. Siaradon nhw am bwysigrwydd gweld rhieni fel partneriaid, meithrin empathi, gofalu am eu lles eu hunain, cefnogi pawb yn y teulu – nid y plentyn yn unig – a chydnabod y gwahaniaeth y gall gweithiwr cymdeithasol da ei wneud. Rhannodd rhai o’n haelodau eu profiadau a gorffennon nhw’r cyflwyniad gyda rhai cwestiynau a gafodd eu dewis ymlaen llaw. Cyn cymryd rhan yn y seminarau gyda’r myfyrwyr. Cafodd y ddarlith effaith fawr ar y myfyrwyr.

Dyfyniadau gan fyfyrwyr am y sesiwn

Fe wnaeth y sesiwn hon bwysleisio pa mor bwysig yw gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau, a dysgu o’u profiadau. Mae hefyd yn dangos sut y gall cynnwys y cyhoedd helpu i bontio’r bylchau rhwng hyfforddiant academaidd, ymarfer ac ymchwil.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad a dewrder ein rhieni a’u hymrwymiad i wella gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y cyfarfod effaith gadarnhaol arnyn nhw hefyd.

Dyfyniadau gan ein grŵp rhieni

Diolch yn fawr gan bawb.