Rydym yn falch iawn o ddathlu yr Athro Andy Pithouse, sydd wedi derbyn MBE yn ddiweddar am ei wasanaethau i ofal cymdeithasol plant.
Mae Andy wedi gwneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i ymchwil gwaith cymdeithasol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae ei waith wedi helpu i lunio’r ffordd y caiff gwaith cymdeithasol ei ddeall, ei astudio a’i werthfawrogi, gan ddylanwadu ar genedlaethau o ymchwilwyr ac ymarferwyr.

Cyn sefydlu CASCADE roedd y rhan fwyaf o yrfa drawiadol Andy ym maes ymchwil gofal cymdeithasol plant eisoes wedi digwydd, ond mae bob amser wedi bod yn gefnogol iawn i’r ganolfan ac mae’n parhau i fod felly fel Athro Emeritws. Roedd yn gyd-ymchwilydd ar werthusiad o’r peilot Frontline, sef un o astudiaethau cynnar CASCADE. Mae ei waith cynharach ar waith cymdeithasol fel ‘crefft anweledig’, sy’n deillio o’i ymchwil PhD ei hun a gynhaliwyd yn y 1980au, yn dal i gael ei ddyfynnu’n aml yn y maes. Roedd hwn yn un o’r astudiaethau ethnograffig cyntaf erioed o waith cymdeithasol, ac mae’n parhau i sefyll prawf amser.
Mae’r anrhydedd hwn yn cydnabod nid yn unig gyfraniad academaidd Andy, ond hefyd ei ymrwymiad parhaus i gryfhau maes gofal cymdeithasol plant a chefnogi’r rhai sy’n gweithio ynddo.
Gallwch ddarllen mwy am yrfa Andy a’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon yn y cyfweliad gyda Phrifysgol Caerdydd:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/3029706-cardiff-university-emeritus-professor-in-social-research-receives-mbe
