
Cenhadaeth CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd. Rydym yn gwneud hyn drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd am ofal cymdeithasol plant yn ogystal â rhannu gwybodaeth newydd a chyfredol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau.
Yr hyn a wnawn

Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol

Sicrhau bod ein hymchwil ar gael i bawb, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau.

Datblygu adnoddau i gynnal gwaith ymchwil ynglŷn â gofal cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ymchwilwyr gan ddechrau ar lefel is-raddedig a pharhau yn hwyrach yn eu gyrfa.

Ymgysylltu ag amrywiaeth o gydweithredwyr ym maes ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.
Ein dull gweithredu

Yr unig ganolfan o’i math yng Nghymru – yn hyrwyddo tystiolaeth a gwella deilliannau

Rydym yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau ymchwil – Ethnograffeg, cyfweliadau a grwpiau ffocws, setiau data carfanau ac arferol, lled-arbrofion, treialon ac adolygiadau a reolir ar hap (cyflym, systematig a realaidd)

Mae gennym gysylltiadau cryf â pholisïau ac arferion – Rhieni a phlant, gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr, y llywodraeth (Cymru a’r DU) a’r trydydd sector

Rydym yn defnyddio cyllid grant gan ystod o ffynonellau – cynghorau ymchwil, y llywodraeth a’r drydydd sector
Partneriaeth Seilwaith CASCADE
Mae ein harbenigedd yn dod â phartneriaeth eithriadol ynghyd. CASCADE yw’r brif ganolfan ar gyfer ymchwil werthusol ym maes gofal cymdeithasol plant yn y DU. Mae’n rhan o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI), canolfan ragoriaeth flaenllaw yn y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil addysg sydd ag arbenigedd penodol mewn dulliau meintiol. Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) yn arweinydd cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer treialon a dulliau cysylltiedig. Roedd yr Ysgol Seicoleg yn 2il am ansawdd ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf ac mae SAIL yn cynnig cysylltiadau data o’r radd flaenaf. Gyda’n gilydd credwn y gallwn greu newid sylweddol yn ansawdd ymchwil gofal cymdeithasol plant sydd heb ei hail yn y DU a sut caiff ei defnyddio. Yn benodol, gallwn gynnig treialon a gwerthusiadau o ansawdd uchel; cysylltu data er mwyn deall canlyniadau tymor hir, a chynnwys defnyddwyr gwasanaeth (ein cyhoedd) ym mhob rhan o’n hymchwil. Rydym am i’r tair elfen hyn ryngweithio â’i gilydd i gynhyrchu ymchwil heb ei hail.

Rydym yn ymfalchïo mewn cefnogi a datblygu pobl drwy gydol eu gyrfaoedd, gan gynnwys arwain y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil. Cynnwys y rhai sydd â phrofiad o gael gwasanaethau ar draws ein gwaith mewn ffyrdd canlyniadol ac ennyn diddordeb y sector mewn ymdrechion parhaus ac ystyrlon i ddeall gwybodaeth ymchwil a’i defnyddio.
Nid trwy ein gwaith ymchwil yn unig yr ydym yn gwneud hyn. Rydym hefyd yn mynd ati mewn modd ymarferol i ddosbarthu, hyfforddi ac ymgysylltu â’r cyhoedd trwy ein prosiectau ExChange a’r tîm Cynnwyd y Cyhoedd.


Mae ExChange yn cynnig hyfforddiant rhad ac am ddim ac o safon uchel i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae’r podlediad hwn yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Rydym yn dysgu ac yn cynghori ar y cyd ynghylch ymchwil, gan gael effaith ar bolisïau yn ogystal ag arferion.


Er mwyn i’n hymchwil gael yr effaith fwyaf, rydym yn gweithio’n agos gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl eraill i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i’r afael â’r materion sy’n wirioneddol bwysig iddynt.
Yn seiliedig ar y pwyslais ar wneud gwahaniaeth er gwell i blant a theuluoedd, mae ein tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd a’u Cynnwys yn gweithio i gynnwys y cyhoedd ym mhob cam o’r cylch ymchwil.