Rhaglen datblygiad personol, proffesiynol, a sgiliau arwain uchel ei pharch, hynod gystadleuol sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yw Crwsibl Cymru, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn.  Fe gynigir i ddeg ar hugain o bobl y flwyddyn yn unig. Mae carfan 2024 yn cynnwys dau ymchwilydd dawnus o CASCADE – Verity Bennett a Helen Hodges.  Maen nhw’n ymuno â chyn-fyfyrwyr enwog, a Sally Holland (2011), Hannah Bayfield, Nina Maxwell (2021) a Phil Smith (2023) yn eu plith. 

Mae’r Crwsibl yn cefnogi arloesedd a ysbrydolwyd gan ymchwil a chydweithio trawsddisgyblaethol yng Nghymru gyda’r rhaglen wedi’i chynllunio i alluogi ymchwilwyr i drin a thrafod sut i fynd i’r afael â’r heriau ymchwil presennol sy’n wynebu Cymru.  Gwneir hyn trwy siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau a thrafodaethau anffurfiol.   Mae llwyddiant parhaus CASCADE i sicrhau lleoedd ar y rhaglen yn dyst i’r dalent eithriadol a’r potensial arloesol sy’n cael eu meithrin o fewn y Ganolfan ac sy’n argoeli’n dda am y 10 mlynedd nesaf! 

O’r chwith i’r dde – Rhys Bevan-Jones, Verity Bennett, Helen Hodges, Ian Thomas, a Hayley Reed. Detholiad 2024 ar gyfer SPARK