Mae gan Lywodraeth Cymru dudalennau gwe Ystadegau ac Ymchwil pwrpasol ar gyfer cyhoeddiadau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i’r sector gofal cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ddolenni i’r rhain ar y tudalennau priodol ar gyfer pob set ddata.

Bydd pob cais i gael mynediad at ficro-data heb ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru at ddibenion ymchwil yn cael ei anfon at Banel Ystadegau a Mynediad Data Ymchwil Llywodraeth Cymru. Os bydd y Panel yn cymeradwyo’r cais, bydd y data ar gael i’r ymchwilwyr trwy lwyfan rhithwir diogel. Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymchwilwyr i feddwl a allai Cronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ddiwallu eu hanghenion. Os nad ydyw, cysylltwch â ADRWales@gov.wales am arweiniad ar wneud cais am fynediad i ficro-ddata sydd heb ei gyhoeddi. 

Mae Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru – partneriaeth Llywodraeth Cymru ac addysg uwch – yn parhau i weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac awdurdodau lleol i gynyddu argaeledd data ar gyfer ymchwil yng Nghronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Mae catalog data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn tyfu ochr yn ochr â diweddariadau rheolaidd i setiau data presennol. Dylai ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cyrchu a chysylltu data gofal cymdeithasol plant â setiau data eraill ar gyfer ymchwil gysylltu â Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw drwy lenwi’r ffurflen ar-lein https://saildatabank.com/contact/.