Ar ddydd Gwener 1 Tachwedd bu Josie a Rachael o dîm CASCADE Cynnwys y Cyhoedd, ynghyd â’r ymchwilydd Phil Smith yn lwcus i wario’r diwrnod yn nigwyddiad blynyddol “Balch o Fod yn Fi” gan Voices From Care Cymru, sy’n dathlu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru.
Ar ôl cychwyn ben bore i fynd draw i Stadiwm Dinas Abertawe, (roedden ni ar bigau’r drain i gael caniatâd i helpu ein hunain i’r te a choffi….) cafodd y stondin CASCADE ei gosod gan y tîm ac yn fuan iawn dechreuon ni sgwrsio â phobl newydd a chyfarwydd.
Fe ddywedon ni helo wrth y nifer o bobl ifanc yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw yn ein grŵp ymchwil Lleisiau CASCADE; mae hi bob amser yn braf i’w gweld nhw y tu hwnt i’n sesiynau cynghori ymchwil sy’n cael eu cynnal bob dau fis. Roedd gweithwyr proffesiynol a chynrychiolwyr o ystod o sefydliadau yno, gan gynnwys y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, The Fostering Network, Class Cymru Prifysgol Caerdydd – a hen ddigon o bobl ifanc balch, teuluoedd a staff cefnogi’r digwyddiad o Voices From Care Cymru a oedd yno i gymryd rhan yn y gweithgareddau ac i glywed gan siaradwyr arbennig.
Yn hwyrach y bore hwnnw, fe glywsom ni gyflwyniadau a gyffyrddodd â’r galon ac ysbrydoledig gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Roedd clywed eu hanes a’u safbwyntiau wedi llywio awyrgylch y dydd – gan dynnu sylw at ddyfalbarhad a natur benderfynol y rhai sydd â phrofiad o ofal yn ystod eu bywydau bob dydd. Dyma rywbeth yr ydyn ni’n ymwybodol iawn ohono oherwydd natur ein gwaith yn CASCADE. Roedd cael dydd Gwener gyfan i ymgyfarwyddo â gwaith o sefydliadau eraill – ac o’r bobl ifanc eu hunain – wir yn fraint.
Er hynny, nid yn unig gwrando a chael diwrnod i ffwrdd o’r swyddfa oedd y bwriad: Roedd Phil Smith, ymchwilydd o CASCADE, wedi rhannu ei gynlluniau ar brosiect sydd ar fin dechrau sy’n ystyried rhan Cynghorydd Personol ym mywydau pobl ifanc sy’n gadael gofal.
Buon ni’n cynnal sesiynau creadigol hefyd i drafod â’r rhai a oedd yn bresennol yn BALCH ynglŷn â’u safbwyntiau cychwynnol ar beth y dylai’r gwaith ymchwil ei ystyried.
Roedd hyn yn cynnwys gweithgaredd i greu mwgwd (er mwyn dechrau meddwl am sut y dylai cynghorydd personol da edrych); ysgrifennu cerdyn post i’r ymchwilydd (i ddweud wrthyn nhw beth sy’n bwysig i ofyn ac i feddwl amdano mewn prosiect ymchwil); a waliau graffiti i daflu syniadau. Roedd y tîm wedi clywed syniadau gwych ac wedi dysgu llawer. Ar lefel bersonol, roedd hyn yn gipolwg gwych i ddangos pwysigrwydd gwaith cynnwys y cyhoedd ar y cychwyn cyntaf – a hyd yn oed cyn i’r prosiect ymchwil ddechrau.
Hwyrach ein bod wedi gadael olion gliter, plu, a stampiau ar ein hôl ni wrth i ni adael y stadiwm i yrru’n ôl i Gaerdydd- ond er hynny roedd yn wych cael bod yn rhan o’r diwrnod ac i glywed gan unigolion sy’n rhan o’r tîm Voices From Care Cymru – a’r holl sefydliadau eraill sy’n gweithio ac yn cefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad gofal yn Ne Cymru.