Gan Josie Keam
Mae’r blog hwn yn grynodeb o sesiwn ddiweddaraf y Grŵp Cynghori Pobl Ifanc Lleisiau CASCADE a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2024.
Yn ystod ail wythnos fy rôl newydd yn Weithiwr Cynnwys Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, cynlluniodd ac arweiniodd Rachel a finnau sesiwn Lleisiau CASCADE Mis Mawrth gyda’r bobl ifanc sy’n gweithio gyda ni i’n cynghori ni ar ymchwil Daeth Dr Emily Lowthian a Dr Laura Cowley o Brifysgol Abertawe â’u hymchwil i’r grŵp, sef dau brosiect cysylltu data mawr i’w trin a’u trafod. (roedd cinio yn seibiant angenrheidiol i ni gyd ar ôl yr holl waith),
Gan fod y ddwy astudiaeth yn brosiectau meintiol, roedd trafodaethau’n cynnwys meithrin dealltwriaeth o sut gall ymchwilwyr ddehongli a gweithio gyda data gweinyddol ar raddfa poblogaeth heb golli neu gamddeall profiadau bywyd go iawn dynol, unigol a chymhleth. Er y gwnaeth bobl ifanc CASCADE ymdrech arbennig yn nodi’r diffygion anochel sy’n bodoli yn eu data ymchwil, mae’r un mor bwysig i ddod o hyd i ffyrdd o ddehongli a chynrychioli profiad o ofal yn y canfyddiadau’r ymchwil yn y pen draw ac wrth rannu’r wybodaeth.
Canolbwynt ein trafodaeth â Dr Lowthian oedd deall y cyd-destun y tu ôl i ganlyniadau addysgol plant o ystod wahanol o gefndiroedd a llwybrau gofal, gan gynnwys sut y gall mesuriadau safonol o ‘’lwyddiant’’ a chyrhaeddiad gamliwio profiadau a llwyddiannau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o addysg. Buom yn trafod y ffactorau sydd ynghlwm wrth greu profiadau o ansefydlogrwydd mewn gofal gyda Dr Cowley, gan ddefnyddio gweithgaredd graddio i ysgogi trafodaeth i’r mathau o bethau oedd bwysicaf wrth ddylanwadu ar ansefydlogrwydd mewn gofal.
Roedd gan y bobl ifanc syniadau a heriau gwych i’r ymchwilwyr, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd arbennig defnyddio’r mathau hyn o brosiectau, sy’n gweithio gyda data sydd yn aml yn fanwl ond wedi’u gwahanu oddi wrth y cyd-destun a phrofiad bywyd. Roedd yn gipolwg gwych i mi weld yr heriau a gyflwynwyd yn sgil cynnwys pobl mewn prosiectau meintiol mor gymhleth, a chefais i lawer i feddwl amdano wrth i mi ystyried cynllunio ein gwaith a dulliau gweithredu yn y dyfodol.
Yn ogystal â fy nghyflwyno i’r pleserau o weithio ar ddydd Sadwrn, cefais i gyfle gwych i gwrdd â rhai o’r bobl ifanc y bydda i’n gweithio gyda nhw yn ystod fy rôl newydd. Roedd yn wych cael gweld sut mae’r grŵp yn gweithio gydag ymchwilydd, a chael clywed eu lleisiau yn cyfrannu at gyfeiriad a phroses yr ymchwil hwn.